Heddiw mae'r Cyngor wedi cyhoeddi'r unfed adroddiad ar ddeg yn unol ag Adran 19 y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn dilyn Storm Dennis. Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar achosion y llifogydd yng nghymuned Ynys-hir.
Yn unol â'r ddeddf, mae'n rhaid i'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (Cyngor Rhondda Cynon Taf yn yr achos yma) ddarparu adroddiad ffeithiol yn esbonio'r hyn ddigwyddodd yn ystod y llifogydd. Yn dilyn ymchwiliad i'r 28 ardal a gafodd eu heffeithio gan dywydd digynsail Storm Dennis (15-16 Chwefror 2020) bydd y Cyngor yn cyhoeddi 19 adroddiad yn canolbwyntio ar gymunedau penodol.
Mae cyhoeddiad heddiw yn trafod yr adroddiad mwyaf diweddar mewn perthynas â Threorci ym mis Chwefror 2022, a'r adroddiadau ynglŷn â Hirwaun, Nantgarw, Pontypridd, Trefforest, Glyn-taf a Ffynnon Taf ym mis Ionawr 2022. Mae modd gweld yr holl adroddiadau yma yn ogystal â chyhoeddiadau ar gyfer Pentre (Gorffennaf 2021), Cilfynydd (Medi 2021), Treherbert (Tachwedd 2021) ac Adroddiad Trosolwg ar gyfer Rhondda Cynon Taf gyfan (Gorffennaf 2021) ar wefan y Cyngor.
Mae adroddiadau Adran 19 yn cydnabod yr Awdurdodau Rheoli Risg, nodi'r swyddogaethau maen nhw wedi'u cyflawni ac yn amlinellu'r cynigion gweithredu ar gyfer y dyfodol. Mae'r adroddiadau wedi cael eu llywio gan arolygiadau ar ôl y storm a gynhaliwyd gan Garfan Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor yn ogystal â gwybodaeth a gasglwyd gan drigolion, Carfan Iechyd Cyhoeddus y Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru.
Mae'r adroddiad diweddaraf, ddydd Mawrth, 24 Mawrth yn canolbwyntio ar Ynys-hir a Chwm Rhondda Fach (Ardal 20 Ymchwiliad Llifogydd RhCT). Mae'r adroddiad yn nodi bod glaw eithafol Storm Dennis wedi arwain at lifogydd mewn 26 eiddo (gan gynnwys 24 eiddo preswyl a dau eiddo masnachol) yn ogystal â llifogydd ar y briffordd.
Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w weld ar wefan y Cyngor, yma.
Mae'r adroddiad wedi darganfod bod dwy brif ffynhonnell i'r llifogydd mewnol yn ardal yr ymchwiliad - gorlifo Afon Cwm Rhondda Fach a gorlifo cwrs y dŵr ar Deras y Waun.
Achos gorlifo'r afon oedd coeden wedi cwympo a gweddillion yn atal llif yr afon. Digwyddodd hyn wrth bont ar y briffordd yn cysylltu Teras yr Afon â Chlos Glan-yr-afon gan achosi i lefel y dŵr godi tu ôl i'r strwythur yma. Mae'r adroddiad yma'n nodi bod lefelau uchel iawn yr afon yn ffactor mawr yn y llifogydd. Recordiodd gorsaf Cyfoeth Naturiol Cymru ym Maerdy (tua 7.5 km i fyny cwrs yr afon) yr ail lefel uchaf yn ystod Storm Dennis.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod y gorlifo yn Nheras y Waun wedi'i achosi gan bentwr o weddillion yn atal cwrs y dŵr . Digwyddodd hyn o ganlyniad i ddŵr ar yr arwyneb yn sgil erydu ar ochr y bryn a gweddillion yn cael eu cario i gegau'r cwlferi. Nodwyd taw dŵr arwyneb oedd ffynhonnell y llifogydd mewn un cartref ar Deras y Faner yn dilyn llifogydd ar ran isel o'r ffordd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yntau'n Awdurdod Rheoli Risg ar gyfer rheoli llifogydd afonydd, wedi cynnal ymchwiliad ar wahân er mwyn deall sut digwyddodd y llifogydd yn Ynys-hir. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi comisiynu Prosiect Modelu Llifogydd Cwm Rhondda er mwyn deall yr opsiynau posib o reoli llifogydd yn y dyfodol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datblygu cyfres o argymhellion er mwyn mynd i'r afael â mannau y gellir eu gwella wrth ymateb i lifogydd yn y dyfodol, gan gynnwys y Gwasanaeth Rhybudd Rhag Llifogydd ac ymateb rheoli achosion.
Y Cyngor, a ninnau'n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, yw'r Awdurdod Rheoli Risg sy'n gyfrifol am reoli cwrs arferol y dŵr a llifogydd. Mae'r Cyngor wedi rhoi 16 cam ar waith ac wedi cynnig 6 cham gweithredu arall mewn ymateb i lifogydd Ynys-hir. Bydd rhai o'r gweithredoedd hynny'n cynnwys gwaith arolygu, glanhau isadeiledd y priffyrdd ac arwain ar ddatblygiad Ystafell Reoli i ddarparu ymateb trylwyr mewn achosion o lifogydd yn y dyfodol.
Mae'r Cyngor hefyd wedi ehangu amserlen archwilio a chynnal asedau fel ei bod yn cynnwys y cwlferi oedd wrth wraidd y llifogydd. Mae'r Cyngor hefyd wedi uwchraddio 'Culvert Inlet 2' ac adrannau o gwrs arferol y dŵr yn Nheras y Waun i leihau risg erydu ac unrhyw beth yn rhwystro llif y dŵr.
Mae adroddiad yn nodi bod y tywydd yn ystod Storm Dennis yn eithafol, ac mae’n annhebygol y byddai modd atal pob achos o lifogydd o dan amgylchiadau tebyg. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod Awdurdodau Rheoli Risg wedi cyflawni eu swyddogaethau'n foddhaol wrth ymateb i'r llifogydd, ond bod angen mesurau pellach er mwyn bod yn fwy parod pe bai achos debyg yn y dyfodol.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: "Mae cyhoeddiad heddiw yn canolbwyntio ar lifogydd Ynys-hir yn ystod Storm Dennis. Dyma unfed adroddiad Adran 19 ar ddeg y Cyngor a bydd 19 yn cael eu cyhoeddi i gyd. Mae'n rhaid i'r Cyngor gyhoeddi'r adroddiad yma yn dilyn llifogydd eithafol Chwefror 2020. Mae'r adroddiad yma'n dilyn cyhoeddi' rhai eraill ar gyfer Treorci, Hirwaun, Nantgarw, Pontypridd, Trefforest, Glyn-taf a Ffynnon Taf ers y Flwyddyn Newydd.
"Mae ymchwilio i achosion y llifogydd yma yn sgil Storm Dennis yn flaenoriaeth i'r Cyngor ac mae swyddogion yn gweithio ar yr adroddiad Adran 19 yma ac yn creu rhaglen fawr i fynd i'r afael a'r llifogydd yn ein cymunedau. Mae rhaglen fawr yn cynnwys dros 100 o gynlluniau lliniaru llifogydd yn parhau. Mae dros 50 o'r cynlluniau hynny eisoes wedi'u cyflawni yn sgil buddsoddiad gwerth mwy na £13 miliwn ers mis Chwefror 2020.
"Mae'r Cyngor hefyd wedi llwyddo i sicrhau dros £3.8 miliwn gan raglenni Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Grant Gwaith Graddfa Fach Llywodraeth Cymru i ddechrau gwaith lliniaru llifogydd yn 2022/23. Mae cyfraniadau pellach y Cyngor yn cynyddu'r swm i £4.35 miliwn er lles ein cymunedau.
"Mae adran 19 yr adroddiad ar Ynys-hir yn cydnabod achosion y llifogydd yn ystod Storm Dennis. Mae'r adran hefyd yn amlinellu'r hyn mae'r Awdurdodau Rheoli Risg (sef y Cyngor a Chyfoeth Naturiol Cymru) wedi'i wneud ac yn cynnig ei wneud yn y dyfodol er mwyn sicrhau ein bod ni'n barod ar gyfer achosion o stormydd ac effeithiau newid hinsawdd yn y dyfodol. Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor. Mae'r adroddiad yn nodi bod y ddau Awdurdod Rheoli Risg wedi cyflawni eu swyddogaethau yn foddhaol."
Wedi ei bostio ar 24/03/22