Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi derbyn dwy wobr genedlaethol, yn gydnabyddiaeth o'i waith yn cefnogi staff â phroblemau iechyd meddwl. Efe yw'r unig awdurdod lleol yng Nghymru sydd wedi ennill un o'r gwobrau yma.
Mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio’n agos gyda Case UK a’i gynllun ABLE Futures llwyddiannus. Caiff y cynllun yma'i gefnogi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Caiff staff y Cyngor hyd at naw mis o gymorth cyfrinachol trwy gynllun ABLE Futures. Mae'r cynllun wedi cael croeso cynnes ac wedi cyflawni deilliannau gwych yn genedlaethol, gan ganiatáu i fwy nag 80% o staff barhau yn y gwaith.
O ganlyniad i'r gwaith rhagorol mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ei wneud, mae wedi ennill gwobr cydnabyddiaeth o fusnes, am gefnogi staff sydd â materion iechyd meddwl a lles.
Derbyniodd Rhianydd Davies, Cyngor Rhondda Cynon Taf, wobr cydnabyddiaeth unigol hefyd am ei chefnogaeth ragorol i faterion iechyd meddwl. Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd yr unig awdurdod lleol yng Nghymru i ennill gwobr gydnabyddiaeth.
Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: “Waeth beth yw ein hoedran, rhyw neu gefndir, rydyn ni i gyd mewn risg o ddioddef o broblemau iechyd meddwl yn ein bywyd. Mae yna sawl cyflwr, gan gynnwys iselder, PTSD, gorbryder, anhwylder deubegwn a bod yn gaeth i rywbeth ac rydyn ni'n awyddus i gefnogi ein staff pan maen nhw'n dioddef.
“Rwy wrth fy modd bod gwaith y Cyngor wrth gefnogi ei staff wedi cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol. Rydyn ni wedi ymrwymo i helpu unigolion sy’n dioddef o ran eu hiechyd meddwl ac sy angen cael gwybod bod pobl yno yn gefn iddyn nhw.
“Bydd y Cyngor yn parhau i gefnogi’r rhai sydd angen cymorth, gan eu helpu i gynnal eu swydd, a gwella'u llesiant a'u hiechyd.”
Cefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl yn y gwaith
Mae cynllun Able Futures yn cynnig naw mis o gyngor, arweiniad a chefnogaeth gyfrinachol am ddim gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol i helpu unigolion i ymdopi â bod yn y gwaith, law yn llaw â helpu i reoli mewn modd effeithiol eu cyflyrau iechyd meddwl fel gorbryder, iselder neu straen.
Mae Able Futures yn helpu unigolion i reoli eu hiechyd meddwl yn y gwaith, gan ganiatáu iddyn nhw gael mwy o ddiwrnodau da na drwg. Mae gweithwyr proffesiynol wrth law i helpu unigolion i ddysgu ffyrdd o ymdopi, meithrin gwytnwch, a manteisio ar therapi yn y gwaith. Maen nhw hefyd yno i ganiatáu i gyflogwyr wneud addasiadau i helpu unigolion i ymdopi â'u hiechyd meddwl yn y gweithle.
Mae Case UK ar hyn o bryd yn cynnig gwasanaethau cymorth iechyd meddwl Able Futures yr Adran Gwaith a Phensiynau yn y gweithle. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Able Futures yn rhad ac am ddim ar 0800 321 3137 (8am–10.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener).
Wedi ei bostio ar 21/03/2022