Mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud mewn perthynas â'r cynllun peilot i wella a mabwysiadu saith ffordd breifat yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r gwaith wedi dod i ben yn Belle Vue, Trecynon a bellach wedi dechrau yn Heol Penrhiw, Aberpennar.
Ym mis Medi 2021, cytunodd Aelodau'r Cabinet i gynnal cynllun peilot a fydd yn darparu gwelliannau y mae wir eu hangen ar chwe ffordd breswyl breifat ledled Rhondda Cynon Taf. Bydd y cynllun yn cael ei ariannu gan ddefnyddio £250,000 o gyllid y Cyngor yn ogystal â £50,000 o gyllid wrth gefn sydd wedi'i glustnodi ar gyfer y gwaith.
Nododd yr Aelodau fod y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus yn ei gais i sicrhau cyllid Llywodraeth Cymru gwerth £157,000 ar gyfer y seithfed cynllun yn Belle Vue, Trecynon.
Rhannodd y Cyngor y newyddion diweddaraf ar gynnydd y cynllun ym mis Chwefror, a hynny'n dilyn cwblhau'r holl waith a oedd yn gysylltiedig â'r cynllun cyntaf yn Nheras Trafalgar, Ystrad.
Yn dilyn y gwaith uchod, cafodd gwaith mawr ei gwblhau yn Belle Vue, Trecynon (gweler y llun). Mae'r gwaith yma wedi trawsnewid y stryd. Roedd y cynllun yn cynnwys gwaith ailadeiladu sylweddol ar y ffordd gerbydau yn ogystal ag adnewyddu llwybrau troed - mae hyn wedi bod yn uchelgais ar gyfer y gymuned leol.
Mae'r gwaith sydd wedi'i gwblhau hyd yn hyn yn cynrychioli dau gam cyntaf y rhaglen, sydd wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn Belle Vue. Bydd y Cyngor yn cwblhau'r trydydd cam, sef cam olaf y gwaith ar y safle yma, yn y gwanwyn. Bydd y ffordd yn cael ei mabwysiadu gan y Cyngor, fel sydd wedi digwydd ym mhob un o'r cynlluniau sy'n rhan o'r cynllun peilot, a bydd y Cyngor felly'n gyfrifol am waith cynnal a chadw yn y dyfodol.
Mae'r Cyngor hefyd wedi dechrau gwaith yn y trydydd lleoliad sef Heol Penrhiw yn Aberpennar. Y ffyrdd eraill sydd wedi'u cynnwys yn rhan o'r cynllun peilot yw Rhes y Glowyr, Llwydcoed; Maes Aberhonddu, Aberaman; Teras Ochr y Bryn, Llwynypia a Chlos y Beirdd, Rhydfelen.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: "Rydw i'n hapus iawn gyda'r cynnydd sy'n cael ei wneud yn rhan o gynllun peilot y Cyngor i wella a mabwysiadu saith ffordd breifat. Mae'r gwaith bellach wedi'i gwblhau yn Nhrecynon a hynny'n dilyn y cynllun a gafodd ei gwblhau yn Ystrad yn ddiweddar. Roedd y Cabinet wedi nodi ei fod yn cefnogi'r cynllun ym mis Medi a bydd yn cael ei gwblhau eleni.
"Mae cyflwr pob un o'r saith safle wedi bod yn anfoddhaol ers peth amser, ac mae'r gwelliannau sydd eu hangen yn amrywio o waith carthffosiaeth i wella goleuadau stryd, yn ogystal â gwaith gosod wyneb newydd ar y ffordd. Mae gwaith cynnal a chadw ffyrdd yn broblem gyffredin i drigolion sy'n byw ar ffyrdd heb eu mabwysiadu. Dyma pam rydyn ni wedi darparu cyllid er mwyn cyflawni nifer o gynlluniau peilot, gan gyfrannu at gynllun peilot ehangach Llywodraeth Cymru ledled Cymru.
"Mae'r gwaith a gafodd ei gwblhau'n ddiweddar yn Belle Vue wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'r stryd. Cafodd y gwaith ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i gynnal gan y Cyngor. Mae hyn wedi bod yn broblem i drigolion sy'n byw yno ers amser hir. Rydw i'n falch bod ein buddsoddiad wedi arwain at gwblhau'r gwelliannau cychwynnol, gan sicrhau y bydd y Cyngor yn gyfrifol am gynnal a chadw'r ffordd yn y dyfodol. Byddwn ni'n dychwelyd i Belle Vue er mwyn cwblhau cam tri, sef cam olaf y cynllun, yn y gwanwyn.”
Wedi ei bostio ar 15/03/22