Skip to main content

Dyfarniad cyllid o £3.8 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith lliniaru effeithiau llifogydd

Mae’r Cyngor wedi sicrhau cyllid sylweddol o fwy na £3.8 miliwn ar draws dwy raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022/23 – a hynny i gyflawni gwaith wedi’i dargedu a fydd yn lleihau’r perygl o lifogydd mewn cymunedau.

Bob blwyddyn, gofynnir i Awdurdodau Rheoli Risg yng Nghymru (fel Cyngor Rhondda Cynon Taf) wneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru, er mwyn cyflawni rhaglen o waith cyfalaf rheoli perygl llifogydd. Yna mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd yn dyrannu cyllid ar gyfer y ceisiadau llwyddiannus.

Mae'r Cyngor wedi cael gwybod ei fod wedi derbyn 13 o ddyfarniadau cyllid gwerth cyfanswm o £2.939 miliwn drwy'r Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd - yn amodol ar y caniatâd priodol, caniatâd datblygu a chymeradwyo achos busnes i fynd rhagddo. Mae 12 dyfarniad pellach gwerth cyfanswm o £939,250 wedi'u sicrhau drwy'r rhaglenni Grant Gwaith Graddfa Fach. Mae hyn yn cynrychioli cyllid o £3,878,250 a sicrhawyd ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Bydd y Cyngor hefyd yn cyfrannu £472,500 i gyflawni'r cynlluniau ar draws dwy raglen Llywodraeth Cymru, gan ddod â chyfanswm y buddsoddiad y flwyddyn nesaf i £4,350,750. Mae rhestr lawn o bob dyfarniad cyllid wedi'i chynnwys isod.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae’r cyllid o £3.8 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau rheoli perygl llifogydd yn Rhondda Cynon Taf wedi’i groesawu gan y Cyngor. Bydd y 25 o ddyfarniadau cyllid ar draws y ddwy raglen yn helpu i symud ymlaen â gwaith lliniaru llifogydd ar draws y Fwrdeistref Sirol, gan fod o fudd i fwy na 2,000 eiddo.

“Bydd y cyllid yma ar gyfer 2022/23 yn ategu ymdrechion sylweddol y Cyngor ei hun yn y maes yma, wrth i ni barhau i ddarparu rhaglen gyfalaf gyflym o fwy na 100 o gynlluniau lliniaru llifogydd neu ddraenio. Ar hyn o bryd, mae mwy na 50 o’r rhain wedi’u cwblhau, ac erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol byddwn ni wedi buddsoddi mwy na £13 miliwn ers Storm Dennis.

“Bydd lleihau’r perygl o lifogydd yn ein cymunedau yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Cyngor, er mwyn diogelu trigolion a busnesau, ac i ymateb i effeithiau cynyddol niweidiol Newid yn yr Hinsawdd.”

Mae'r Cyngor wedi cael gwybod ei fod wedi derbyn y grantiau canlynol - yn amodol ar y caniatâd priodol, caniatâd datblygu a chymeradwyaeth achos busnes i symud ymlaen - gan y Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd :

  • Ffordd Abertonllwyd (Dyluniad Manwl/Achos Busnes Llawn) – £75,000.
  • Cynllun Lliniaru Llifogydd Afon Cynon/Stryd Wellington (Achos Busnes Amlinellol) – £30,000.
  • Cwmaman Cam 2 (Adeiladu) – £297,500.
  • Heol Glenboi, Gorsaf Bwmpio (Adeiladu) – £1.105 miliwn.
  • Cynllun Lliniaru Llifogydd Maes y Ffynnon (Achos Cyfiawnhad Busnes) – £25,000.
  • Cwlfer Nant Ffrwd (Achos Cyfiawnhad Busnes) – £25,000.
  • Cam 2 Nant Gwawr (Achos Busnes Amlinellol) – £50,000.
  • Teras Maes-y-deri, Cilfynydd (Achos Busnes Amlinellol) – £50,000.
  • Adfer Corsydd Mawn (Achos Busnes Amlinellol) – £25,000.
  • Cynllun Lliniaru Llifogydd Stryd y Gwirfoddolwr, Pentre (Dyluniad Manwl/Achos Busnes Llawn) – £500,000.
  • Cam 1 Cynllun Lliniaru Llifogydd Treorci (Adeiladu) – £331,500.
  • Cam 2 Cynllun Lliniaru Llifogydd Treorci (Cynllun Manwl/Achos Busnes Llawn) – £400,000.
  • Heol Turberville, Porth (Achos Cyfiawnhad Busnes) – £25,000.

Mae'r Cyngor wedi cael gwybod ei fod wedi derbyn y grantiau canlynol gan y rhaglenni Grant Gwaith Graddfa Fach:

  • Stryd Gwernifor, Ail-leinio Cwlfer (Dylunio) – £21,250.
  • Stryd Kingcraft, Ail-leinio Cwlfer (Dylunio) – £21,250.
  • Teras Tanycoed, Uwchraddio Cwlfer  (Adeiladu) – £170,000.
  • Stryd Baglan, Ail-leinio Cwlfer (Dylunio) – £21,250.
  • Heol Bryn-tyle, Rhwydwaith Gorlif (Dylunio ac Adeiladu) – £148,750.
  • Gorllewin Parc Cae Felin, Ail-leinio Cwlfer (Dylunio ac Adeiladu) – £127,500.
  • Ffordd y Fynwent, Glyn-taf (Dylunio ac Adeiladu) – £148,750.
  • Stryd Jones, Ail-leinio Cwlfer (Dylunio) – £21,250.
  • Ffordd y Cae Ŷd, Basn Malurion (Dylunio ac Adeiladu) – £63,750.
  • Nant y Fedw, Atgyweirio Difrod Sgwrfa (Dylunio) – £21,250.
  • Pentre, Adnewyddu Strwythurol/Ail-leinio (Dylunio ac Adeiladu) – £148,750.
  • Telemetreg (Dylunio ac Adeiladu) – £25,500.
Wedi ei bostio ar 18/03/22