Dyma roi gwybod i drigolion y bydd Rhybudd Tywydd Melyn y Swyddfa Dywydd ar waith rhwng 1pm a 7pm ddydd Sadwrn, 12 Mawrth, oherwydd tywydd gwlyb a gwyntog a fydd yn effeithio ar Rondda Cynon Taf.
Mae disgwyl i’r glaw a'r gwynt achosi amodau gyrru gwael, gan amharu o bosib ar y gallu i deithio mewn mannau. Dylech chi ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer teithio yn ystod cyfnod y rhybudd tywydd a gyrru yn ôl yr amodau.
Os cewch chi unrhyw broblem yn ystod cyfnod Rhybudd Tywydd Melyn y Swyddfa Dywydd, ffoniwch ein rhif ffôn Argyfwng y Tu Allan i Oriau Arferol, sef 01443 425011.
Wedi ei bostio ar 11/03/22