Skip to main content

Amser i Gofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Gwastraff Gwyrdd

Green waste sack

Os ydych chi'n caru eich gardd, cofiwch gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gwyrdd os dydych chi ddim wedi gwneud hynny eisoes!

Efallai ei bod hi'n dal yn oer y tu allan, ond mewn ychydig wythnosau bydd ein gerddi'n dechrau blodeuo, felly mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn atgoffa ei drigolion i gofrestru ar gyfer ei gasgliadau gwastraff gwyrdd os dydyn nhw ddim wedi gwneud hynny'n barod.

Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer casgliadau Gwastraff Gwyrdd o'r blaen, does dim angen i chi wneud hyn eto. Serch hynny, os ydych wedi cofrestru o'r blaen, cofiwch ddefnyddio'r gwasanaeth o leiaf unwaith bob 12 casgliad neu efallai y bydd tarfu ar eich casgliadau.

Mae dros 36,000 o gartrefi eisoes wedi cofrestru ar gyfer y cynllun ac mae bron i 76,000 o sachau wedi’u dosbarthu. Amcangyfrifir bod bron i 85% o drigolion RhCT sy'n ailgylchu gwastraff gwyrdd bellach wedi cofrestru ac yn barod am eu casgliadau wythnosol ar gyfer y Gwanwyn. Fydd bagiau ailgylchu clir DDIM yn cael eu casglu, a rhaid i chi fod wedi cofrestru ar gyfer y cynllun.

Os dydych chi ddim wedi cofrestru eto, mae amser o hyd ac mae modd i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth AM DDIM, yn gyflym ac yn hawdd ar-lein yn www.rctcbc.gov.uk/BagNewyddSbon. Os does dim modd i chi ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, mae modd i chi ffonio 01443 425001 rhwng 8.30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd trigolion wedyn yn cael eu DWY sach AM DDIM er mwyn dechrau ailgylchu'u gwastraff gwyrdd.

Mae bagiau ychwanegol ar gael ond byddan nhw'n costio £3 yr un. Mae'r tâl yma am y sach yn unig. Mae pob sach yn cyfateb o ran maint i ddau fag ailgylchu clir a hanner.

Cyn i'r sachau newydd gael eu cyflwyno, roedd y Cyngor yn casglu tua 8,200 tunnell o wastraff gwyrdd gan drigolion yn flynyddol ar gyfartaledd - mae hyn yn cyfateb i 2,739,000 o fagiau ailgylchu llawn!

Adolygwyd y cynllun ailgylchu gwastraff gwyrdd y llynedd yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i ymladd y newid yn yr hinsawdd ac i ailgylchu. Bydd cyflwyno sachau gwyrdd cynaliadwy ac ailddefnyddiadwy newydd yn golygu bod y Cyngor yn lleihau ei ddefnydd cyffredinol o blastig o tua 3 miliwn o fagiau clir bob blwyddyn.

Yn ogystal â hyn, mae'r Cyngor wedi gofyn i'w drigolion gofrestru ar gyfer y gwasanaeth fel bod modd i'r criwiau osgoi teithiau diangen a lleihau ôl troed carbon cyffredinol y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn atgoffa ei drigolion y bydd y garfan Gofal y Strydoedd yn dechrau casglu eu holl wastraff gwyrdd o ymyl y ffordd yn wythnosol. Bydd hyn yn rhan o'i gasgliad ailgylchu wythnosol yr haf, o ddydd Llun 28 Mawrth.

Mae trigolion yn cael eu hatgoffa i labelu eu sachau'n glir a bod pob sach wedi'i chofrestru i eiddo unigol ac y bydd y Cyngor ond yn casglu nifer y sachau sydd wedi'u cofrestru i eiddo. Bydd criwiau yn gwneud pob ymdrech i ddychwelyd y sachau i eiddo mor ddiogel â phosibl.

Bydd modd defnyddio'r sachau ar gyfer gwastraff gwyrdd megis glaswellt, tocion, brigau bach wedi'u torri i faint addas a gwastraff anifeiliaid bach sy'n bwyta llysiau yn unig. Fydd y Cyngor DDIM yn casglu pridd, rwbel, tywarch (blociau mwd) neu bren yn rhan o'r casgliad yma. Dylai gwastraff anifeiliaid gynnwys blawd llif / gwair yn unig ac nid gwastraff anifeiliaid arall fel baw cŵn a chathod. RHAID PEIDIO â gorlenwi'r sachau.

Mae modd mynd â gwastraff gwyrdd / o'r ardd i un o'r nifer o Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn Rhondda Cynon Taf, ond RHAID iddo BEIDIO â bod mewn bag ailgylchu clir. Bydd rhaid, yn hytrach, ei arllwys yn rhydd i mewn i'r cynhwysydd sydd ar gael. Mae pob Canolfan Ailgylchu bellach yn gweithredu yn ôl oriau agor y gaeaf - 8am tan 5.30pm.

Cyn i'r sachau newydd gael eu cyflwyno, roedd y Cyngor yn casglu tua 8,200 tunnell o wastraff gwyrdd gan drigolion yn flynyddol ar gyfartaledd - mae hyn yn cyfateb i 2,739,000 o fagiau ailgylchu llawn!

Meddai Steve Owen, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Gofal y Strydoedd:

“Hoffwn ddiolch i drigolion am ymuno â’r cynllun ac ymuno â ni yn ein brwydr yn erbyn y Newid yn yr Hinsawdd. Bydd y newidiadau i’r gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd yn helpu i leihau ôl troed carbon y Cyngor ac yn dod â ni yn nes at ein nod o ailgylchu 80% o'r holl wastraff sy'n dod o'n cartrefi erbyn 2024/25.

Bydd y newid bach yma'n gwella ansawdd y deunydd rydyn ni'n ei gynhyrchu ac yn gwneud gwahaniaeth enfawr, gan ein harwain yn y pen draw at economi gwbl gylchol. Rydw i'n gobeithio y bydd trigolion yn parhau i ymuno â ni drwy ailgylchu cymaint ag y gallen nhw, i wneud gwahaniaeth yn lleol ac yn fyd-eang.

Mae'r gwasanaeth gwell newydd yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf y tu mewn i gerbydau i wella llwybrau casglu a galluogi gwasanaeth awtomataidd."

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.rctcbc.gov.uk/BagNewyddSbon, e-bostiwch ailgylchu@rhondda-cynon-taf.gov.uk, ffoniwch 01443 425001 neu ddilyn cyfrifon y Cyngor ar Facebook/Twitter.

Wedi ei bostio ar 03/03/22