Wrth i ni edrych ymlaen at ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines dros benwythnos Gŵyl y Banc, mae'r Cyngor yn ymuno â'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) i sicrhau bod unrhyw fwyd rydych chi'n ei baratoi i'w weini mewn achlysur dathlu neu barti stryd yn ddiogel i'ch gwesteion ei fwyta.
Er mwyn sicrhau dathliad diogel, cofiwch fod tywydd cynnes a choginio yn yr awyr agored yn amodau perffaith i facteria dyfu, ac mae peryglon hefyd wrth baratoi a gweini bwyd oer o dan yr amodau yma.
Os ydych chi'n trefnu achlysur ar gyfer eich cymuned leol, dyma ambell awgrym syml ar gyfer paratoi bwyd i nifer fawr o bobl, er mwyn i bawb ddathlu’n ddiogel:
- Golchwch eich dwylo'n rheolaidd â sebon a dŵr cyn paratoi neu fwyta bwyd.
- Golchwch ffrwythau a llysiau ffres bob tro.
- Cadwch fwydydd amrwd a bwydydd sy'n barod i'w bwyta ar wahân.
- Peidiwch â defnyddio unrhyw fwyd sydd heibio'r dyddiad defnyddio olaf.
- Darllenwch unrhyw gyfarwyddiadau coginio bob tro, a gwnewch yn siŵr bod bwyd wedi'i goginio'n iawn cyn gweini.
- Sicrhewch fod ardaloedd paratoi bwyd yn cael eu glanhau a'u diheintio cyn ac ar ôl eu defnyddio, a gwnewch yn siŵr bod offer yn cael ei olchi mewn dŵr poeth â sebon.
- Cynlluniwch ymlaen llaw i gadw'ch bwyd yn oer nes eich bod chi'n barod i'w fwyta. Mae angen cadw unrhyw fwydydd y byddech chi fel arfer yn ei roi yn yr oergell gartref yn oer ar y diwrnod hefyd.
- Bydd angen cadw bwyd sydd â dyddiad defnyddio olaf, bwyd wedi’i goginio, saladau a chynnyrch llaeth, mewn bocs neu fag oer gyda rhew neu becynnau gel wedi’u rhewi. Dosbarthwch y rhain trwy'r bocs neu'r bag, ddim i gyd ar y gwaelod. Mae modd ichi hefyd ddefnyddio diodydd wedi'u rhewi i helpu i gadw'ch bocs yn oer. Cadwch fwyd oer o dan bum gradd Celsius i atal bacteria rhag tyfu.
Meddai Louise Davies, Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned, Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Rydyn ni eisiau i bawb ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines yn ddiogel yn ein Bwrdeistref Sirol. Mae mor rhwydd anghofio hanfodion hylendid bwyd wrth baratoi bwyd ar gyfer nifer fawr o bobl, ond dilynwch ein cyngor ni a mwynhewch yr achlysur arbennig.
"Cynlluniwch eich dathliadau yn ofalus i wneud yn siŵr bod eich achlysur yn cael ei gofio am y rhesymau cywir."
Meddai Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru: "Mae penwythnos hir Gŵyl y Banc yn rhoi cyfle i gymunedau ar hyd a lled Cymru fwynhau dod ynghyd â ffrindiau a theulu. Mae dathlu'n ddiogel yn golygu meddwl am ddiogelwch bwyd ymlaen llaw, fel bod modd i chi ganolbwyntio ar fwynhau'r parti ar y diwrnod."
Am ragor o wybodaeth ynghylch cynnal parti stryd yn ddiogel, ewch i
Wedi ei bostio ar 30/05/2022