Cafodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Ward Aberpennar) ei ailethol yn Arweinydd y Cyngor yn y 27ain Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 25 Mai.
Cafodd y Cynghorydd Maureen Webber (Canol Rhydfelen) hefyd ei hailethol yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor ac yn Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor. Mae hi hefyd yn Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog o fewn y Cyngor.
Y Cynghorydd Gareth Hughes (Ward Tonypandy) yw Llywydd newydd y Cyngor, gan olynu Llywydd cyntaf erioed y Cyngor, y Cynghorydd Steve Powderhill (Ward Trefforest). Roedd e'n Llywydd am bedair blynedd, gan gynnwys ei flwyddyn fel Maer Rhondda Cynon Taf.
Cafodd y Cynghorydd Sheryl Evans (Aberaman) a'r Cynghorydd Barry Stephens (Llanhari) ill dau eu hethol yn Ddirprwy Lywyddion.
Cafodd yr Aelodau canlynol o'r Cabinet hefyd eu penodi yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol:
- Y Cyng. Tina Leyshon - Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol a Materion yr Hinsawdd
- Y Cyng. Gareth Caple - Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Y Cyng. Ann Crimmings - Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden
- Y Cyng. Bob Harris - Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau
- Y Cyng. Mark Norris - Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant
- Y Cyng. Rhys Lewis - Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Chyfranogiad Pobl Ifainc
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Ni fyddai fy nhaith o fod yn gyn-brentis gyda'r Cyngor i fod yn Arweinydd, ac yn Arweinydd ar Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi bod yn bosib heb gefnogaeth arbennig fy nirprwy, y Cynghorydd Maureen Webber. Mae hi wedi bod yn gefn i mi dros nifer o flynyddoedd, ond yn enwedig yn ystod y blynyddoedd heriol diwethaf, wrth i'r Cyngor ymateb i'r pandemig a'r llifogydd difrifol.
“Gyda 59 aelod o’r Grŵp Llafur, ni yw’r grŵp gwleidyddol mwyaf o blith y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Yn ystod y dyddiau nesaf, bydd y weinyddiaeth newydd yma'n nodi rhai o’i blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.
“Rydyn ni wedi nodi 20 Ymrwymiad Craidd i’r cyhoedd yn ein Maniffesto. Dros yr wythnosau nesaf, rwy'n bwriadu cyhoeddi rhai o’r Ymrwymiadau Craidd hynny sy’n cael eu cyflawni a’u hanrhydeddu trwy benderfyniadau cyllid y Cabinet y byddwn yn eu rhoi ar waith i’w cyflawni.
“Y gobaith yw y byddwn ni'n gweld diwedd ar y pandemig cyn bo hir. Serch hynny, rhaid i ni barhau i ofalu am iechyd a diogelwch y cyhoedd, yn ogystal ag ymateb i'r argyfwng newydd sydd ar y gweill - yr Argyfwng Costau Byw.
“Bydd teuluoedd ledled ein Bwrdeistref Sirol, a ledled y wlad, yn wynebu anawsterau ariannol yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Mae'n rhaid i'r Cyngor yma flaenoriaethu'r gwaith o ystyried ffyrdd y mae modd i ni gefnogi ein teuluoedd lleol.”
Cafodd yr holl benodiadau uchod eu gwneud yn ystod 27ain Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, a gynhaliwyd ddydd Mercher, 25 Mai. Cafodd y cyfarfod ei ddarlledu'n fyw ar wefan y Cyngor.
CCB Cyngor Rhondda Cynon Taf
Wedi ei bostio ar 30/05/2022