Bydd y Cyngor yn cynnal arddangosfa gyhoeddus yng Nghanolfan Hamdden Cwm Rhondda Fach er mwyn rhannu rhagor o wybodaeth am gam nesaf prosiect tirlithriad Tylorstown. Mae'r cam nesaf yn cynnig adfer y deunyddiau sydd dros ben ar ochr y bryn.
Cytunwyd ar Gynllun pedwar-cam Adfer Tirlithriad Tylorstown yn dilyn y tirlithriad ym mis Chwefror 2020 yn sgil tywydd digynsail Storm Dennis. Cwblhawyd gwaith draenio ar frys wedi'r tirlithriad (Cam 1) ac yn haf 2021, gwnaethpwyd gwaith atgyweirio erydu argloddiau (Cam 2), symud deunydd i'r safleoedd derbynyddion ac adfer dau lwybr sy'n mynd trwy'r safle (Cam 3).
Mae'r cam nesaf (Cam 4) yn cynnig adfer y domen sydd ar ochr y bryn er mwyn sicrhau bod y safle'n ddiogel. Mae'r cam yma'n rhan fawr o'r Cynllun ac mae angen caniatâd cynllunio. Mae Swyddogion bellach bron â gorffen y cais cynllunio wedi iddyn nhw gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ddechrau 2022. Bydd y cais yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor er mwyn i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ei ystyried yn ffurfiol.
Er mwyn sicrhau bod y gymuned yn effro i'r cynnydd diweddaraf bydd y Cyngor yn cynnal arddangosfa gyhoeddus ddydd Iau, 19 Mai rhwng 10.00am a 8.00pm yng Nghanolfan Hamdden Cwm Rhondda Fach, Tylorstown.
Bydd croeso i bawb drwy'r dydd a fydd dim angen trefnu o flaen llaw. Bydd modd i Swyddogion ateb unrhyw gwestiynau a rhannu gwybodaeth am y cynnydd hyd yn hyn a'r cais cynllunio ar gyfer Cam 4.
Mae'r Cyngor yn gobeithio cynnal gwaith rhagarweiniol dros gyfnod y gaeaf 2022 cyn dechrau ar y prif waith yng Ngwanwyn 2023 ond bydd rhaid aros i gael caniatâd llawn gan y pwyllgor cynllunio cyn gwneud unrhyw waith. Byddai cwblhau Cam 4 yn golygu y byddai modd gwneud gwelliannau pellach i'r llwybr cymuned yma yn y dyfodol a chreu parc glan yr afon yno.
Meddai Roger Waters, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng-flaen Rhondda Cynon Taf: "Mae trwsio'r difrod a achoswyd gan dirlithriad Tylorstown yn parhau'n flaenoriaeth i'r Cyngor, yn ogystal â gwella cysylltiadau teithio llesol i'r gymuned ehangach yn rhan o'r broses atgyweirio i wneud yr ardal yn ddiogel. Wedi inni gwblhau'r tri cham cyntaf erbyn Mehefin 2021, digwyddodd rhagor o waith i sefydlogi'r llethr dros weddill y llwybr cerdded yn yr Hydref. Dyma'r gwaith diweddaraf ar y safle ac rydyn ni bellach wrthi'n cynllunio Cam 4.
"Bydd y cam yma'n canolbwyntio ar atgyweirio'r domen sy'n weddill ar ochr y bryn er mwyn sicrhau bod yr ardal yn ddiogel. Mae'r cam yma'n cynrychioli elfen arwyddocaol o'r Cynllun Atgyweirio ac roedd cyfle i drigolion lleol leisio'u barn mewn ymgynghoriad ym mis Ionawr a Chwefror 2022, cyn inni lunio'r cais. Roedd yr ymgynghoriad yma'n hynod o werthfawr er mwyn mynd ati i greu'r cais cynllunio terfynol.
"Mae'r cais bron yn barod i'w gyflwyno erbyn hyn ac mae'r Cyngor yn cynnal arddangosfa gyhoeddus er mwyn i drigolion lleol gwrdd â Swyddogion er mwyn dod o hyd i ragor o wybodaeth. Rydyn ni'n awyddus iawn i sicrhau bod y gymuned yn gwbl effro i bob cam o'r gwaith. Rwy'n annog y rheini sydd â diddordeb yn y broses i ymweld â'r arddangosfa. Bydd y drysau ar agor drwy'r dydd yng Nghanolfan Hamdden Cwm Rhondda Fach ar 19 Mai. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi ar y diwrnod."
Wedi ei bostio ar 12/05/22