Mae Grŵp Rhuban Gwyn Cwm Taf yn cynnal gwylnos yng ngolau cannwyll i nodi Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod, sy'n cael ei alw hefyd yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Rhuban Gwyn, ddydd Gwener 25 Tachwedd.
Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn achlysur sy'n digwydd yn fyd-eang bob blwyddyn, a dyma'r ymgyrch fwyaf o'i math i ddod â thrais yn erbyn menywod dan law dynion i ben. Mae'r achlysur yn galw ar ddynion i weithredu i wneud gwahaniaeth.
Eleni, mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn cael ei nodi ar yr un diwrnod â diwrnod cyntaf Cwpan y Byd FIFA 2022. Ni fu erioed amser gwell i ni i gyd ganolbwyntio ar y daioni a allai ddod o weithio gyda’n gilydd a chefnogi un achos cyffredin.
#YGôl
Dyma gyfle i wneud hynny drwy ddod â dynion a bechgyn at ei gilydd i feddwl am sut y gallan nhw wneud gwahaniaeth cadarnhaol i sicrhau cydraddoldeb a diogelwch i fenywod a merched.
Er mwyn cyd-fynd â'r thema pêl-droed y flwyddyn yma, mae Diwrnod Rhuban Gwyn 2022 yn tynnu sylw at yr 11 nodwedd mae modd i ddynion a bechgyn eu mabwysiadu, gyda phob un ohonyn nhw yn cynrychioli chwaraewr mewn tîm pêl-droed. Mae angen i ni newid y rhagdybiaeth bod ymddygiad ac agweddau treisgar a chamdriniol yn normal ac yn rhywbeth nad oes modd ei newid.
Mae modd i bob dyn a bachgen addo i sicrhau cydraddoldeb a diogelwch i fenywod a merched, fel bod modd iddyn nhw fyw'r bywydau maen nhw am eu byw heb fod yn ofn o drais. Dyma yw'r 'Gôl' bob amser.
Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl ledled y byd yn sefyll gyda'i gilydd, i leisio'u barn ac i ddweud NA wrth drais yn erbyn menywod. Mae modd i bob dyn wneud gwahaniaeth trwy feddwl am ei ymddygiad ei hun a bod yn barod i beidio ag anwybyddu ymddygiad sy'n rhywiaethol ac sy'n aflonyddu.
Eleni, mae hi'n wyth mlynedd ers i Rondda Cynon Taf gael ei gydnabod gan ymgyrch y Rhuban Gwyn am ei waith i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben. Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i gael cydnabyddiaeth o'r fath.
Mae'r gefnogaeth yna'n parhau hyd heddiw, a hynny gyda diolch i ymrwymiad parhaus rhwng y Cyngor a’i bartneriaid, gan gynnwys Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Cam-drin Domestig RhCT a darparwyr tai lleol, ble mae pob un ohonyn nhw'n cydweithio i ddarparu cymorth a chefnogaeth i ddioddefwyr trais domestig.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: “Mae'r Cyngor yn parhau i gynnig cymorth i'r rheiny sydd wedi cael eu heffeithio gan drais domestig, gan eu cadw nhw'n ddiogel, yn ogystal â gweithio gyda'r rheiny sy'n cyflawni troseddau i fynd i'r afael â'u hymddygiad annerbyniol.
“Gyda'n gilydd, gallwn ni gyd wneud gwahaniaeth a rhaid i ni barhau i wneud safiad a herio trais domestig, sy'n weithrediad gwbl annerbyniol.
“Mae Ymgyrch Rhyngwladol y Rhuban Gwyn yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ac yn annog dynion ledled y byd i gydnabod yr angen iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb a gweithio tuag at ddyfodol heb drais yn erbyn menywod.
“Rhaid i ni beidio byth â chyflawni, esgusodi nac aros yn dawel yn wyneb trais yn erbyn menywod. Gwisgwch eich Rhuban Gwyn â balchder i ddangos eich cefnogaeth.
“Mae trais domestig yn rhywbeth sy'n gallu effeithio ar unrhyw un yn ein Bwrdeistref Sirol - ar unrhyw adeg yn eu bywydau, waeth beth fo'u hoedran, hil, crefydd neu rywedd. Mae angen i ni i gyd gymryd munud i feddwl am yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig.”
MeddaiPrif Weithredwr Rhuban Gwyn y DU, Anthea Sully: “Mae Diwrnod Rhuban Gwyn, eleni yn canolbwyntio ar yr ymddygiadau ac agweddau y mae modd i ddynion a bechgyn eu mabwysiadu er mwyn symud oddi wrth gysylltiadau ag ymddygiad treiddgar a chamdriniol.
“Mae dynion a bechgyn erbyn hyn yn disgwyl gwell gan eu cydweithwyr, ffrindiau, a'u teuluoedd i sicrhau bod menywod a merched yn ddiogel. Rydyn ni'n eich gwahodd i wisgo Rhuban Gwyn a gwneud Addewid Rhuban Gwyn.”
Gwisgwch Ruban Gwyn a gwneud Addewid Rhuban Gwyn i beidio byth â chyflawni, esgusodi nac aros yn dawel yn wyneb trais yn erbyn menywod dan law dynion. Gwnewch eich cam cyntaf heddiw ac ymrwymo i gyflawni #YGôl.
Addewid y Rhuban Gwyn
Ymunwch â ni eleni wrth i ni gefnogi Diwrnod Rhyngwladol Rhuban Gwyn, ddydd Gwener Tachwedd 25. Bydd yr wylnos yng ngolau cannwyll ar gyfer Diwrnod Rhuban Gwyn yn cael ei chynnal yng nghanol dref Pontypridd am 5.30pm, ddydd Gwener 25 Tachwedd. Croeso i bawb.
Wedi ei bostio ar 25/11/22