Skip to main content

Contract wedi'i ddyfarnu ar gyfer cam nesaf gwaith tirlithriad Tylorstown

Tylorstown landslip

Mae'r Cyngor wedi penodi contractwr ar ôl cael caniatad cynllunio llawn ar gyfer cam mawr nesaf y gwaith ar safle tirlithriad Tylorstown. Bydd y cam yma'n cynnwys adfer y domen sy'n weddill ar ochr y bryn ac ail-broffilio'r domen uchaf.

Bu'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu wrthi'n ystyried y cais ddydd Iau, 20 Hydref, ac mae'r pwyllgor bellach wedi cytuno gydag argymhellion y swyddogion i roi caniatad llawn. Digwyddodd y tirlithriad ar 16 Chwefror 2020 yn sgil tair storm o fewn cyfnod byr ond storm Dennis, storm heb ei thebyg ers 200 mlynedd, oedd prif achos y tirlithriad. Achosodd y tirlithriad rwystr ar ddyffryn yr afon, torrodd garthffos, gorchuddiodd bibell ddŵr strategol, llwybr troed a llwybr beicio gyda sawl metr o falurion.

Mae'r Cyngor wedi bod wrthi fyth ers hynny yn gweithio ar gynllun pedwar cam i adfer y safle. Roedd cam un yn cynnwys draenio ar frys a chlirio llystyfiant. Cwblhawyd cam dau (atgyweirio'r argloddiau) a cham tri (symud deunydd o'r cwm i safle derbynnydd ac ailagor llwybrau) ym mis Mehefin 2021. Dilynwyd hyn gan waith ychwanegol i sefydlogi'r llethr yn yr hydref, 2021.

Mae'r cais a gymeradwyodd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ar 20 Hydref yn cwmpasu holl weithgaredd cam pedwar. Mae'r grŵp yma o bobl yn cynnwys:

  • Symud tua 195,000m3 o ddeunydd o domen uchaf Llanwynno a gwaith draenio a thirlunio.
  • Ail-broffilio'r domen uchaf gan ddefnyddio 35,000m3 o ddeunydd i greu tirlun gwastad a gwaith draenio a thirlunio.
  • Symud tua 160,000m3 o ddeunydd ar hyd tramffordd sydd ddim yn cael ei defnyddio i'r safle derbynnydd hysbys. Mae'r safle yma i'r gogledd o 'Old Smokey' sydd yn rhan o safle ehangach tomen Tylorstown.
  • Ehangu'r dramffordd bresennol er mwyn creu llwybr i gludo nwyddau i'r safle derbynnydd a chaniatáu mynediad i lorïau a pheiriannau.
  • Gwaith ail-broffilio, draenio a thirlunio'r safle derbynnydd.

Mae’r Cyngor bellach wedi cyhoeddi, yn dilyn ei broses dendro ar gyfer Cam Pedwar gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru, ei fod bellach wedi penodi cwmni Prichard’s Contracting o Lantrisant i wneud y gwaith.

Nododd adroddiad gan swyddog yng nghyfarfod 20 Hydref y byddai cam pedwar yn para oddeutu 6 mis. Y bwriad yw dechrau'r gwaith yng ngwanwyn 2023 a'i orffen erbyn yr hydref. Mae siâp y tir yn anwastad ar hyn o bryd - tua 500 metr o hyd a rhwng 70 ac 130 metr o led. Bydd y gwaith yma'n gwneud ochr y bryn yn fwy gwastad. Bydd angen gwaith draenio parhaol ychwanegol i sicrhau ei bod yn aros yn sefydlog.

Nododd swyddogion yn ystod y cyfarfod bod angen caniatad pellach gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy mewn perthynas â materion rheoli dŵr a draenio ar y safle cyn bod modd bwrw ymlaen â cham pedwar.

Bydd compownd adeiladu yn cael ei osod i'r gogledd-orllewin o'r safle derbynnydd trwy gydol y gwaith. Bydd llifoleuadau yno er diogelwch. Does dim goleuadau eraill yn rhan o'r cynlluniau ar gyfer gweddill y safle. Oriau gweithio'r safle bydd 8am-6pm ddydd Llun i ddydd Gwener, ac mae'n bosibl y bydd gwaith yn digwydd o 8am-1pm ar ddyddiau Sadwrn.

Bydd y gwaith yn achosi rhywfaint o darfu ar y gymuned leol, ond mae'n bwysig nodi na fydd unrhyw ddeunydd o'r domen yn gadael y safle. Gan fod y llwybrau cludo nwyddau a'r safle derbynnydd ar ochr y bryn, fydd y gwaith ddim yn tarfu llawer ar y brif ffordd.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Rwy'n falch iawn bod y Cyngor wedi derbyn caniatad cynllunio ar gyfer cam pedwar o'r gwaith ar safle tirlithriad Tylorstown a ddigwyddodd yn sgil Storm Dennis. Mae cynnydd mawr wedi digwydd ar y safle, gan gynnwys symud yr holl ddeunydd a lithrodd i lawr y cwm yn 2021. Eleni bu'n rhaid cymryd seibiant o'r gwaith ar y safle am ychydig er mwyn paratoi cais cynllunio ar gyfer cam pedwar.

"Cynhaliwyd Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio ddechrau 2022 fel bod modd i drigolion lleol glywed rhagor o wybodaeth a mynegi eu barn ar y cynlluniau arfaethedig ar gyfer cam pedwar. Cynhaliodd swyddogion arddangosfa gyhoeddus yng Nghanolfan Hamdden Cwm Rhondda Fach ym mis Mai, cyn cwblhau'r cais cynllunio ffurfiol. Datblygiad pwysig arall eleni oedd sefydlu Carfan Rheoli Diogelwch Tomenni pwrpasol o fewn ein gwasanaethau rheng flaen.

"Mae penderfyniad diweddar y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn garreg filltir arwyddocaol yng nghyd-destun y cynllun ehangach sy'n canolbwyntio'n bennaf ar symud deunydd o ochr y bryn, ail-broffilio'r domen uchaf a symud deunydd i safleoedd gwaredu hysbys. Bydd gwaith cam pedwar yn cyfrannu at weledigaeth y Cyngor ar gyfer dyfodol yr ardal - bydd y safle'n ffurfio rhan o lwybr cymuned rhwng Maerdy a Phont-y-gwaith.

"Bydd swmp y gwaith yng ngham pedwar yn digwydd dros gyfnod o 6 mis yn 2023 yn dilyn gwaith rhagarweiniol dros y gaeaf eleni. Yn dilyn proses dendro ddiweddar mae Prichard's Contracting wedi'i benodi i gyflawni'r gwaith. Bydd y Cyngor yn sicrhau bod trigolion yn effro i'r newyddion diweddaraf wrth i gam pedwar fynd yn ei flaen."

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun ar dudalen Tirlithriad Tylorstown ar wefan y Cyngor. Byddwn ni'n parhau i ddiweddaru'r wybodaeth ar y dudalen.

Wedi ei bostio ar 14/11/2022