Skip to main content

Dweud eich dweud am Is-ddeddfau Draenio Tir yn Rhondda Cynon Taf

Mae ymgynghoriad wedi dechrau ar y bwriad i gyflwyno Is-ddeddfau Draenio Tir yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf ac mae aelodau'r cyhoedd sydd â diddordeb yn cael eu hannog i ddweud eu dweud cyn y dyddiad cau, sydd yn gynnar ym mis Ionawr 2023.

O dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, cafodd pwerau a chyfrifoldebau ychwanegol eu rhoi i awdurdodau lleol yng Nghymru i reoli llifogydd o ffynonellau lleol, fel dŵr wyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin.

O ganlyniad, o fis Ebrill 2012 ymlaen, cafodd y cyfrifoldeb i roi caniatâd cwrs dŵr arferol ei drosglwyddo i Gyngor Rhondda Cynon Taf fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol oddi wrth Gyfoeth Naturiol Cymru, a hynny o dan Ddeddf Draenio Tir 1991.

Serch hynny, mae ymarferwyr wedi nodi bod y pwerau yma yn gyfyngedig, a gallai rhai gweithgareddau, sydd ddim ar hyn o bryd angen caniatâd, gynyddu perygl llifogydd, yn enwedig mewn ardaloedd adeiledig. Mae Llywodraeth Cymru, felly, wedi cymeradwyo Is-ddeddfau Draenio Tir wedi'u diweddaru i helpu awdurdodau lleol yng Nghymru i reoli eu swyddogaethau rheoli perygl llifogydd yn well trwy reoleiddio gwell.

Bydd mabwysiadu set o Is-ddeddfau Draenio Tir yn golygu y bydd cysondeb ledled Cymru, a chynnig y Cyngor yw eu mabwysiadu, a hynny yn dilyn cadarnhâd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru. Fydd rhai Is-ddeddfau sydd wedi'u cynnwys yn y set safonol ddim yn berthnasol i ardal Rhondda Cynon Taf – er enghraifft, y rheiny sy'n ymwneud ag amddiffynfeydd llanw.

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal am 6 wythnos. Bydd yn dechrau ddydd Llun, 21 Tachwedd 2022 ac yn gorffen ddydd Llun, 2 Ionawr 2023.

Bydd yr ymgynghoriad yn cyflwyno’r Is-ddeddfau, ac yn rhoi'r cyfle i’r cyhoedd, partneriaid risg ac aelodau o staff i ddweud eu dweud ar sut mae’r Cyngor yn rheoli’r perygl o lifogydd cwrs dŵr arferol. Cymerwch ran yn y broses ar wefan y Cyngor, yma.

Wedi ei bostio ar 21/11/2022