Bydd cam cyntaf y gwaith atgyweirio ac adnewyddu ar Bont Imperial, Porth yn cael ei gwblhau yn fuan – a fydd yn galluogi rhan y bont o Heol Pontypridd ailagor ddiwedd y mis yma. Mae atgyweiriadau pellach i gwblhau'r gwaith yma wedi'u cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Bydd y cynllun cyffredinol, a ddechreuodd yn ystod mis Ebrill 2022, yn gwneud atgyweiriadau gwaith dur i elfennau strwythurol y bont, ail-baentio'r holl waith dur a'r parapetau, gosod uniadau ymestyn a chwblhau'r gwaith o osod y wyneb newydd terfynol ar y ffordd. Mae'r contractwr Centregreat Ltd wedi gwneud cynnydd da, a hynny yn dilyn cau'r ffordd.
Hyd yn hyn, mae'r gwaith sydd wedi'i gwblhau yn cynnwys yr holl atgyweiriadau gwaith dur i strwythur a pharapetau'r bont, paentio'r holl strwythur â phaent amddiffynnol, a newid berynnau deheuol y bont. O ganlyniad i hynny, bydd modd i Heol Pontypridd ailagor i ddefnyddwyr y ffordd o ddydd Mercher, Tachwedd 30 ymlaen.
Bydd pob gwasanaeth bws sydd wedi gwasanaethu llwybrau amgen yn sgil cau'r ffordd (gwasanaethau 132, 124, 131, 138 a 150) yn dychwelyd i wasanaethu eu llwybrau arferol, a bydd y gwasanaeth bws gwennol dros dro yn dod i ben.
Serch hynny, oherwydd cyfyngiadau amser y prosiect, dydy'r contractwr ddim wedi llwyddo newid berynnau gogleddol y bont. Bydd y contractwr, felly, yn dychwelyd i'r safle'r flwyddyn nesaf ar gyfer hynny. Bydd hyn hefyd yn cynnwys gwneud dec y bont yn wrth-ddŵr a gosod y wyneb newydd terfynol ar y ffordd.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae'r gwaith atgyweirio ac adnewyddu ar y Bont Imperial hanesyddol yn gynllun sylweddol, a hoffwn i ddiolch i gymuned Porth am eu hamynedd a'u cydweithrediad tra bod y ffordd wedi bod ar gau wrth i'r gwaith yma fynd rhagddo. Rydw i'n falch bod modd i Heol Pontypridd ailagor ddiwedd mis Tachwedd, a bydd ar agor drwy gydol y gaeaf.
“Bob blwyddyn yn rhan o Raglen Gyfalaf y Priffyrdd y Cyngor, mae cyllid sylweddol wedi ei neilltuo i adnewyddu, cynnal a diogelu strwythurau sy'n cefnogi rhwydwaith y ffordd. Dim ond un o’r cynlluniau sylweddol ar gyfer 2022/23 yw cynllun Pont Imperial yn y Porth, o dan fuddsoddiad ehangach o £5.65 miliwn i ddisodli Pont Droed Stryd y Nant yn Ystrad, Pont Droed Rheilffordd Llanharan, a gwaith ar Gantilifer Nant Cwm-parc yn nhref Treorci. Mae hyn yn ychwanegol i'r cyllid gwerth £6.4 miliwn a gafodd ei neilltuo'r flwyddyn ariannol yma ar gyfer atgyweirio strwythurau yn dilyn Storm Dennis.
“Er bydd Pont Imperial yn ailagor i yrwyr ddiwedd y mis yma, bydd y contractwr yn dychwelyd i'r safle'r flwyddyn nesaf i gwblhau rhai elfennau o'r cynllun. Bydd y Cyngor yn rhannu gwybodaeth gyda thrigolion unwaith y bydd y trefniadau wedi'u cadarnhau. Yn amodol ar sicrhau cyllid, mae disgwyl i ail gam y gwaith ailddechrau ar y safle ym mis Mai 2023.”
Wedi ei bostio ar 10/11/2022