Skip to main content

Elusen leol wedi helpu pobl ag anableddau dysgu ers 25 mlynedd

Cwm Taf People First grid

Mae Pobl yn Gyntaf Cwm Taf yn dathlu 25 mlynedd o waith yn rhoi cymorth i bobl ag anableddau dysgu! Yn rhan o'u dathliadau pen-blwydd, maen nhw'n gofyn yn garedig am roddion ariannol i barhau â'u gwaith amhrisiadwy yn ein cymunedau.

Mae gan y sefydliad, sydd wedi'i leoli yn Y Ffatri Gelf yng Nglynrhedynog, 120 o aelodau gweithgar sy'n ceisio atgyfnerthu lleisiau pobl ag anableddau dysgu. Ymhlith amcanion yr elusen mae hyrwyddo hawliau pobl ag anableddau dysgu, sicrhau bod gwasanaethau y maen nhw'n eu defnyddio yn adlewyrchu eu hanghenion, a chodi ymwybyddiaeth am anableddau.

Mae herio rhagfarnau yn agwedd hanfodol arall ar eu gwaith nhw. Cafodd yr ymgyrch 'Bydd yn llais i mi'  ei sefydlu i annog pobl i roi gwybod am droseddau casineb, er mwyn helpu pobl ag anableddau dysgu i deimlo'n ddiogel yn byw yn eu cymunedau.

Mae aelodau Pobl yn Gyntaf Cwm Taf yn arwain ac yn gwirfoddoli dros y sefydliad sy'n cynnal amrywiaeth o weithgareddau sy'n canolbwyntio ar addysg, iechyd a'r gymuned.

A hithau nawr yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed, byddai'r elusen yn ddiolchgar am unrhyw gyfraniadau i helpu gyda'i chostau rhedeg bob dydd. Bydd hyn yn helpu gwaith y sefydliad i barhau dros y 25 mlynedd nesaf o newid. Darllenwch ragor o fanylion am apêl Pobl yn Gyntaf Cwm Taf yma.

Partneriaeth y Cyngor gyda Phobl yn Gyntaf Cwm Taf

Mae'r Cyngor yn rhannu amcanion Pobl yn Gyntaf Cwm Taf. Mae'n falch o gael bod yn bartner i'r sefydliad ers nifer o flynyddoedd, gan gydweithio ar sawl gweithgaredd yn y gymuned.

Mae menter 'Fy Niwrnod i, Fy Newis i' yr elusen yn gwrando ar leisiau pobl ag anableddau dysgu wyneb yn wyneb ac yn ystod achlysuron ar-lein. Cafodd y Cyngor ganiatâd i ddefnyddio'r brand ar gyfer ei ymgysylltiad trylwyr ar wasanaethau oriau dydd.

Cafodd yr ymgysylltiad ei gynnal yn hydref 2021 ac roedd e'n cynnwys aelodau o'r elusen yn cyflwyno thema bob wythnos mewn fideos ar wefan y Cyngor. Yna cafodd yr adborth wnaethon ni ei dderbyn ei gyhoeddi yng nghynhadledd Pobl yn Gyntaf 2022 a bydd e'n cael ei gyflwyno i'r Cabinet maes o law, ynghyd â strategaeth ddrafft 'Fy Niwrnod i, Fy Newis i'.

Mae'r Cyngor hefyd wedi gweithio gyda Phobl yn Gyntaf Cwm Taf i hysbysebu am ddau gyd-gadeirydd cyflogedig ar gyfer y Bwrdd Partneriaeth Trawsnewid Anableddau Dysgu. Roedd pobl â phrofiad bywyd yn darged, gyda chymorth yr elusen ar gyfer y broses gyfweld, penodi'r swyddi, a hyfforddiant.

Mae hefyd cytundeb rhwng y Cyngor a Phobl yn Gyntaf Cwm Taf i'r elusen gynnig eiriolaeth, a 'llais, dewis a rheolaeth' i bobl ag anableddau dysgu.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Llongyfarchiadau i sefydliad Pobl yn Gyntaf Cwm Taf ar ei ben-blwydd, sy'n dathlu 25 mlynedd o sicrhau bod lleisiau pobl ag anableddau dysgu yn cael eu clywed. Mae'r elusen yn cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i'w haelodau gymryd rhan lawn ym mywyd y gymuned.

“Wrth rannu barn ac amcanion Pobl yn Gyntaf Cwm Taf, mae'r Cyngor wedi bod yn bartner balch i'r elusen o ran nifer o weithgareddau. Roedd hyn yn cynnwys yr ymgyrch 'Fy Niwrnod i, Fy Newis i' wnaeth roi cyfle i ddefnyddwyr gwasanaethau oriau dydd y Cyngor, a'r cyhoedd, gael dweud eu dweud ar wasanaethau lleol. Roedd arbenigedd yr elusen wedi rhoi'r modd i ni gyrraedd rhagor o bobl a deall yn well y gwasanaethau sy'n bwysig i bobl leol.

“Mae'r elusen wedi dechrau ymdrech i godi arian ym mlwyddyn ei phen-blwydd, er mwyn helpu i sicrhau bod modd i'w gwaith pwysig barhau. Hoffwn i ddymuno pob lwc i sefydliad Pobl yn Gyntaf Cwm Taf a'i holl aelodau gyda'i apêl.”

Wedi ei bostio ar 11/11/22