Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Rob Page, wedi helpu’r Cyngor i agor cyfleuster chwaraeon 3G newydd sbon yng Nghwm Rhondda heddiw (dydd Mercher, 9 Tachwedd), a hynny cyn iddo enwi ei garfan ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022 heno.
Mae cyfleuster chwaraeon awyr agored newydd y Cyngor ar Gae Baglan ym Mhenyrenglyn.
Yn syth ar ôl y seremoni agoriadol, cafodd Gŵyl Bêl-droed Ysgolion Cynradd Cwm Rhondda ei chynnal ar y cae. Cafodd yr achlysur ei drefnu gan Chwaraeon RhCT, ac fe lwyddodd i ddenu cannoedd o blant ysgol.
Mae Chwaraeon RhCT yn un o wasanaethau'r Cyngor, a'i fwriad yw helpu pobl o bob oed a gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden - o gystadlaethau pêl-droed i sesiynau Mamau a Babanod a gweithgareddau i bobl hŷn. Ewch i www.chwaraeonrhct.co.uk am ragor o wybodaeth, neu chwiliwch ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cafodd Rob Page help llaw i dorri'r rhuban gan y Cynghorydd Ann Crimmings, sy'n Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, a'r Cynghorydd Rhys Lewis, sy'n Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Chyfranogiad Pobl Ifainc.
Dyma'r 14eg cyfleuster 3G y mae'r Cyngor wedi'i agor yn y fwrdeistref sirol, gan gyflawni ei uchelgais o sicrhau bod trigolion yn gallu manteisio ar gyfleuster o'r fath o fewn 3 milltir i ble bynnag y maen nhw'n byw.
Mae’r cyfleuster 3G diweddaraf wedi’i leoli drws nesaf i Ysgol Gynradd Penyrenglyn. Mae’n cynnwys cae pêl-droed 3G maint llawn a thri chae 5 bob ochr.
Mae'r cae maint llawn wedi ennill gradd Haen 3. Mae hyn yn golygu bod modd chwarae gemau pêl-droed Cynghrair Alliance De Cymru, Cynghrair De Cymru a Chynghrair Adran yno. Mae gan y cyfleuster hefyd bad sioc rygbi, sy'n golygu bod modd i dimau rygbi hyfforddi ar y safle.
Mae'r cyfleuster wedi'i reoli gan wasanaeth Hamdden am Oes y Cyngor, sydd hefyd â 12 o ganolfannau ledled y sir. Mae modd llogi'r cae 3G gan ddefnyddio'r ap Hamdden am Oes neu drwy e-bostio aelodaethhamdden@rctcbc.gov.uk
Yn ogystal â chael ei ddefnyddio gan y gymuned, bydd y cyfleuster hefyd yn gaeau chwarae i Ysgol Gynradd Penyrenglyn.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Mae hwn yn gyfleuster gwych ar gyfer y gymuned gyfan. Rydw i wrth fy modd bod rheolwr tîm pêl-droed Cymru, y bachgen lleol Rob Page, wedi'i agor yn swyddogol gyda ni.
“Mae hwn yn brosiect blaenllaw ac yn un y mae'r Cyngor yn hynod falch ohono. Mae'n cyflawni ein hymrwymiad i ddarparu cyfleuster 3G o fewn 3 milltir i bob trigolyn.
“Fel y gwelwyd heddiw, mae modd i gae 3G gael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o chwaraeon, a chan bobl o bob oed. Rwy’n gwybod y bydd staff ein gwasanaeth Hamdden am Oes wrth eu bodd yn clywed gan dimau, clybiau a sefydliadau sydd am fanteisio ar y cyfle yma.”
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Chyfranogiad Pobl Ifainc: “Rydw i'n siŵr y bydd y gymuned a’r ysgol leol yn manteisio i'r eithaf ar y cae maint llawn a’r pum llain o'i amgylch. Gobeithio y bydd y bechgyn a'r merched sy'n chwarae yma hefyd yn mynd ymlaen i gynrychioli ein gwlad. Diolch i Rob Page am ddod i'r achlysur arbennig yma er mwyn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.”
Fe wnaeth Rob Page, sy’n enedigol o Gwm Rhondda, a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, eu cyhoeddiad yn Neuadd Goffa Tylorstown ar yr un diwrnod, cyn iddyn nhw hedfan i Qatar ar gyfer agoriad y twrnamaint byd-eang ddydd Sul, Tachwedd 20. Dyma’r tro cyntaf i Gymru gystadlu yng Nghwpan y Byd FIFA ers 64 mlynedd.
Wrth siarad cyn cyhoeddi'r garfan, dywedodd Rob Page: “Does dim anrhydedd mwy na hyfforddi eich Tîm Cenedlaethol. Dydw i ddim yn gallu aros am yr her a ddaw yn sgil y pedair blynedd nesaf, gan ddechrau gyda’n Cwpan y Byd FIFA cyntaf mewn 64 mlynedd.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i bêl-droed yng Nghymru. Gobeithio ein bod ni'n gallu gwneud y wlad yn falch ym mis Tachwedd a pharhau â’n llwyddiant drwy ennill lle yn rhagor o dwrnameintiau mawr yn y dyfodol.”
#GorauChwaraeCydChwarae
Wedi ei bostio ar 09/11/22