Skip to main content

Ap Hamdden am Oes sydd ei newydd wedd

LFL New App Poster November 2022 v.02_page-0001

Gwiriwch amserlenni, chwiliwch am ddosbarthiadau, cadwch le ar sesiynau a llawer yn rhagor gyda’r ap Hamdden am Oes sydd ar ei newydd wedd.

Bydd modd i gwsmeriaid weld rhagor o nodweddion, rhagor o opsiynau rhyngweithio a dyluniad newydd gwych pan fydd yr ap yn cael ei ddiweddaru ar 1 Rhagfyr.

Does dim angen i'r dros 10,000 o gwsmeriaid sydd wedi lawrlwytho'r ap yn barod wneud unrhyw beth – bydd y broses ddiweddaru'n awtomatig a bydd modd manteisio ar gyfleoedd hamdden ar eich dyfeisiau.

Gall y rhai sydd heb lawrlwytho'r ap eto wneud hynny nawr AM DDIM. Chwiliwch am 'Leisure for Life Rhondda Cynon Taf' ar siop apiau eich dyfais.

Mae defnyddio ap Hamdden am Oes yn caniatáu i gwsmeriaid reoli eu taith ffitrwydd a lles gyfan. Mae modd i chi ei ddefnyddio ar gyfer:

  • Bwrw golwg ar amserlenni'r gampfa, pyllau nofio a dosbarthiadau ffitrwydd
  • Cadw lle ar sesiynau yn y gampfa, y pwll nofio, dosbarthiadau ffitrwydd a chyrtiau chwaraeon (hyd at saith diwrnod ymlaen llaw os ydych chi'n aelod Hamdden am Oes)
  • Gwirio argaeledd dosbarthiadau a bwrw golwg ar y rhestri aros
  • Talu am eich dosbarthiadau a sesiynau talu wrth fynd - gan ddefnyddio taliadau ar-lein neu eich Waled Ddigidol Di-Arian Parod
  • Derbyn hysbysiadau am y newyddion a chynigion diweddaraf
  • Rheoli a chadw cofnod o'r sesiynau rydych chi wedi cadw lle arnyn nhw
  • Prynu Aelodaeth Hamdden am Oes
  • Prynu unrhyw docynnau neu gynigion arbennig a llawer yn rhagor!

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Mae'r ap Hamdden am Oes wedi bod ar gael ers sawl blwyddyn ac mae dros 10,000 o bobl wedi'i lawrlwytho hyd yn hyn ac wedi manteisio ar gyfleoedd hamdden ar eu dyfeisiau.

“Yn ystod y cyfyngiadau symud, pan oedd canolfannau hamdden ar gau, roedd yr ap yn hanfodol o ran rhoi'r newyddion diweddaraf i gwsmeriaid. Bydden ni hefyd yn ei ddefnyddio i gynnig sesiynau ymarfer corff ar-lein i bobl eu mwynhau'n ddiogel gartref.

“Ers hynny, mae Hamdden am Oes wedi bod yn gweithio i wella'r ap fel bod ganddo ragor o nodweddion ac opsiynau rhyngweithio er budd cwsmeriaid.

“Ar ôl yr holl waith yma, y newyddion gwych yw y bydd yr ap yn cael ei ddiweddaru'n awtomatig ar gyfer y cwsmeriaid sydd wedi'i lawrlwytho'n barod. Mae hyn yn golygu nad oes angen iddyn nhw wneud unrhyw beth.

“Gall unrhyw un sydd heb lawrlwytho'r ap ei gael am ddim mewn ychydig funudau nawr!”

 

Wedi ei bostio ar 30/11/22