Skip to main content

Noddwyr Rasys Ffordd Nos Galan

Nos Galan 500x263

Mae pob lle wedi’i werthu, mae'r llwybr wedi'i gadarnhau a bydd eich pecynnau ras yn cael eu hanfon atoch chi’n fuan iawn! Yr unig beth arall sy’n sicrhau bod Rasys Nos Galan, sydd wedi ennill gwobrau, yn achlysur llwyddiannus yw ei noddwyr.

Diolch i gwmnïau lleol, gan gynnwys y rhai a gefnogodd yr achlysur yn ystod COVID-19, pan oedd yn rhaid ei gynnal yn rhithwir am ddwy flynedd, mae Rasys Nos Galan yn llwyddiant flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Mae eu cefnogaeth yn golygu bod modd i ni groesawu miloedd o bobl i Aberpennar ar Nos Galan i fwynhau noson fythgofiadwy sy’n cynnwys ras elît, ras hwyl a ras i blant – yn ogystal â rhedwr dirgel enwog, tân gwyllt, hwyl i deuluoedd a llawer yn rhagor.

Wrth gwrs, canolbwynt y dathliadau yw Guto Nyth Brân, y chwedl. Credwyd, ar un adeg, mai fe oedd dyn cyflymaf y byd, a allai redeg yn gynt nag ysgyfarnog a'i ddal gyda'i ddwylo ei hun. Mae Rasys Nos Galan yn cael ei gynnal i anrhydeddu Guto, sydd wedi'i gladdu yn Eglwys Sant Gwynno yng nghoedwig Llanwynno.

Mae 4 cwmni wedi noddi Rasys Nos Galan ar gyfer 2022. Bydd modd gweld logo’r cwmnïau yma ar gynnyrch y ras, gan gynnwys rhaglen yr achlysur.

Dyma nhw:

  • Prichard’s
  • Amgen
  • Nathaniel Cars
  • Trivallis

 Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd Pwyllgor Rasys Nos Galan: “Gyda diolch i'r noddwyr, mae modd i ni barhau gyda'n traddodiad o gynnal Rasys Nos Galan a chadw'r chwedl yn fyw.

“Mae'r achlysur yn denu rhedwyr a gwylwyr o ledled y DU ac mae Aberpennar yn llawn o bobl ar Nos Galan yn mwynhau achlysur chwaraeon bythgofiadwy.

“Fyddai ddim yn bosibl i ni gynnal yr achlysur heb ein noddwyr, yn enwedig yn ystod y ddwy flynedd diwethaf pan gynhaliwyd her rithwir Rasys Nos Galan oherwydd pandemig COVID-19.

“Rydyn ni’n dychwelyd i strydoedd Aberpennar ar Nos Galan eleni ac rydyn ni'n falch ac yn ddiolchgar bod modd i ni wneud hynny gyda'n noddwyr gwreiddiol, Prichard's, Amgen, Trivallis a'n noddwyr newydd, Nathaniel Cars.”

 

Cafodd cwmni Prichard's, sydd wedi'i leoli yn Llantrisant, ei sefydlu ym 1995 fel cwmni llogi peiriannau, ond mae bellach wedi datblygu i fod yn un o wasanaethau cymorth adeiladwaith a dymchwel mwyaf y DU. Mae'r cwmni wedi aros yn driw i'w wreiddiau ac wedi noddi Rasys Ffordd Nos Galan flwyddyn ar ôl blwyddyn i ddangos ei gefnogaeth a'i  werthfawrogiad i'w gymunedau.

Mae Amgen Cymru yn bartner allweddol yn rhan o ymdrech Cyngor Rhondda Cynon Taf i frwydro yn erbyn gwastraff ac o ran sicrhau cynaliadwyedd. Yn ogystal â darparu cymorth mewn perthynas â gwasanaethau rheoli gwastraff ac ailgylchu, maen nhw'n cynnal safle mawr Bryn Pica, ger Aberdâr, lle caiff gwastraff ei ddosbarthu a lle caiff unrhyw beth y mae modd ei ailgylchu neu ei ailddefnyddio ei ddosbarthu. Mae'r ganolfan hefyd yn chwarae rhan allweddol drwy ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o drigolion "gwyrdd" yn y ganolfan addysg, mae modd i ysgolion neu grwpiau ymweld â'r ganolfan.

Mae cwmni Nathaniel Cars wedi bod yn gwerthu ceir i drigolion Rhondda Cynon Taf a thu hwnt am fwy na 35 mlynedd, diolch i'w staff cyfeillgar, proffesiynol a gwybodus yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr. Dyma'r tro cyntaf i gwmni Nathaniel Cars noddi'r achlysur, ond mae eisoes wedi noddi nifer o achlysuron i’r gymuned allweddol yn Rhondda Cynon Taf yn 2022 hyd yn hyn, gan gynnwys Picnic y Tedis, Gŵyl Aberdâr a Chegaid o Fwyd Cymru. 

Trivallis, sydd wedi'i leoli ym Mhontypridd, yw un o'r landlordiaid cymdeithasol mwyaf yng Nghymru ac mae'n darparu cartrefi i ddegau ar filoedd o bobl ledled Rhondda Cynon Taf. Mae Trivallis wedi ennill ystod o wobrau ac wedi derbyn cydnabyddiaeth eang am ei waith, nid yn unig am ddarparu cartrefi diogel, modern ac effeithlon, ond hefyd am ei ymdrechion i ailadeiladu ac ailfywiogi cymunedau.

 

Wedi ei bostio ar 29/11/2022