Skip to main content

Yr opsiwn a ffefrir sydd wedi'i gynnig i gadw'r Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned

Bydd diwygiadau i’r Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned, sy'n cael eu galw'n ‘Pryd-ar-glud’, yn cael eu hystyried yr wythnos nesaf. Bydd y rhain i sicrhau bod gwasanaeth yn cael ei gynnal yn RhCT yn wyneb chwyddiant cynyddol mewn costau bwyd ac ynni a’r pwysau ariannol y bydd pob cyngor yn ei wynebu'r flwyddyn nesaf. Gofynnir i'r Cabinet gytuno i ymgynghori ar opsiwn a ffefrir i gadw'r gwasanaeth gyda chynnydd yn y tâl dyddiol a model darparu gwasanaeth newydd.

Ddydd Mawrth, 29 Tachwedd, bydd Aelodau’r Cabinet yn trafod adroddiad yn amlinellu pedwar opsiwn ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn y dyfodol. Mae pwysau ariannol cynyddol ar awdurdodau lleol wedi dod â heriau sylweddol yn ystod y tymor canolig. Bydd ailfodelu gwasanaethau allweddol yn cyfrannu at fynd i’r afael â’r bwlch cyllidebol y bydd y Cyngor yn debygol o'i wynebu yn dilyn Datganiad Ariannol yr Hydref y Canghellor.

Mae'r Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned yn dosbarthu prydau bwyd â chymhorthdal i oedolion yn eu cartrefi. Mae'r galw am brydau yn y cartref wedi gostwng ers y pandemig oherwydd sawl ffactor – mwy o ddewis o ddarparwyr trydydd sector a gwasanaethau dosbarthu bwyd, cludiant am ddim i archfarchnadoedd, ac, yn anffodus, rhai defnyddwyr gwasanaeth oedrannus yn marw. Mae cyflenwadau wedi gostwng o 145,694 yn 2020/21 i gyfanswm rhagamcanol o 120,047 eleni.

Opsiynau ar gyfer Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned yn y dyfodol

Mae adroddiad y Cabinet yn amlinellu pedwar opsiwn ar gyfer dyfodol y gwasanaeth yn dilyn adolygiad a gwerthusiad, ac yn cynnig opsiwn a ffefrir. Maen nhw'n cynnwys y canlynol:

Opsiwn 1 – parhau â'r gwasanaeth fel y mae'n gweithredu ar hyn o bryd gyda thaliadau uwch (50c, £1 neu £1.50 y pryd), gan arbed hyd at £190,000 y flwyddyn.

Opsiwn 2 – yn ogystal ag Opsiwn 1, ad-drefnu'r gwasanaeth mewnol presennol gan arbed hyd at £489,000 y flwyddyn.

Opsiwn 3 (yr opsiwn a ffefrir) – ad-drefnu'r gwasanaeth mewnol presennol a chynnig dewis i ddefnyddwyr gwasanaeth rhwng pryd poeth neu bryd wedi'i rewi. Mae'n cynnwys cynnydd o 50c y pryd, gan arbed £427,000 y flwyddyn.

Opsiwn 4 – gorffen y gwasanaeth a chefnogi defnyddwyr i ddod o hyd i opsiynau eraill. Byddai hyn yn arbed £546,000 gan gynnwys costau ar gyfer trefniadau trosiannol.

Byddai'r opsiwn a ffefrir yn cynyddu pris pryd 2 gwrs o 50c, i £4.55. Mae hyn yn parhau i fod yn bris cystadleuol o gymharu ag awdurdodau lleol cyfagos a darparwyr preifat. O dan yr opsiwn yma byddai staff yn parhau i gynnal gwiriadau lles i ddefnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys cymorth i roi pryd o fwyd ar blât os oedd angen.

Byddai'r gwasanaeth diwygiedig yn gweithredu ar gyfanswm cost o £6.28 y pryd, gyda phob pryd yn elwa o gymhorthdal o £1.73 gan y Cyngor. 

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg:

“Mewn ymateb i’r heriau rydyn ni'n eu hwynebu o ran gwariant cyhoeddus yn y flwyddyn nesaf gyda chynnydd yn y galw am wasanaethau, chwyddiant mewn prisiau bwyd ac ynni yn ogystal â phwysau costau cynyddol ar draws meysydd gwasanaeth, bydd pedwar opsiwn ar gyfer dyfodol y Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned yn cael eu hystyried gan y Cabinet yr wythnos nesaf.

“Dydyn ni ddim yn diystyru pwysigrwydd y gwasanaeth yma wrth gefnogi rhai o’n trigolion mwyaf bregus, gyda 86% ohonyn nhw dros 70 oed. Dyna pam mae'r opsiwn a ffefrir yn cynnig cadw'r gwasanaeth.

“Byddai’r opsiwn a ffefrir yn caniatáu i wasanaeth prydau poeth barhau ar gyfer preswylwyr bregus; bydden ni'n cynnig opsiwn pryd wedi’i rewi pe bai'r preswylydd yn dymuno, ond byddai’r Cyngor yn dal i gadw'r cysylltiad pwysig â defnyddwyr gwasanaeth. Byddai'n sicrhau arbediad blynyddol sylweddol o £427,000 y flwyddyn.

“Byddai’r opsiwn a ffefrir yn cynyddu costau prydau o 50c i alluogi’r gwasanaeth i barhau i weithredu yn yr hinsawdd ariannol bresennol. Er gwaethaf y cynnydd yma mae’n dal yn gystadleuol iawn o’i gymharu â darparwyr preifat ac awdurdodau lleol cyfagos. Nid yw pob cyngor yn rhedeg Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned, a'r opsiwn a ffefrir fyddai cadw ein gwasanaeth ni yma yn Rhondda Cynon Taf, gan sicrhau ei fod yn wasanaeth gwerth chweil i ddefnyddwyr wrth sicrhau ei fod yn parhau i fod yn hyfyw i'r Cyngor.

“Os bydd y Cabinet yn cytuno ddydd Mawrth, byddai ymgynghoriad cynhwysfawr yn cael ei gynnal lle bydd cyfle i ddefnyddwyr gwasanaethau, cynhalwyr, darparwyr, staff a rhanddeiliaid ddweud eu dweud ar yr hyn sy'n cael ei gynnig, er mwyn llywio penderfyniad terfynol gan y Cabinet yn y dyfodol.”

Ddydd Mawrth, gallai'r Cabinet gytuno i ymgynghoriad ffurfiol ar yr opsiwn a ffefrir. Byddai hon yn broses helaeth sy'n cynnwys defnyddwyr gwasanaeth, cynhalwyr, darparwyr, staff a rhanddeiliaid. Byddai'r broses yn cynnwys cyfweliadau wyneb yn wyneb, cyfarfodydd a holiaduron ar-lein.

Wedi ei bostio ar 23/11/2022