Mae cyfarwyddwr siop o Rondda Cynon Taf wedi cael ei erlyn yn llwyddiannus gan adran Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf am werthu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon.
Mewn achos yn Llys Ynadon Merthyr Tudful, plediodd y cyfarwyddwr Peter Pliscak a’r gweithiwr Magdalena Racova, o Gaerdydd, yn euog i’r cyhuddiadau yn dilyn ymchwiliad gan swyddogion Safonau Masnach.
Plediodd Pliscak, cyfarwyddwr Anna Shop Ltd, Pontypridd yn euog i 13 cyhuddiad yn ymwneud â gwerthu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon a chafodd ddirwy o £4,550 ynghyd â chostau. Plediodd Racova yn euog i ddau gyhuddiad yn ymwneud â gwerthu tybaco anghyfreithlon a chafodd ddirwy o £370 ynghyd â chostau.
Daethpwyd â’r cyhuddiadau llwyddiannus yn erbyn y ddau ddiffynnydd gan adran Safonau Masnach y Cyngor o ganlyniad i’r wybodaeth a dderbyniwyd. Cynhaliodd swyddogion ymarfer prawf-brynu ym mis Awst a mis Medi 2021.
Darganfuwyd tybaco anghyfreithlon wedi'i guddio yn yr ystafell stoc ar y safle ym mis Medi 2021. Roedd cuddfan wedi'i adeiladu gyda gwagle y tu ôl i banel cefn uned silffoedd. Atafaelwyd cyfanswm o 4,100 o sigaréts a 250g o dybaco rholio â llaw.
Yn y ddedfryd yn y llys, dywedodd ynadon eu bod wedi ‘gweithredu’n ddichellgar’ drwy adeiladu cuddfan.
Yn dilyn yr achos Llys, dywedodd Louise Davies, Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned, Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Unwaith eto, mae'r Cyngor wedi cwblhau erlyniad llwyddiannus yn erbyn dau o bobl fusnes Rhondda Cynon Taf mewn perthynas â gwerthu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon.
“Diben y gyfraith yw diogelu'r cyhoedd a busnesau cyfreithlon sy'n gwerthu nwyddau o safon o siopau ag enw da.
“Gan weithio ar wybodaeth a ddaeth i law, cynhaliodd ein swyddogion Safonau Masnach ymchwiliad trylwyr, ac mae hynny wedi arwain at yr erlyniad llwyddiannus yma. Roedd gwerthu'r cynhyrchion tybaco anghyfreithlon yma'n niweidiol i ddefnyddwyr ac i fasnachwyr gonest.
“Mae gan ddefnyddwyr hefyd hawl i wybod bod yr eitemau maen nhw'n eu prynu yn cyd-fynd â'u disgrifiad.”
Wedi ei bostio ar 10/11/2022