Mae gorchymyn i gau am dri-mis wedi'i gyflwyno i siop yn y Cymoedd yn dilyn gwrandawiad yn Llys Ynadon Merthyr Tudful.
Cafodd Zany Shop, sy wedi'i lleoli yn 19A Stryd y Fasnach, Aberdâr, CF44 7RW, orchymyn i gau ar 2 Tachwedd 2022, a hynny o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.
Mae'n dilyn ymchwiliad llwyddianus gan Adran Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf i werthiant cynnyrch tybaco ffug ag e-sigaréts untro i blant.
Cafodd y cynnyrch tybaco anghyfreithlon ei atafael o'r siop yng nghanol y dref ar dri achlysur gwahanol, a chafodd e-sigaréts untro doedd ddim yn cydymffurfio â Rheoliadau Tybaco a Chynnyrch Cysylltiedig 2016 eu hatal rhag cael eu gwerthu.
Cyflwynodd y rheoliadau yma reolau sy'n sicrhau safonau gofynnol ar gyfer diogelwch ac ansawdd pob e-sigarét a chynwysyddion mae modd eu hail-lenwi. Caiff yr wybodaeth yma ei darparu i ddefnyddwyr fel bod modd iddyn nhw wneud penderfyniadau gwybodus a chreu amgylchedd sy'n diogelu plant rhag defnyddio'r cynnyrch yma.
Roedd y busnes yn parhau i fasnachu'n anghyfreithlon er iddo dderbyn arweiniad gan Swyddogion Safonau Masnach y Cyngor.
Clywodd Llys yr Ynadon fod grwpiau mawr o blant wedi bod yn ymweld â'r ardal i brynu e-sigaréts a chynnyrch tybaco, gan arwain at gynnydd mewn niwsans ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.
Yn dilyn yr achos Llys, dywedodd Louise Davies, Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned, Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Unwaith yn rhagor, mae'r Cyngor wedi cwblhau ymchwiliad llwyddiannus yn erbyn perchennog busnes yn Rhondda Cynon Taf ar sail gwybodaeth a ddaeth i law.
“Mae cyfreithiau ar waith er mwyn diogelu'r cyhoedd, ond yn yr achos yma diystyrodd y perchennog busnes a gweithwyr y siop ddisgwyliadau'r Awdurdod Lleol, Heddlu De Cymru a'r gymuned ehangach, yn llwyr.
“Roedd y siop yn cael effaith niweidiol ar y gymuned leol ac roedd nifer anghymesur o adnoddau'n cael eu defnyddio i ddatrys y broblem yma o ganlyniad i'r gweithgarwch anghyfreithlon a'r niwsans parhaus.
“Rydyn ni'n bwriadu cymryd camau tebyg yn erbyn unrhyw fusnes arall o fewn ein Bwrdeistref Sirol sy'n elwa ar nwyddau anghyfreithlon ac yn gwerthu cynnyrch tebyg i blant dan oed."
Wedi ei bostio ar 10/11/22