Mae'r Cyngor wedi pwysleisio unwaith eto na fydd ymddygiad bygythiol a chamdriniol tuag at ei staff yn cael ei oddef, a hynny ar ôl i breswylydd gael ei ddirwyo yn y llys yn ddiweddar am drosedd o dan y Ddeddf Trefn Gyhoeddus.
Cafodd achos llys ei ddwyn gan y Cyngor yn dilyn digwyddiad ym mis Chwefror 2022, pan oedd Swyddogion Gorfodi Sifil y Cyngor yn cynnal patrôl arferol yn ardal Cwm-parc. Mae'r patrolau yma yn cael eu cynnal pob dydd yng nghymunedau ledled Rhondda Cynon Taf, gan orfodi Gorchmynion Rheoleiddio Traffig i sicrhau bod gyrwyr yn parcio'n gyfrifol, a hynny er budd ein cymunedau.
Yn ystod y patrôl, fe ddaeth y Swyddogion o hyd i gerbyd a oedd wedi'i barcio'n anghyfreithlon ar linellau melyn dwbl. Roedd Bathodyn Glas yn ffenestr y cerbyd, ond doedd e ddim wedi'i ddangos yn gywir. Rhaid i ddeiliaid Bathodynnau Glas ddangos eu bathodyn a chloc parcio glas wrth iddyn nhw gyrraedd y man a ganiateir. Fe ofynnodd y swyddogion gorfodi i yrrwr y cerbyd ddangos y bathodyn fel bod modd i'w wirio.
Yn dilyn gofyn i gael gweld y bathodyn, daeth y gyrrwr yn frwnt ei dafod a dechreuodd regi ar y swyddogion gorfodi a dangos ymddygiad bygythiol tuag atyn nhw. Fe wrthododd y preswylydd i ddangos ei fathodyn glas a cherddodd i ffwrdd, gan barhau i fygwth y swyddogion. Cafodd y digwyddiad ei ddal ar fideo.
Dyw'r Cyngor ddim yn derbyn y math yma o ymddygiad tuag at ei weithwyr, a chafodd yr heddlu wybod am y digwyddiad. Cafodd y preswylydd ei gyhuddo o drosedd o dan Adran 4A o Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986 a chafodd ei ddyfarnu'n euog yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ym mis Hydref 2022.
Ddydd Mercher, 9 Tachwedd, fe orchmynnodd y llys i'r preswylydd dalu dirwy o £100, £400 o iawndal, £500 o gostau llys a gordal i ddioddefwr o £34. Rhaid i'r preswylydd, felly, dalu cyfanswm o £1,034
Meddai Roger Waters, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng Flaen Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Mae rôl Swyddogion Gorfodi Sifil y Cyngor yn hynod o bwysig i orfodi parcio ar y stryd mewn cymunedau lleol, a'r nod yw gwella diogelwch y ffyrdd, cynnal llif y traffig ar ein ffyrdd, a sicrhau bod modd i bobl gael defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae ein swyddogion yn cynnal y patrolau yma er budd a diogelwch aelodau'r cyhoedd.
“Dyw'r Cyngor ddim yn goddef ymddygiad bygythiol na chamdriniol tuag at ei swyddogion gorfodi, nac unrhyw weithiwr arall y Cyngor.
“Mae’r achos llys diweddar a gyflwynwyd gan y Cyngor yn dilyn y digwyddiad yn ardal Cwm-parc yn adlewyrchu pa mor ddifrifol rydyn ni'n ystyried y mater yma. Fyddwn ni ddim yn oedi i gymryd camau pellach mewn ymateb i achosion o'r fath, a hynny er mwyn cefnogi a diogelu ein staff sydd dim ond yn gwneud eu gwaith o fewn ein cymunedau.”
Wedi ei bostio ar 18/11/2022