Mae Carfan Safonau Masnach y Cyngor yn parhau i dderbyn adroddiadau am fasnachwyr twyllodrus a galwyr ar stepen y drws yn ymweld ag eiddo'r henoed a phobl sy'n agored i niwed, waeth beth fo adeg y flwyddyn.
Ym mhob achos sy'n gysylltiedig â masnachwyr twyllodrus, bydd y gwaith o safon isel yn gyffredinol, ac er gwaethaf cost y gwaith yn cynyddu, mae'r safon mor isel fel bod y gwerth go iawn yn is na'r pris a gafodd ei gytuno yn y lle cyntaf. Unig fwriad masnachwyr twyllodrus yw gwneud cymaint o arian ag y gallan nhw drwy ddulliau twyllodrus.
Bydd galwyr o'r fath yn galw heb wahoddiad â'r eiddo ac yn cynnig gwneud gwaith, rhoi gwybod eu bod nhw wedi sylwi ar broblem sydd angen ei thrwsio neu ddatgan eu bod nhw'n gweithio yn yr ardal.
Gan amlaf byddan nhw'n cynnal gwaith i wella'r cartref megis gosod patios, gwaith ar y dreif, gosod toeon, gwaith adeiladu neu arddio, gan gynnwys trin coed.
Fel arfer, byddan nhw'n dychwelyd i eiddo y maen nhw wedi gweithio arno'n flaenorol neu ardaloedd penodol. Weithiau byddan nhw'n teithio cannoedd o filltiroedd i weithio, hyd nes y bydd rhywun yn eu stopio neu does dim gwaith ar ôl yn yr ardal.
Er y bydd Safonau Masnach a Heddlu De Cymru yn ymchwilio ac yn ymyrryd ag unrhyw achosion sy'n cael eu hadrodd, does dim digon o bobl yn rhoi gwybod am y broblem yma sydd wedi'i hanelu at ein ffrindiau, ein teuluoedd a'n cymdogion.
Mae Carfan Safonau Masnach Rhondda Cynon Taf a Heddlu De Cymru wedi sefydlu Parthau Rheoli Galwyr Heb Wahoddiad sy'n nodi ardaloedd lle dydy'r trigolion ddim yn croesawu galwyr heb wahoddiad i werthu nwyddau neu wasanaethau yn eu heiddo.
Ond, mae modd i aelwyd unrhyw un fod yn Barth Rheoli Galwyr Heb Wahoddiad os bydd galwr heb wahoddiad sy'n gwerthu nwyddau neu wasanaethau yn galw eto, ar ôl i chi ofyn iddyn nhw adael. Mae modd gwneud y cais yma ar lafar neu drwy osod sticer yn eich ffenestr gyda'r cais ysgrifenedig. Mae'r naill neu'r llall yn ei gwneud hi'n anghyfreithlon os yw masnachwr yn gwrthod neu'n anwybyddu cais o'r fath.
Mae Safonau Masnach yn cadarnhau os bydd galwr yn amheus neu os dydych chi ddim yn disgwyl unrhyw un, dylech chi:
- Edrych cyn agor y drws – edrychwch drwy'r ffenest neu drwy dwll ysbïo er mwyn gweld pwy sydd yno ac os yw'r cerbyd yn un rydych chi'n ei adnabod yn hawdd
- Peidio byth â chytuno i waith cael ei wneud, na thalu unrhyw un, ar stepen eich drws. Trafodwch gyda ffrind neu berthynas pob amser i ddod i benderfyniad. Peidiwch â dod i benderfyniad gyda'r person wrth y drws
- Sicrhau eich bod chi bob amser yn cael dyfynbris ysgrifenedig (nid amcangyfrifon) gan o leiaf ddau fasnachwr am unrhyw waith
- Cytuno, bob amser, ar y pris, y trefniadau talu a'r dyddiadau gorffen yn ysgrifenedig cyn i unrhyw waith ddechrau ar eich cartref
- Peidiwch â thalu'n llawn nes eich bod chi'n gwbl fodlon â'r gwaith
- Byddwch yn wyliadwrus gyda chardiau adnabod hefyd. Mae modd i gardiau adnabod fod yn ffug, felly os dydych chi ddim yn disgwyl unrhyw un i alw, cysylltwch â'r sefydliad i wirio pwy ydyn nhw. Defnyddio manylion cyswllt sydd ar filiau cyfleustodau, llyfrau ffôn neu wefannau – peidiwch â defnyddio'r manylion sydd ar y cerdyn adnabod. Byddai modd i rywun arall sy'n rhan o'r cynllun twyll ateb os byddwch chi'n defnyddio'r manylion sydd ar y cerdyn adnabod
- Sefydlu cyfrinair rhyngoch chi â'ch cwmni cyfleustod. Dim ond chi a'r cwmni fydd yn gwybod hyn a bydd unrhyw weithiwr dilys o'r cwmni yn rhoi'r cyfrinair
- Os oes gan alwr apwyntiad am amser penodol a'u bod nhw'n gyfreithlon, ceisiwch drefnu i rywun fod yna gyda chi i wirio eu dilysrwydd
Cofiwch – dydy cau'r drws ddim yn anghwrtais os does dim diddordeb gyda chi yn yr hyn sydd gyda nhw i'w gynnig neu os hoffech chi drafod y cynnig gyda ffrind neu aelod o'r teulu yn gyntaf. Os byddwch chi'n amau unrhyw un ar unrhyw adeg, cadwch y drws ar gau!
Mae hefyd yn bwysig i fod yn wyliadwrus a chadw llygad ar gymdogion yn ein cymunedau. Dyma'r hyn sy'n gallu awgrymu bod galwyr heb wahoddiad yn ymweld â chymydog:
- Fan wedi'i pharcio'n agos gyda gweithwyr yn eiddo eich cymydog, arno neu'n agos ato. Ysgolion neu sgaffaldiau yn ymddangos yn sydyn
- Synau megis bangio, drilio neu sŵn llif gadwyn
- Coed yn diflannu neu'n cael eu tocio yng ngardd eich cymydog
- Gwaith o ansawdd gwael i'w weld ar y to, y dreif neu'r eiddo. Eich cymydog yn ymddangos i fod yn bryderus
- Mae eich cymydog yn mynd i'w banc, cymdeithas adeiladu neu swyddfa'r bost yn fwy aml gyda'r masnachwr
Mae Carfan Safonau Masnach Rhondda Cynon Taf yn annog trigolion i roi gwybod am alwyr amheus, masnachwyr twyllodrus neu unrhyw fasnachwyr sydd yn anwybyddu gorchmynion i adael drwy ffonio Cyngor ar Bopeth – Gwasanaeth Defnyddwyr ar 0808 223 1133 neu ffonio Heddlu De Cymru ar 101.
Wedi ei bostio ar 30/11/2022