Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd MELYN ar gyfer Rhondda Cynon Taf rhwng canol nos heno ac 1pm yfory (dydd Mawrth 15 Tachwedd) oherwydd glaw trwm. Gallai hyn achosi peth aflonyddwch.
Gall hyn arwain at darfu ar draffig a theithio ledled y Fwrdeistref Sirol, yn ogystal â risg llifogydd mewn rhai ardaloedd. Mae'n bosibl y bydd y tywydd yn effeithio ar drafnidiaeth gyhoeddus hefyd.
Rydyn ni'n cynghori gyrwyr i yrru yn unol â'r amodau ac i ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eu taith.
Mae adrannau Priffyrdd a Gofal y Strydoedd y Cyngor eisoes wedi bod yn rhagweithiol, gan barhau i glirio dail o ddraeniau a chwteri. Mae staff hefyd yn monitro lefelau dŵr cwlfertau'n barhaus.
Dyma gynghori'r cyhoedd i fod yn effro ac yn arbennig o ofalus trwy gydol cyfnod y rhybudd. Rydyn ni hefyd yn gofyn i drigolion a busnesau helpu i leddfu'r risg o lifogydd mewn ardaloedd lleol os yw hynny'n bosibl ac yn ddiogel.
Mae modd i gamau bach fel casglu dail a chlirio sbwriel o ddraeniau ac eiddo preifat fod o gymorth mawr o ran atal llifogydd. Yn aml, dail a sbwriel yw'r prif resymau am lifogydd gan eu bod yn rhwystro dŵr rhag mynd i lawr draeniau a chwteri.
Os bydd unrhyw broblemau'n codi y tu allan i oriau gwaith, ffoniwch Wasanaeth Brys y Cyngor y Tu Hwnt i Oriau ar 01443 425011. Hefyd, dilynwch gyfrifon cyfryngau cymdeithasol swyddogol Twitter a Facebook y Cyngor i gael y newyddion diweddaraf yn rheolaidd.
Wedi ei bostio ar 14/11/2022