Mae disgyblion a staff Ysgol Gynradd Cwm Clydach yn dathlu ar ôl ennill Gwobr Rhaglen Genedlaethol Ysgolion Anogaeth.
Mae’r wobr yn cydnabod cyfranogiad llwyddiannus yr ysgol yn yRhaglen Genedlaethol Ysgolion Anogaeth, a hynny gan fod Ysgol Gynradd Cwm Clydach wedi llwyddo i greu diwylliant ysgol gyfan sy'n feithringar ar gyfer ei phlant a'i phobl ifainc.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Chyfranogiad Pobl Ifainc: “Llongyfarchiadau i bawb sy’n gysylltiedig ag Ysgol Gynradd Cwm Clydach ar ennill yr wobr.
“Pleser mawr yw gweld sut mae’r wobr yma'n effeithio ar gymuned yr ysgol gyfan, lle mae pob teulu’n cael ei werthfawrogi. Mae Ysgol Gynradd Cwm Clydach yn ymfalchïo mewn creu amgylchedd diogel lle caiff pob disgybl ei herio i dyfu'n unigolyn sy'n dyfalbarhau, yn hyderus ac unigryw. Edrychaf ymlaen at ymweld â chi yn fuan.”
Meddai Linsey Owens, pennaeth Ysgol Gynradd Cwm Clydach,: “Mae pawb sy’n gysylltiedig â’n hysgol yn falch iawn o dderbyn yr wobr yma, sy’n dyst i holl ymrwymiad a gwaith caled ein staff a’n disgyblion.
“Yn Ysgol Gynradd Cwm Clydach, rydyn ni'n annog ein disgyblion i gael yr hyder i fyfyrio ar eu dulliau ymholi ac i'w datblygu, yn ogystal â bod yn gydnerth wrth ddysgu yn y dyfodol. Caiff seiliau cadarn eu gosod i bob plentyn fel bod modd i bawb ffynnu yn gymdeithasol, yn emosiynol, yn academaidd ac yn greadigol.”
Sefydliad elusennol yw Nurture UK, sy'n ymroddedig i wella iechyd a lles cymdeithasol, emosiynol, a meddwl plant a phobl ifainc drwy gynnal arferion meithringar ar draws y system addysg gyfan a thu hwnt.
Meddai Arti Sharma, prif swyddog gweithredol Nurture UK: “Mae’n bleser mawr gen i longyfarch Ysgol Gynradd Cwm Clydach ar ennill Gwobr Genedlaethol y Rhaglen Ysgolion Anogaeth. Mae'r wobr yn nodi’r holl waith mae'r ysgol yn ei wneud i gofleidio'r egwyddorion sy'n creu ysgol anogaeth.
“Rydyn ni'n effro i ba mor bwerus yw’r rhaglen i’r holl randdeiliaid – y disgyblion, y rhieni a’r gwarcheidwaid, staff yr ysgol a’r gymuned gyfan, a beth sy’n digwydd pan ddaw pawb at ei gilydd gydag un nod cyffredin i annog a chefnogi ei gilydd yn er mwyn cyflawni a thyfu.”
Wedi ei bostio ar 06/12/22