Y flwyddyn yma yng Ngŵyl Goffa Rhondda Cynon Taf bydd perfformiadau gan ddisgyblion talentog ifainc a Cardiff Military Wives Choir.
Am y tro cyntaf erioed, bydd yr achlysur pwysig a theimladwy, mewn partneriaeth â'r Lleng Brydeinig Frenhinol, yn cael ei gynnal yn Theatr y Colisëwm, Aberdâr, ddydd Sul 6 Tachwedd.
Mae croeso cynnes i bawb o bob oed ddod i'r achlysur yma. Dewch i weld y perfformiadau milwrol sy'n dangos cefnogaeth tuag at y rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a'r rhai sydd dal i wasanaethu hyd heddiw.
Bydd disgyblion o Ysgol Uwchradd y Pant, Pont-y-clun, yn arddangos eu hangerdd dros gerddoriaeth a chanu yn ystod yr achlysur. Yn draddodiadol, mae gan yr ysgol enw da ym maes perfformio, ac mae'r disgyblion talentog sy'n cynrychioli'r ysgol yn yr achlysur yn gyffrous dros ben i berfformio. Bydd yr achlysur yn cynnig cyfle i gofio'r rhai fu farw a'u haberthion am well dyfodol.
Mae Cardiff Military Wives Choir yn perthyn i gymuned o gorau, gyda miloedd o fenywod ledled Y Deyrnas Unedig yn canu fel rhan o gôr gwragedd milwrol. Yr elusen Military Wives Choir sy'n gyfrifol am ddod â menywod sydd â chysylltiadau i'r lluoedd arfog at ei gilydd i ganu, rhannu'u profiadau a chefnogi ei gilydd. Mae'r côr wedi perfformio mewn nifer helaeth o achlysuron, yn cynnwys perfformio ar Ddydd Gŵyl Dewi ac yn ystod Gwasanaeth Cofio Cenedlaethol Cymru.
Efallai'ch bod chi wedi gweld pwysigrwydd y côr gwragedd milwrol, y dalent a'r emosiwn wrth i'r côr ymddangos yn y gyfres deledu 'The Choir': Military Wives gyda Gareth Malone, a aeth yn ei blaen i ysbrydoli'r ffilm “Military Wives”,sy'n cynnwys perfformiad gan Kristen Scott-Thomas. Mae'r ffilm yn adrodd y stori o sut dechreuodd yr elusen.
Yn rhan o'r achlysur, bydd hefyd berfformiadau gan Fanerwyr a Band y Lleng Brydeinig Frenhinol a Band Catrodol y Cymry Brenhinol.
Bydd cyfle i'r gynulleidfa gydganu yn ystod yr achlysur.
Nid yn unig gwledd o gerddoriaeth, canu a pherfformiadau milwrol sydd i’w gweld yn yr achlysur, mae Gŵyl y Cofio hefyd yn weledol brydferth. Bydd y gynulleidfa'n mwynhau gweld lliwiau'r baneri, y gwisgoedd, ac wrth gwrs y foment ysblennydd wrth i'r pabïau gwympo o do Theatr y Colisëwm.
Yr arweinydd corawl adnabyddus John Asquith fydd yn arwain y côr. Ac yntau’n wreiddiol o Gwm Rhondda, mae John wedi perfformio ym mhedwar ban byd ac mae'n hyfforddwr Rwsiaidd i'r Opera Cenedlaethol Cymru. Mae e wedi perfformio yn 'The Bards of Wales' yn ninas Budapest, Hwngari, Romania a'r UDA, gan hefyd chwarae rhan allweddol yng Ngŵyl y Cofio ers nifer o flynyddoedd.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: "Eleni ydy'r tro cyntaf i ni gynnal Gŵyl y Cofio yn Theatr y Colisëwm, Aberdâr, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu cynifer o bobl ag sy'n bosib i'r achlysur ar 6 Tachwedd.
"Braf ydy gweld talent leol a chynrychiolwyr o'r lluoedd arfog yn dod at ei gilydd er mwyn sicrhau bod achlysur Gŵyl y Cofio yn addas ar gyfer cynulleidfaoedd o bob oed a diddordeb. Bydd rhieni wrth eu bodd yn gwylio perfformiadau gan ddisgyblion oed ysgol, ac rydw i'n siŵr bydd Cardiff Military Wives Choir yn ysbrydoli'r gynulleidfa.
"Mae'r achlysur wedi derbyn cefnogaeth gan gymuned y Lluoedd Arfog ac rydyn ni'n ffodus iawn i dderbyn y gefnogaeth yma. Bydd Band y Lleng Brydeinig Frenhinol a'r Banerwyr yn arwain yr achlysur, gyda llawer o gadetiaid lleol a chymuned ehangach y Lluoedd Arfog yn cymryd rhan hefyd.
"Achlysur ffurfiol a theimladwy ydy Gŵyl y Cofio, ar gyfer talu teyrnged i'r rhai sydd wedi, neu'n parhau, i wasanaethu'n gwlad. Ond rydyn ni'n gweithio'n galed i sicrhau bod yr achlysur yn cynnwys cerddoriaeth a gwledd weledol i sicrhau bod pawb yn mwynhau'r Ŵyl."
Mae Gŵyl y Cofio yn cael ei chynnal ddydd Sul, 6 Tachwedd yn Theatr y Colisëwm, Aberdâr rhwng 6pm a 6.30pm (drysau'n agor 6pm). Pris y tocynnau yw £7 ac maen nhw ar gael i'w prynu o Theatr y Colisëwm, neu drwy ffonio'r Swyddfa Docynnau ar 03000 040 444 neu ar-lein ar
Wedi ei bostio ar 05/10/2022