Skip to main content

Achlysuron y Nadolig

Untitled design - 2022-10-24T082830.489

Mae Siôn Corn ar y ffordd - a bydd e'n dod â lloriau sglefrio synthetig, globau eira a hwyl yr ŵyl gydag ef er mwyn lledaenu ychydig o hud Nadoligaidd yn Rhondda Cynon Taf. 

Bydd ei helpwyr yng ngharfan achlysuron 'Be'sy mlaen' yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf yn lledaenu hwyl yr ŵyl yn nhrefi Porth, Tonypandy, Aberdâr, Glynrhedynog ac Aberpennar drwy gydol mis Tachwedd a mis Rhagfyr. 

Bydd lloriau sglefrio synthetig i sglefrio arnyn nhw, glôb eira wedi’i chwythu â gwynt i gael hunlun ynddo, adloniant ar y stryd a reidiau ffair i blant. Yn ogystal â hyn i gyd, bydd Siôn Corn yn ei groto a bydd yn rhoi anrhegion i ymwelwyr - felly gwnewch yn siŵr bod gyda chi eich rhestr yn barod i’w rhoi iddo ef! 

Mae achlysuron Nadolig yn RhCT bob amser yn ffordd wych i gael pawb i deimlo'n Nadoligaidd ac i ddechrau cyfri'r diwrnodau tan y Nadolig. Bydd Siôn Corn yn gwneud taith o amgylch y Fwrdeistref Sirol ac yn galw heibio i ganol sawl tref fel bod pawb yn cael cyfle i'w weld. 

Mae'r achlysuron yma hefyd yn gyfle i arddangos ein trefi. Bydd modd parcio am ddim ym mhob tref sy'n cynnal achlysuron Nadolig yn RhCT eleni, a byddamrywiaeth o siopau a lleoedd i fwyta er mwyn i chi allu siopa'n lleol a phrynu anrhegion bach. Beth am wneud diwrnod ohoni? Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen parcio rhad ac am ddim dros y Nadolig y Cyngor. 

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: "Dyma adeg gorau'r flwyddyn ac mae corachod Siôn Corn yn ein carfan achlysuron 'Be' 'sy mlaen' yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf wedi trefnu Gwyliau Gaeaf mewn pum tref, fel bod modd i bawb fod yn rhan o bethau. 

"Mae ein hachlysuron yn gyfle i bawb gael hwyl rad ac am ddim gyda'u teuluoedd dros gyfnod y Nadolig. Mae hefyd yn gyfle i arddangos ein trefi, sydd yn llawn busnesau hyfryd lle gallwch chi brynu eich anrhegion Nadolig, neu fwyhau siocled poeth neu bryd o fwyd. 

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at ddathlu ysbryd y Nadolig gyda thrigolion o bob oed yn yr achlysuron yma!" 

Mae modd dod o hyd i ddyddiadau, amseroedd a lleoliadau'r Gwyliau Gaeaf, yma: 

Dyddiad

Tref

 

Amser

25 Tachwedd

Porth

Maes Parcio Plaza'r Porth

15:00 - 18:30

26 Tachwedd

Tonypandy

Maes Parcio Stryd De Winton

12:00 – 17:00

1 Rhagfyr

Aberdâr

Sgwâr Llyfrgell Aberdâr a'r Maes Parcio

15:00 – 18:30

2 Rhagfyr

Glynrhedynog

Maes Parcio Stryd y Leimwydden

15:00 – 18:30

3 Rhagfyr

Aberpennar

Maes Parcio Stryd Henry

12:00 – 17:00

 

 

 

 

 Nodwch bydd yr achlysuron yma’n cael eu cynnal yn y meysydd parcio sydd wedi'u nodi uchod ac yn ein trefi, sy'n golygu bydd rhaid iddyn nhw fod ar gau yn ystod yr achlysur, ac ychydig cyn yr achlysur, er mwyn gosod popeth. Cadwch hyn mewn cof pan fyddwch chi'n ymweld â'r trefi yma. 

Bydd y llawr sglefrio synthetig, glôb eira a reidiau ffair i blant yn £1 y pen (£1 y reid).

Bydd yn costio £2 y pen i ymweld â Groto Siôn Corn. Mae'r gost yna'n cynnwys anrheg. 

Am y newyddion a gwybodaeth ddiweddaraf ar yr achlysuron yma, dilynwch dudalen Facebook, Twitter neu Instagram 'Be'sy mlaen' RhCT. 

Mae'r Gwyliau Gaeaf yn cael eu noddi gan gwmni Nathaniel Cars. Mae ei staff cyfeillgar yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn darparu ceir i drigolion RhCT a thu hwnt am fwy na 25 mlynedd. 

Bydd dathliadau Nadolig hefyd ym Mhontypridd, a fydd yn cael eu cynnal gan Gyngor Tref Pontypridd, ac yn nhref Treorci, a fydd yn cael eu cynnal gan Ardal Gwella Busnes Treorci ddydd Sadwrn, 26 Tachwedd, ac yn hen dref Llantrisant ddydd Sadwrn, 10 Rhagfyr. 

Wedi ei bostio ar 24/10/2022