Skip to main content

Y Cyngor yn cadw Gwobr Aur am ei gefnogaeth i'r Lluoedd Arfog

Veterans Service

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi llwyddo i gadw'i wobr Aur Cydnabod Cyflogwyr Cyfamod y Lluoedd Arfog am ei gefnogaeth barhaus i gymuned y Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw, a'u teuluoedd. 

Mae Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr hynod fawreddog y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi'i hail-ddilysu wrth i'r Awdurdod Lleol barhau i annog cyflogwyr a gweithwyr i gefnogi'r Lluoedd Arfog a'u cymuned ac i ysbrydoli eraill i wneud yr un peth. 

Ym mis Ionawr 2022, atgyfnerthodd y Cyngor ei ymrwymiad i Gyfamod y Lluoedd Arfog drwy gyflwyno Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer Cyn-filwyr a Milwyr Wrth Gefn. 

Mae'r ymrwymiad yma'n gwarantu cyfweliad i unrhyw gyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol a nodir yn y proffil swydd ar gyfer swyddi a hysbysebir yn allanol. Mae'r Cyngor yn cydnabod y gall cyn-filwyr a milwyr wrth gefn ddod â sgiliau, rhinweddau a buddion trosglwyddadwy gwerthfawr. 

Derbyniodd y Cyngor Wobr Aur Cydnabod Cyflogwyr fawreddog y Weinyddiaeth Amddiffyn yn 2017 yn yr achos cyntaf, a hynny i gydnabod y cymorth y mae'n ei roi i gymuned y Lluoedd Arfog yn lleol. 

Mae'r Cyngor wedi cadw'r Wobr Aur yn 2022 yn dilyn asesiad y Weinyddiaeth Amddiffyn o'i holl waith caled a'i ymroddiad, gan gydnabod hefyd addewid a chefnogaeth eirioli y Cyngor i'r gymuned Amddiffyn a'r Lluoedd Arfog. 

Mae eleni yn nodi 10 mlynedd ers i Gyngor Rhondda Cynon Taf ddod yn un o'r Awdurdodau Lleol cyntaf yng Nghymru i sefydlu Cyfamod y Lluoedd Arfog, sef Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog yn flaenorol.

Er mwyn ennill Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn, rhaid bod y cyflogwyr wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, wedi dangos eu cefnogaeth trwy fod â Gwobr Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr dilys eisoes a'u bod yn rhagweithiol wrth ddangos eu bod nhw'n cefnogi'r lluoedd yn rhan o’u prosesau recriwtio a dethol.

Mae rhaid i'r cyflogwr sicrhau bod ei weithlu'n effro i'w polisïau cadarnhaol tuag at faterion y Lluoedd Arfog a rhaid iddo fod yn esiampl o fewn ei sector, gan eirioli cefnogaeth ar faterion y Lluoedd Arfog i sefydliadau partner, cyflenwyr a chwsmeriaid gyda chanlyniadau cadarnhaol pendant.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Rydyn ni mor falch o gadw Gwobr Aur Cydnabod Cyflogwyr Cyfamod y Lluoedd Arfog. Mae ein dyled ni i aelodau'r Lluoedd Arfog sydd wedi gwasanaethu gartref a thramor yn fawr. 

“Collodd nifer eu bywydau yn ystod brwydr, ond rydyn ni'n parhau i ddiolch iddyn nhw ac i'w cofio gyda balchder, gan gynnig ein cefnogaeth i'w teuluoedd a'n holl gyn-filwyr ledled Rhondda Cynon Taf.

 “Mae'n bwysig bod pob un o'n cyn-filwyr o bob oed, a'u teuluoedd, yn gwybod bod Gwasanaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog y Cyngor ar gael i gynnig cymorth, cefnogaeth ac arweiniad iddyn nhw pryd bynnag y bydd eu hangen arnyn nhw yn ystod eu bywydau. 

 “Mae’r Cyngor yn falch o barhau â’i ymrwymiad i Gyfamod y Lluoedd Arfog, a gafodd ei lofnodi gyntaf 10 mlynedd yn ôl. Ddegawd yn ddiweddarach rydyn ni'n parhau i fod yn deyrngar ac yn addo ein cefnogaeth barhaus.” 

Mae gan Rondda Cynon Taf hanes balch o werthfawrogi ei Lluoedd Arfog, Ddoe a Heddiw. Llofnododd y Cyngor Gyfamod y Lluoedd Arfog gan ymrwymo iddo yn ystod seremoni yng Nghlwb Pêl-droed Rygbi Heol Sardis, Pontypridd, yn 2012, ac mae'r Cyfamod yn destament i gefnogaeth barhaus y Cyngor i Gymuned y Lluoedd Arfog.  

Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn ddatganiad gwirfoddol o gydgefnogaeth rhwng y gymuned sifil o Rondda Cynon Taf a'r Gymuned Lluoedd Arfog sydd wedi'i lleoli yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'r addewid yn cydnabod y parch deuol rhwng y Cyngor, ei asiantaethau partner, ei gymunedau lleol a Phersonél y Lluoedd Arfog (sy'n gwasanaethu ac wedi ymddeol) yn ogystal â'u teuluoedd.  

Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhondda Cynon Taf https://www.rctcbc.gov.uk/CyfamodLluoeddArfog

Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd un o'r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i gytuno i Gyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012. Cafodd yr ymrwymiad yma ei ailddatgan yn 2018, gan gadarnhau'r gyd-ddealltwriaeth rhwng ei chymunedau lleol a'r Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw. 

Ddegawd yn ddiweddarach, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau â'i ymrwymiad i Gyfamod y Lluoedd Arfog, sy'n symud amcanion y Cyngor ymlaen yn sylweddol o ran rhoi cymorth i gymuned y Lluoedd Arfog. 

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o fod wedi sefydlu Rhwydwaith Staff y Lluoedd Arfog, sy'n cynnwys aelodau o staff o wasanaethau amrywiol y Cyngor. Mae hefyd wedi cyflwyno proses Gwarantu Cyfweliad y Lluoedd Arfog ac mae ganddo Wasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr llwyddiannus iawn, sydd wedi sefydlu a chefnogi tri grŵp i Gyn-filwyr ar draws y Fwrdeistref Sirol. 

Mae Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr y Cyngor hefyd yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddedig am ddim i aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys ystod o wasanaethau gan gynnwys budd-daliadau, gofal cymdeithasol i oedolion, cyllid, cyflogaeth a thai. 

Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr Cyngor Rhondda Cynon Taf https://www.rctcbc.gov.uk/GwasanaethCyngoriGyn-filwyr

Ar 2 Mehefin 2018, rhoddodd yr Awdurdod Lleol Ryddfraint y Fwrdeistref Sirol yn Rhondda Cynon Taf i Weinyddiaeth Amddiffyn Sain Tathan, a holl bersonél yr Awyrlu Brenhinol, o'r gorffennol i'r presennol. Rhoddodd y Cyngor Ryddfraint y Fwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf hefyd i'r Gwarchodlu Cymreig yn 2013. 

Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr ar gael i holl bersonél y Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw, a'u teuluoedd. E-bost: GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 07747 485 619 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am–5pm).

 

 

Wedi ei bostio ar 05/10/22