Skip to main content

Gwaith lliniaru llifogydd i ddigwydd ar bedair stryd ym mhentref Pentre

Pentre grid - Copy

Bydd gwaith uwchraddio rhwydwaith draenio Pentre yn mynd rhagddo cyn bo hir ar bedair stryd ym mhentref Pentre gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru. Bydd yn golygu cau lonydd lleol yn raddol dros y mis nesaf wrth i'r gwelliannau gael eu cynnal ym mhob lleoliad. 

Mae'r Cyngor wedi penodi Calibre Contracting i gynnal y cynllun, a fydd yn para tua phedair wythnos o'r wythnos sy'n dechrau  ddydd Llun, 24 Hydref. Mae cyfraniad o 85% wedi'i gadarnhau gan Grant Gwaith ar Raddfa Fach ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru, i leihau'r perygl o lifogydd yn yr ardal leol.

Bydd y gwaith uwchraddio yn digwydd yn Llwyn Onn, Stryd Ochr y Bryn, Coedlan St Stephen a Maes Windsor. Byddan nhw'n gwella hydroleg system draenio'r rhwydwaith, gyda rhan fechan o'r rhwydwaith.

Bydd sawl ffordd yn cau yn lleol, a hynny yn raddol, er mwyn lleihau'r aflonyddwch cyffredinol ar y gymuned. Bydd arwyddion yn nodi manylion pob ffordd sy'n cau yn cael eu gosod, gan roi wythnos o rybudd i drigolion a defnyddwyr y ffordd.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae'r gwaith yma ym mhentref Pentre yn cynrychioli'r cynllun wedi'i dargedu diweddaraf i uwchraddio'r is-adeiledd draenio allweddol sy'n amddiffyn ein cymunedau. Mae gwella'r gallu i wrthsefyll llifogydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Cyngor, a hynny yng ngoleuni bygythiad parhaus y newid yn yr hinsawdd. Fel arfer, rydyn ni'n croesawu cefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru.

"Yn ddiweddar, fe wnaethon ni gwblhau cyhoeddi holl adroddiadau Adran 19 o dan y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr, er mwyn deall yr hyn a ddigwyddodd yn ystod Storm Dennis ac i gynyddu parodrwydd i’r dyfodol. Cafodd y gwaith gwerthfawr yma ei gyflawni tra'r oedd  y Cyngor yn cyflawni ac yn rhoi ar waith cynlluniau gwella – gyda £12 miliwn wedi'i wario ar uwchraddio'r seilwaith a £15 miliwn ar atgyweiriadau o ganlyniad i'r stormydd yn y blynyddoedd diwethaf.

"Yn y flwyddyn ariannol bresennol (2022/23), mae dros £6.4 miliwn wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith atgyweirio pellach sy'n gysylltiedig â Storm Dennis, yn ogystal ag oddeutu £3.9 miliwn ar gyfer rhaglenni Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Grant Gwaith ar Raddfa Fach. Cafodd gwerth £1 miliwn o gyllid ychwanegol ei gymeradwyo gan Aelodau'r Cabinet ar 17 Hydref, a fydd yn ehangu ein cyfleoedd arian cyfatebol.

"Bydd y cynllun sydd ar y gweill ym mhentref Pentre yn dechrau ar 24 Hydref ac yn canolbwyntio ar bedair stryd leol. Bydd contractwr y Cyngor angen cau'r ffyrdd lleol yn raddol wrth i'r gwaith symud o un lleoliad i'r llall. Hoffwn ddiolch i'r trigolion am eu cydweithrediad wrth i'r cynllun pwysig yma fynd rhagddo dros y mis nesaf."

Wedi ei bostio ar 20/10/22