Skip to main content

Gwalia Healthcare yn goresgyn heriau i ehangu ei fusnes

Ministerial visit to the Gwalia Healthcare factory in September

Mae busnes o Drefforest, a ddefnyddiodd ei arbenigedd gweithgynhyrchu i gyflenwi cynhyrchion allweddol fel hylif diheintio dwylo mewn ymateb i’r pandemig, ychydig wythnosau ar ôl dioddef llifogydd yn ystod Storm Dennis, yn parhau i fynd o nerth i nerth.

Mae'r cwmni, sydd â'i safle ar Ystad Ddiwydiannol Trefforest, yn arbenigo mewn cynhyrchu dyfeisiau meddygol a deunydd pecynnu ar gyfer cynnyrch fferyllol. Trwy gefnogaeth ac ymgysylltu cadarnhaol, mae gan y cwmni berthynas waith agos gyda’r garfan Fenter, sy’n rhan o Wasanaeth Ffyniant a Datblygu’r Cyngor.

Yn ddiweddar, croesawodd Gwalia Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, ynghyd ag Arweinydd a Phrif Weithredwr y Cyngor. Ymwelodd y Gweinidog â’r cwmni i gydnabod ei adferiad a’i dwf yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan achub ar y cyfle i gwrdd â staff a mynd ar daith o amgylch y ffatri.

Roedd 2020 yn gyfnod hynod heriol i Gwalia, fel i lawer o fusnesau eraill. Tarodd Storm Dennis ym mis Chwefror y flwyddyn honno, ac yna dechreuodd y pandemig ym mis Mawrth. Rhoddwyd stop ar waith gweithgynhyrchu’r cwmni dros nos oherwydd llifogydd difrifol, ac roedd yn dal i ddod dros hyn pan ddechreuodd y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud tua chwe wythnos yn ddiweddarach.

Serch hynny, roedd modd i Gwalia ddechrau cynhyrchu hylif diheintio dwylo bryd hynny, gan ddefnyddio'r adnoddau presennol i wneud y poteli a dod o hyd i'r gel a'r alcohol o fewn cwmpas 10 milltir. Cynhyrchodd gyflenwad cychwynnol o 20,000 o boteli ar gyfer staff rheng flaen y Cyngor, ar adeg pan oedd prinder sylweddol. Hefyd rhoddodd perchennog y cwmni, Rod Parker, 5,600 o boteli i’r Cyngor eu dosbarthu i 60 o sefydliadau gwirfoddol ledled Rhondda Cynon Taf.

Mae'r cwmni wedi ffynnu ers hynny ac wedi gallu ehangu eto. Eleni, sicrhaodd grant o £44,000 gan y Gronfa Buddsoddi mewn Prosiectau Mawr drwy Gronfa Datblygu Busnes Llywodraeth Cymru. Roedd hyn wedi ariannu gwaith sefydlu llinell gynhyrchu newydd ar gyfer tynlapio, sydd wedi creu swyddi lleol ychwanegol.

Mae'r swyddi yma ar ben y 18 rôl a greodd Gwalia yn wreiddiol pan symudodd ei ffatri i Rondda Cynon Taf, drwy ddatblygu'r ystod cynnyrch geko™ sy'n eiddo i Firstkind Ltd. Mae'r cynhyrchion yn ddyfeisiau meddygol arloesol sy'n helpu i atal a thrin nifer o gyflyrau meddygol acíwt.

Mae Gwalia hefyd yn chwarae rhan flaenllaw yng ngrŵp Twf Busnes Trefforest, rhwydwaith hirsefydlog ar gyfer busnesau ar Ystad Ddiwydiannol Trefforest sy'n cael ei hwyluso gan y Cyngor a Choleg Morgannwg. Mae’n cynnig cymorth i fusnesau eraill, mae ganddo weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y grŵp, ac mae’n hyrwyddo’r defnydd o gadwyni cyflenwi lleol.

Gyda'r bwriad o ehangu ymhellach yn y dyfodol, mae Gwalia bellach yn symud i ail leoliad, ac mae wedi gweithio'n agos gyda'r Garfan Fenter i helpu i ddod o hyd i adeiladau addas ar gyfer datblygu cynhyrchion newydd. Mae safle addas yn Llantrisant, ac mae Gwalia yn bwriadu cadw ei ganolfan yn Nhrefforest.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: “Roedd Gwalia wedi gwrthsefyll yr elfennau pan gafodd ei ffatri yn Nhrefforest ei ddifrodi’n sylweddol gan y llifogydd, ac yna dechreuodd y cyfyngiadau symud cyntaf ar ddechrau’r pandemig. Serch hynny, defnyddiodd y cwmni ei arbenigedd gweithgynhyrchu i helpu staff rheng flaen a grwpiau gwirfoddol pan oedd ei angen fwyaf. Rydw i'n falch iawn bod Gwalia yn parhau i dyfu a ffynnu bron i dair blynedd yn ddiweddarach.

“Cafodd llwyddiant y cwmni wrth adfer ar ôl Storm Dennis a’r pandemig ei gydnabod gan Weinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, a aeth ar daith o amgylch ei ffatri bresennol yn ddiweddar. Derbyniodd Gwalia grant o £44,000 gan y Gronfa Buddsoddi mewn Prosiectau Mawr yn gynharach eleni i gynhyrchu ystod o gynhyrchion newydd, a hynny ar ôl ymgysylltu â Charfan Fenter y Cyngor.

“Mae’r garfan yn cynnig amrywiaeth o gymorth i fusnesau bach a chanolig, mentrau preifat a chymdeithasol, a busnesau newydd – gan gynnwys help i nodi a gwneud cais am gyllid grant sydd ar gael. Dros y blynyddoedd mae Gwalia wedi datblygu partneriaeth waith gynhyrchiol gyda'r Cyngor sydd, ynghyd â darparu cyfleoedd ariannu, hefyd wedi helpu'r cwmni i sicrhau partneriaeth i gynhyrchu dyfeisiau meddygol geko™.

“Rydw i wrth fy modd y bydd Gwalia yn ehangu cyn bo hir i ail ffatri yn Llantrisant, gan ymrwymo unwaith eto i Rondda Cynon Taf, a manteisio ar y cymorth y mae’r Cyngor yn ei gynnig i fusnesau lleol. Rydw i'n dymuno'r gorau i'r cwmni a'i staff wrth iddo symud yn y dyfodol agos.”

Wedi ei bostio ar 28/10/22