Yn adroddiad diweddar Llywodraeth Cymru ar achosion o Dipio Anghyfreithlon ledled Cymru yn ystod mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022, tynnwyd sylw at Gyngor Rhondda Cynon Taf (RhCT) fel yr awdurdod arweiniol o ran gweithredu!
Allan o gyfanswm o 94 o erlyniadau llys a gafodd eu cyflwyno ledled Cymru, cafodd 42 o’r rhain eu cyflwyno yn RhCT, o ganlyniad i waith gan Swyddogion Gorfodi Cyngor Rhondda Cynon Taf! Os byddwch chi’n tipio'n anghyfreithlon yn y Fwrdeistref Sirol yma byddan nhw'n troi pob carreg a chymryd camau cyfreithiol bob amser ble mae angen!
Mae’r ffigwr glanhau ar gyfer Cymru'n syfrdanol – bron i £2 miliwn y flwyddyn. Dyma pam fod gan Awdurdodau Lleol ddyletswydd i gymryd tipio anghyfreithlon o ddifrif a dwyn y rhai sy’n gyfrifol i gyfrif!
Yn Rhondda Cynon Taf roedd y gost glanhau yn cyfateb i oddeutu £159,160 a'r eitemau a gafodd eu tipio'n anghyfreithlon fwyaf aml oedd eitemau cartref (2,219) a nwyddau gwyn (211). Dylai'r mwyafrif o'r rhain fod wedi'u cymryd AM DDIM i un o nifer o ganolfannau ailgylchu yn y gymuned Rhondda Cynon Taf er mwyn eu hailgylchu neu eu hailddefnyddio.
Bu Swyddogion Gorfodi Gofal y Strydoedd penodedig y Cyngor yn ymchwilio i dros 3,370 o achosion o dipio anghyfreithlon yn RhCT, ac yn ymdrin â nhw, gan adennill dros £11,400 drwy gyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig a thros £16,500 drwy achosion llys – dyna gyfanswm cyfunol o bron i £30,000!
Er bod hyn yn newyddion gwych, mae angen tua £130,000 arall o hyd i lanhau ar ôl y rheiny sy'n tipio'n anghyfreithlon a'u gweithredoedd diog a gwarthus, sy'n difetha'n cefn gwlad hardd, ein ffyrdd a'n mannau cyhoeddus. Byddai modd defnyddio'r arian yma i gynyddu a gwella gwasanaethau i drigolion.
Mae Adran 33(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn disgrifio'r drosedd o dipio'n anghyfreithlon fel a ganlyn: “illegal deposit of any waste onto land that does not have a licence to accept it”. Mae modd i unrhyw un sy'n cael gwared ar eu gwastraff yn anghyfreithlon wynebu dirwy sylweddol a/neu gofnod troseddol!
Mae gan y Cyngor wasanaeth diderfyn wythnosol, sy'n casglu eitemau sych, gwastraff bwyd a chewynnau i'w hailgylchu o ymyl y ffordd. Yn ogystal â hynny, mae gan y Cyngor nifer o ganolfannau ailgylchu yn y gymuned ledled y Fwrdeistref Sirol, felly does dim esgus dros dipio'n anghyfreithlon, yn enwedig tipio'r eitemau hynny y mae modd eu casglu o ymyl y ffordd neu eu hailgylchu yma yn Rhondda Cynon Taf.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:
“Rwy'n falch o weld sylw'n cael ei dynnu at waith caled ac ymroddiad Carfan Gorfodi'r Cyngor, a dylai hyn atgoffa pawb yn glir y byddwn ni'n cymryd camau cyfreithiol ble mae angen – da iawn i'r garfan! Fyddwn ni ddim yn goddef ymddygiad o'r math yma yn RhCT. Does BYTH esgus i ddifetha'n trefi, strydoedd na'n pentrefi gyda'ch gwastraff a byddwn ni'n dod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol ac yn eu dwyn i gyfrif.
“Mae cael gwared ar wastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon yn ein Bwrdeistref Sirol yn costio cannoedd ar filoedd o bunnoedd sydd ddim yn cael eu cynnwys yn y costau rydyn ni'n eu hadennill. Byddai modd gwario'r arian ar wasanaethau rheng flaen allweddol, a dyma ddylai ddigwydd. Pan fydd unigolyn yn tipio’n anghyfreithlon mae’n cael sgil effaith enfawr, nid yn unig ar olwg ein Bwrdeistref Sirol, ond hefyd ar y gwasanaethau sy’n cael eu dargyfeirio er mwyn cynnal y gwaith clirio.
“Mae gweithredoedd diog y lleiafrif yn y pen draw yn effeithio arnon ni i gyd. Dyna pam y byddwn ni'n parhau i ddefnyddio’r HOLL bwerau sydd ar gael inni, i ddwyn y rheini i gyfrif am eu gweithredoedd. Mae llawer o'r eitemau rydyn ni'n eu clirio oddi ar ein strydoedd, ein trefi a'n mynyddoedd yn eitemau y mae modd eu hailgylchu neu'u gwaredu yn y canolfannau ailgylchu yn y gymuned neu hyd yn oed eu casglu o ymyl y ffordd - heb unrhyw gost ychwanegol.”
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i roi gwybod i ni am achosion o dipio'n anghyfreithlon, materion ailgylchu a chanolfannau ailgylchu yn y gymuned yn RhCT, dilynwch y Cyngor ar Facebook/Twitter neu ewch i www.rctcbc.gov.uk
Wedi ei bostio ar 20/10/22