Skip to main content

Wythnos Ddemocratiaeth Leol RhCT - Llywio'r Dyfodol

RCT-Logo-RGB-web

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn nodi Wythnos Ddemocratiaeth yr wythnos yma drwy dynnu sylw at y broses wleidyddol yn y Fwrdeistref Sirol.

Yn ystod Wythnos Ddemocratiaeth Leol (10 tan 16 Hydref), bydd y Cyngor yn dangos y gwaith mae'n ei wneud ar ran ei drigolion a busnesau, bob diwrnod o'r flwyddyn.

Wedi'i ffurfio ym 1996, Cyngor Rhondda Cynon Taf yw'r trydydd awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru. Mae 75 o gynghorwyr yn cynrychioli pobl Rhondda Cynon Taf.  

Dod o hyd i'ch cynghorydd lleol

Mae democratiaeth yn effeithio ar bob un ohonon ni - p'un a ydyn ni'n sylweddoli hynny ai peidio. Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnig ystod eang o wasanaethau, o wasanaethau gofal plant ac oedolion i wasanaethau cymunedol, addysg, hamdden, ffyniant a datblygu, i briffyrdd, gofal y strydoedd, trafnidiaeth, iechyd a diogelwch y cyhoedd, a gwasanaethau genedigaeth, marwolaeth a phrofedigaeth. 

O gasglu eich ailgylchu wrth ymyl y ffordd bob wythnos a gwagio biniau, i broblemau trwyddedu a dosbarthu grantiau. Mae'r Cyngor hefyd yno mewn adegau o angen, fel y gwnaethon ni ddangos yn ystod y pandemig byd-eang, a effeithiodd ar bob un ohonon ni, ac mae yno i’n cefnogi ar hyn o bryd yn ystod yr argyfwng ynni a chostau byw cyfredol. 

Mae ein staff hefyd yno i'ch cynorthwyo yn ystod amodau tywydd gwael ac yn ystod tywydd garw'r gaeaf, o fore gwyn tan nos. 

Popeth sydd angen i chi ei wybod am Gyngor Rhondda Cynon Taf

Yn ystod misoedd yr haf, bu’r Cyngor yn cynnal gwelliannau gwerth £8.2miliwn mewn ysgolion ar draws y Fwrdeistref Sirol, yn rhan o'i gynllun ehangach gwerth £373.6miliwn, #buddsoddiadRhCT. Roedd hyn yn cynnwys ailosod boeleri ynni-effeithlon, gosod toeau newydd, adnewyddu toiledau a llawer mwy, er mwyn sicrhau bod ein hysgolion yn lleoedd diogel ar gyfer ein dysgwyr a'n staff.

Mae'r Cyngor yn parhau i wneud gwelliannau sylweddol i safon ei ysgolion, sy'n rhan allweddol o'i rhaglen moderneiddio ysgolion a'i rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif.

Mae'r cyhoedd bellach yn gallu dilyn proses ddemocrataidd Cyngor Rhondda Cynon Taf o'u cartrefi, wrth i gyfarfodydd gael eu gwe-ddarlledu'n fyw. 

Mae'r Cyngor hefyd yn awyddus i annog y rheiny sy'n gymwys i bleidleisio yn Rhondda Cynon Taf i ddweud eu dweud. Dim ond os yw eich enw ar Gofrestr yr Etholwyr y cewch chi fwrw pleidlais mewn etholiadau.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: "Rydyn ni'n falch iawn o bopeth rydyn ni'n ei wneud yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, gan weithio i chi, a gyda chi, bob cam o'r ffordd. 

Mae democratiaeth ar bob lefel o Lywodraeth yn bwysig ac mae ein Cyngor bob amser wedi croesawu unrhyw ymgysylltiad gyda'i drigolion a busnesau, ac mae hynny'n rhywbeth y bydden ni'n parhau i'w wneud. 

Dim ond trwy weithio gyda'n cymunedau lleol y mae'n bosibl i ni gyflawni cymaint – ac mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf restr hir o lwyddiannau y dylai fod yn falch ohonyn nhw. 

"Rydyn ni'n falch iawn o fod yn cefnogi Wythnos Ddemocratiaeth Leol ac rydw i'n annog unrhyw un sydd â diddordeb ac angerdd dros eu hardal leol i leisio eu barn. Byddwch yn rhan o'n proses ddemocrataidd a dweud eich dweud ble a phan mae'n bwysig - a gyda'n gilydd gallwn ni wneud gwahaniaeth mawr wrth lywio ein dyfodol."

Wedi ei bostio ar 11/10/22