Skip to main content

Arian sylweddol wedi'i sicrhau ar gyfer Cynllun Lliniaru Llifogydd Heol Glenbói

Glenboi

Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru tuag at gynllun lliniaru llifogydd mawr gwerth £1.4 miliwn yn Heol Glenbói, a fydd yn gwella'r orsaf bwmpio bresennol ac yn lleihau'r perygl llifogydd yn fawr yn y gymuned.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau’n ddiweddar ei bod wedi cymeradwyo’r cynllun, i gynyddu’n sylweddol faint o ddŵr wyneb y mae’r orsaf bwmpio yn Heol Glenbói yn gallu ei bwmpio. Mae’r orsaf wedi’i dylunio i bwmpio dŵr wyneb a llifoedd trostir yn yr ardal leol. Y bwriad yw rhoi gwytnwch hirdymor i'r gymuned.

Mae disgwyl y bydd gwaith ymchwilio pellach yn cael ei gynnal ddiwedd yr hydref, cyn y brif raglen adeiladu y mae disgwyl iddi ddechrau ym mis Ionawr.

Mae'r cynllun yn elwa o fuddsoddiad gwerth £1.4 miliwn, gyda chyfraniad o 85% gan Raglen Gyfalaf Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru. Mae'r cyllid sy'n weddill yn dod gan Raglen Gyfalaf y Cyngor 2022/23 ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol.

Mae'r Cyngor wedi penodi Lewis Civil Engineering Ltd i gyflawni'r cynllun, a bydd y contractwr yn ymgysylltu â'r gymuned cyn cynnal y gwaith ymchwilio tir sydd i ddod, a thrwy gydol y prif gynllun sy'n dechrau yn gynnar yn 2023.

Mae sawl agwedd ar y gwaith paratoi eisoes wedi’u cwblhau yn Heol Glenbói wrth baratoi ar gyfer y cynllun, gan gynnwys gwaith gwella helaeth i bibellau dŵr wyneb, arllwysfa pwmp newydd a dargyfeiriadau BT Openreach yn gynharach eleni. Mae mesurau i reoli perygl llifogydd y safle ar waith o hyd a byddan nhw'n parhau yn eu lle drwy gydol y cynllun. Mae'r rhain yn cynnwys uned pwmp wrth gefn ar y safle, ac archwiliadau ychwanegol i'r seilwaith lliniaru llifogydd presennol.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Rwy’n falch bod y Cyngor wedi sicrhau gwerth dros £1.2 miliwn o gyllid allanol i helpu i gyflawni’r cynllun gwerth £1.4 miliwn yma, ac yn croesawu cefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ar draws raglenni amrywiol i ategu gwaith sylweddol y Cyngor o ran lliniaru llifogydd ac atgyweirio wedi stormydd ledled y Fwrdeistref Sirol.

“Mae gan Heol Glenbói hanes o lifogydd, gan gynnwys llifogydd y tu mewn i eiddo lleol yn ddiweddar yn ystod Storm Dennis. Mae'r cynllun sydd ar ddod wedi'i gynllunio i gyflwyno gorsaf bwmpio dŵr wyneb well sydd â'r modd i ddelio â llifoedd dŵr sy'n mynd i mewn i'r pwynt isel o fewn y ffordd. O ganlyniad i hyn, bydd y cynllun yn lleihau’r llif i’r cwlfer presennol i lawr yr afon, sy’n ardal sydd â risg uchel o lifogydd yn ystod cyfnodau o law trwm.

“Mae gwella’r gallu i wrthsefyll llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Cyngor, a chafodd gwerth £12 miliwn ei wario ar wella seilwaith a gwerth £15 miliwn ar waith atgyweirio wedi stormydd yn y blynyddoedd diwethaf. Yn y flwyddyn ariannol bresennol (2022/23), mae dros £6.4 miliwn wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith atgyweirio pellach sy'n gysylltiedig â Storm Dennis, yn ogystal ag oddeutu £3.9 miliwn ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd ar draws y rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a'r rhaglen Grant Gwaith ar Raddfa Fach. Mae'r Cyngor hefyd wedi derbyn £400,000 i ddatblygu 10 cynllun Ffyrdd Cydnerth pellach.

“Bydd cynllun Heol Glenbói yn dilyn gwaith lliniaru llifogydd pwysig a ddechreuodd yn yr haf eleni, gan gynnwys cynllun Pen Uchaf Teras Bronallt yn Abercwmboi ym mis Mehefin, a cham un o Gynllun Lliniaru Llifogydd Treorci o fis Gorffennaf. Cafodd gwaith gwella sylweddol i gwlferi ar yr A4061 Ffordd y Rhigos ei gwblhau o dan y rhaglen Ffyrdd Cydnerth ym mis Awst, ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd yn y Drenewydd, ac yn Stryd Dunraven a Stryd Abertonllwyd yn Nhreherbert.

“Bydd trigolion yn sylwi bod cam nesaf y gwaith yn dechrau yn ardal Glenbói ddiwedd yr hydref eleni, pan fydd y contractwr penodedig yn dechrau cynnal gwaith ymchwilio tir cychwynnol. Yn dilyn hyn, bydd gwaith y prif gynllun yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd. Bydd rhagor o wybodaeth am y trefniadau gwaith o ddydd i ddydd ac unrhyw darfu ar y gymuned leol yn cael ei rhannu cyn i’r gwaith ddechrau.”

Meddai Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru: “Wrth i’r hinsawdd newid rydyn ni'n delio â thywydd sy'n dod yn fwyfwy anrhagweladwy drwy gydol y flwyddyn, sy’n cynyddu’r perygl o lifogydd. Mae pobl yng nghymuned Glenbói yn effro iawn i hyn yn dilyn Storm Dennis yn 2020 a achosodd gryn ddifrod ar gyfer nifer o bobl.

“Rwy’n falch felly o fod wedi gallu cefnogi Cyngor Rhondda Cynon Taf gyda gwerth £1.2 miliwn o gyllid o’n Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol i adeiladu gorsaf bwmpio ar Heol Glenbói er mwyn lliniaru llifogydd mewn 24 eiddo.

“Mae lleihau’r risg i gartrefi a busnesau yn wyneb llifogydd amlach a mwy difrifol yn hollbwysig, ac rydw i’n gobeithio y bydd y mesurau yma'n helpu i dawelu meddyliau'r bobl yn yr ardal dan sylw."

Wedi ei bostio ar 06/10/22