Skip to main content

Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol

RCT Team

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ennill Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol 2022 i gydnabod ei ymrwymiad i hyfforddiant a'r effaith gadarnhaol y mae datblygu staff wedi'i chael ar yr awdurdod lleol. 

Mae'r Cyngor yn un o ddim ond 46 sefydliad ledled y wlad sydd wedi ennill Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol eleni – pob un yn dangos ymrwymiad i fuddsoddi yn ei weithlu.

Rhondda Cynon Taf yw'r trydydd awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru ac mae'n cyflogi dros 10,000 o weithwyr. Dros 10 mlynedd yn ôl, nododd gyfle i fuddsoddi mewn cyflogaeth a hyfforddiant trwy ddatblygu ei Raglen Brentisiaeth lwyddiannus. 

Dros y ddegawd ddiwethaf, mae llawer o'r prentisiaid hynny wedi creu gyrfaoedd llwyddiannus i'w hunain. Ar yr un pryd, mae'r Cyngor yn parhau i ddarparu cyfleoedd gyrfa a chyflogaeth gynaliadwy i bobl leol. 

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Maureen Webber: “Mae’n anrhydedd enfawr i ni dderbyn Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol i gydnabod ein cyfleoedd hyfforddi a’n buddsoddiad yn ein staff, yn enwedig ein Rhaglen Brentisiaeth a Rhaglen i Raddedigion lwyddiannus a hynod boblogaidd. 

A ninnau'n un o gyflogwyr mwyaf yr ardal leol, rydyn ni'n cydnabod pwysigrwydd creu swyddi o ansawdd uchel sy'n talu'n dda i'n trigolion, ac sy'n cynnig cyfleoedd i ddysgu. Mae hynny'n bwysicach heddiw nag erioed.

“Mae’r Cyngor yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau sy'n cael ei hadlewyrchu yn y swyddi amrywiol sydd ar gael bob blwyddyn i'n prentisiaid a'n graddedigion ni. Mae'n Rhaglen i Raddedigion ni'n rhoi cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus ddatblygu'n rheolwyr y dyfodol, ac ennill cymwysterau sy'n cael eu cydnabod gan y diwydiant ar yr un pryd. 

Bellach yn ei seithfed flwyddyn, mae Gwobrau Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol yn parhau i gydnabod sefydliadau sydd wirioneddol yn dangos ymrwymiad eithriadol i ddysgu a datblygu. Gyda phrinder sgiliau ar draws y DU ar gynydd, a swyddi gweigion yn dyblu, mae'n bwysicach nawr nag erioed ein bod ni'n creu rhaglenni dysgu diddorol i dyfu a chadw talent newydd a phresennol."

 Meddai Kirstie Donnelly MBE, Prif Weithredwr City & Guilds: “Mae Gwobrau Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol yn dangos sut y mae modd i hyfforddiant a datblygiad agor drysau a denu talent newydd i ddiwydiannau sydd â bylchau sylweddol mewn sgiliau a phrinder llafur.

“Unwaith eto eleni, mae'r sawl sydd wedi ennill y wobr wedi dangos ystod a dyfnder y dysgu a’r datblygu sydd ar waith yn eu sefydliadau eu hunain. Mae'r gwaith yma'n llywio twf a phositifrwydd, o rym datblygu sgiliau i fynd i’r afael â materion fel gwella amrywiaeth a chynhwysiant, i raglenni sy'n mynd i’r afael ag effaith barhaus newid yn yr hinsawdd. 

“Wrth i ni i gyd weithio tuag at ddyfodol sero net, rydyn ni’n gobeithio gweld hyd yn oed mwy o raglenni hyfforddi yn cael eu cydnabod am y gwaith maen nhw'n ei wneud i gefnogi'r mater hollbwysig yma. Mae hynny yn ogystal â'r nifer o feysydd eraill sy’n datblygu sefydliadau a phobl.”

Wedi ei bostio ar 07/10/22