Skip to main content

Cyhoeddi'r ddau adroddiad Adran 19 diweddaraf yn dilyn Storm Dennis

Heddiw cafodd dau adroddiad pellach eu cyhoeddi o dan Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, yn ymwneud â Storm Dennis. Maen nhw'n ymdrin ag Aberpennar a Blaenllechau/Glynrhedynog, a dyma yw'r ddau olaf o gyfanswm o 19 o gyhoeddiadau.

Mae'n rhaid i'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, sef Cyngor Rhondda Cynon Taf, ddarparu adroddiad ffeithiol yn esbonio'r hyn a ddigwyddodd ar ôl pob digwyddiad sylweddol o lifogydd. Roedd Storm Dennis (15-16 Chwefror 2020) yn ddigwyddiad digynsail a ddaeth â llifogydd eang i gymunedau. Yn dilyn ymchwiliad cychwynnol i 28 o ardaloedd, mae’r Cyngor wedi bod yn paratoi cyfanswm o 19 adroddiad o dan Ddeddf 2010.

Roedd yr adroddiad cyntaf yn haf 2021 yn ymdrin â Phentre, ac fe ddilynodd adroddiadau ar Gilfynydd a Threherbert yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Cafodd adroddiadau pellach eu cyhoeddi ar gyfer Aberdâr/Aberaman, Rhydfelen/Y Ddraenen Wen, Abercwmboi/Fernhill, Porth, Ffynnon Taf, Glyn-taf, Trefforest, Pontypridd, Nantgarw, Hirwaun, Treorci, Ynys-hir, Trehafod a Chwmbach drwy gydol 2022.

Mae adroddiadau Adran 19 yn enwi'r Awdurdodau Rheoli Risg, yn nodi'r swyddogaethau y maen nhw wedi'u cyflawni ac yn amlinellu'r camau gweithredu y maen nhw'n eu cynnig ar gyfer y dyfodol. Mae'r adroddiadau wedi cael eu llywio gan archwiliadau a gwaith casglu data Carfan Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor yn dilyn y storm. Mae'r wybodaeth a gasglwyd gan drigolion, Carfan Iechyd y Cyhoedd, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru hefyd wedi cyfrannu at lunio'r adroddiadau.

Mae'r cyhoeddiadau diweddaraf ar ddydd Iau, 6 Hydref, yn ymdrin ag Aberpennar yng Nghwm Cynon (Ardal Ymchwilio i Lifogydd RhCT 06), a Blaenllechau a Glynrhedynog yng Nghwm Rhondda Fach (Ardal Ymchwilio i Lifogydd RhCT 21).

Mae modd gweld yr adroddiadau ar wefan y Cyngor

Aberpennar (Ardal Ymchwilio i Lifogydd RCT 06)

Mae'r adroddiad yn nodi fod llifogydd wedi mynd i mewn i 67 eiddo (44 o adeiladau preswyl a 23 o adeiladau dibreswyl) – gan ychwanegu mai prif ffynhonnell y llifogydd ym man crynhoi dŵr Aberpennar oedd o ganlyniad i ddŵr ffo sylweddol dros y tir a ddaeth o’r llethrau serth uwchben yr ardal. Yn ystod y storm, draeniodd glaw trwm iawn i dir is trwy gyfres o gyrsiau dŵr cyffredin. Cafodd llawer o'r rhain eu llethu gan gyfaint y dŵr a'r malurion.

Doedd dwy gilfach cwlferi a gafodd eu nodi fel ffynonellau llifogydd i eiddo ddim yn darparu lefelau digonol o amddiffyniad mewn amodau o lif rhydd a rhwystrau. Roedd gan bedwar rhwydwaith ar wahân a gafodd eu nodi'n ffynonellau llifogydd safonau digonol o amddiffyniad, ond roedd y rhain mewn cyflwr gwael. Cafodd eu capasiti eu lleihau o ganlyniad i rwystrau a achoswyd gan falurion a ddaeth o fannau crynhoi dŵr uchaf yn ystod y storm.

Nodwyd bod gorlifo Afon Cynon hefyd yn brif ffynhonnell llifogydd yn ardaloedd isaf Gorllewin Aberpennar, o ganlyniad i lefelau uchel yr afon na welwyd mo'u tebyg o'r blaen. Mae gorsaf fonitro CNC yn Aberdâr wedi’i lleoli tua 5km i fyny’r afon, a chofnododd ei lefel uchaf yn ystod y digwyddiad, sef 2.125 metr.

Nododd yr adroddiad hefyd fod llifogydd dŵr wyneb sy'n gysylltiedig â dŵr ffo o lethrau'r bryniau wedi llethu'r rhwydwaith draenio priffyrdd lleol. Cafodd ei nodi hefyd yn ffynhonnell llifogydd i eiddo yn ardal Aberpennar.

Mae'r Cyngor, ac yntau'n gweithredu fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, yr Awdurdod Draenio Tir a'r Awdurdod Priffyrdd, wedi cyflawni 21 cam gweithredu yn lleol yn dilyn y storm, ac wedi cynnig 8 cam gweithredu pellach. Mae’r rhain yn cynnwys cynnal gwaith arolygu, jetio a glanhau mewn perthynas â thua 3,110 metr o ardal draenio cwrs dŵr cyffredin, a datblygu cynlluniau lliniaru llifogydd lleol i wella sawl cilfach i gwlferi.

Mae dyfeisiau monitro telemetreg o bell wedi'u gosod mewn strwythurau allweddol, gan alluogi gweithredwyr i sicrhau bod systemau draenio lleol yn gweithredu'n effeithiol. Mae'r Cyngor wedi arwain y gwaith o ddatblygu ystafell reoli ganolog er mwyn darparu ymateb cynhwysfawr ac aml-asiantaeth yn ystod stormydd yn y dyfodol.

Ac yntau'n Awdurdod Rheoli Risg ar gyfer llifogydd prif afonydd, bydd ymchwiliadau CNC ar ôl y digwyddiad yn ceisio deall mecanwaith llifogydd o Afon Cynon yn ardal Aberpennar. Mae CNC hefyd wedi comisiynu Prosiect Modelu Llifogydd Cwm Cynon i asesu dichonoldeb opsiynau posibl rheoli perygl llifogydd, ac wedi llunio cynllun gweithredu i fynd i’r afael â meysydd i’w gwella, gan gynnwys gwella ac ehangu ei Wasanaeth Rhybuddion Llifogydd a'i ymateb wrth reoli digwyddiadau 

Blaenllechau a Glynrhedynog (Ardal Ymchwilio i Lifogydd RhCT 21)

Mae'r adroddiad yn nodi fod llifogydd wedi mynd i mewn i 25 eiddo (gan gynnwys eiddo a oedd unwaith yn eiddo masnachol), yn ogystal â llifogydd i'r briffordd. Cafodd hyn ei achosi gan lifoedd o ddŵr daear a dŵr ffo sylweddol dros y tir a ddaeth o’r llethrau serth uwchben Blaenllechau - gan gyrraedd cefn rhai o'r eiddo yr effeithiwyd arnyn nhw cyn llifo i dir is.

Daeth asesiad gan yr ymgynghorwyr, Redstart, i'r casgliad bod llif cymhleth o lethrau'r bryn wedi achosi i ddŵr ddod o hyd i'w lwybr ei hun i'r man crynhoi dŵr, yn hytrach na defnyddio'r system ddraenio bresennol. Llywodraeth Cymru sy’n berchen ar lethrau'r bryn i’r gorllewin o’r ardal ymchwilio, a chaiff ei reoli gan CNC. Mae llethrau'r bryn i’r dwyrain yn eiddo preifat. Roedd Storm Dennis yn ddigwyddiad unwaith bob dau gan mlynedd, sy’n fwy na'r meini prawf dylunio arferol ar gyfer ceuffosydd, ond doedd dim llifogydd i'w gweld o’r cwrs dŵr cyffredin a'r rhwydwaith o gwlferi yn yr ardal ymchwilio.

Mae'r canfyddiad yma, ynghyd â modelu hydrolig Redstart, yn cefnogi'r casgliad nad oedd modd i ddŵr wyneb gyrraedd y system ddraenio yn ystod Storm Dennis.

Ac yntau'n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, yr Awdurdod Draenio Tir a'r Awdurdod Priffyrdd, mae'r Cyngor wedi cymryd 13 o gamau gweithredu ac wedi cynnig 6 arall. Mae’r rhain yn cynnwys cynnal gwaith arolygu, jetio a glanhau mewn perthynas â 1,284 metr o rwydwaith o gwlferi, arwain y gwaith o ddatblygu ystafell reoli ganolog, ac ehangu ei amserlen archwilio a chynnal a chadw i gynnwys asedau lleol pellach wrth baratoi ar gyfer tywydd eithafol sydd wedi'i ragweld.

Mae'r Cyngor wedi arfer ei bwerau i ymgysylltu â CNC mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel rheolwr tir ardaloedd llethrau'r bryniau lleol. Bydd y Cyngor hefyd yn ceisio deall y man crynhoi dŵr uchaf uwchben Blaenllechau a Glynrhedynog yn well trwy ddatblygu Achos Busnes Amlinellol Strategol, a fydd yn rhoi argymhellion i liniaru'r risg ehangach o lifogydd yn y gymuned.

Mae'r ddau adroddiad yn dod i'r casgliad mai digwyddiad eithafol oedd Storm Dennis, ac mae'n annhebygol y byddai modd atal pob achos o lifogydd o dan amgylchiadau tebyg.  Maen nhw’n nodi hefyd bod yr holl Awdurdodau Rheoli Risg wedi cyflawni eu swyddogaethau mewn modd boddhaol wrth ymateb i'r llifogydd. Maen nhw i gyd wedi cynnig swyddogaethau pellach i baratoi'n well ar gyfer stormydd yn y dyfodol

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae dau adroddiad wedi'u cyhoeddi heddiw o ran  ymchwiliad llifogydd Adran 19 ar gyfer Storm Dennis – mae'r rhain yn ymdrin ag Aberpennar, Blaenllechau a Glynrhedynog. Dyma'r olaf o'r cyfanswm o 19 o adroddiadau y bydd y Cyngor yn eu cyhoeddi i gyd. Mae pob adroddiad yn rhoi casgliadau'r ymchwiliadau trylwyr o ran sut digwyddodd y llifogydd, ac yn amlinellu beth mae'r awdurdodau perthnasol wedi gwneud, ac yn bwriadu gwneud yn y dyfodol, er mwyn bod yn fwy parod.

“Bydd yr adroddiadau'n parhau i fod yn fater o gofnod cyhoeddus ac mae'r cyfan ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor - o'r cyhoeddiad cyntaf ar gyfer Pentre yr haf diwethaf, yn ogystal ag Adroddiad Trosolwg sy'n ymdrin ag ardal Rhondda Cynon Taf i gyd. Rydyn ni'n effro y bydd newid yn yr hinsawdd yn dod â stormydd amlach, a bwriad yr adroddiadau yw rhoi sicrwydd i drigolion bod yr awdurdodau perthnasol yn parhau i gynnal gwaith pwysig i uwchraddio isadeiledd lleol, a gwella'u gwaith monitro a chynnal a chadw parhaus, er mwyn lliniaru’r perygl o lifogydd mewn cymunedau.

“Er bod y Cyngor wedi cymryd yr amser angenrheidiol i lunio pob adroddiad, dydy datblygiad cynlluniau lliniaru llifogydd lleol ddim wedi'u hoedi o gwbl. Mae ein rhaglen gyfalaf carlam yn cynnwys dros 100 o gynlluniau ledled y Fwrdeistref Sirol, ac mae mwy na hanner o'r rhain wedi'u cyflawni. Mae oddeutu £12 miliwn wedi'i wario ar uwchraddio isadeiledd yn y blynyddoedd diwethaf, yn ogystal â £15 miliwn ar atgyweiriadau ers Storm Dennis. Mae’r Cyngor hefyd wedi sicrhau cyllid gwerth miliynau o bunnoedd ar draws nifer o raglenni Llywodraeth Cymru sydd wedi’u clustnodi ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd. Mae'r gwaith wedi’i amserlennu i'w gynnal yn y flwyddyn ariannol gyfredol.”

Wedi ei bostio ar 06/10/22