Skip to main content

Disgyblion yn mwynhau cyfleusterau newydd sbon ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd

Ffynnon Taf Primary and Ysgol Rhydywaun pupils enjoying their new school facilities

Mae Aelod o Gabinet y Cyngor ar faterion Addysg wedi ymweld â staff a disgyblion ym mhentrefi Pen-y-waun a Ffynnon Taf, sydd ymhlith yr ysgolion newydd sy'n elwa ar gyfleusterau gwerth miliynau o bunnoedd sydd wedi'u cyflwyno ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol.

Cafodd Y Cynghorydd Rhys Lewis groeso cynnes gan Ysgol Gynradd Ffynnon Taf ddydd Mawrth 11 Hydref ac yn Ysgol Gyfun Rhydywaun ddydd Mercher, 12 Hydref. Mae staff a disgyblion yn yr ysgolion yma, yn ogystal ag Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, wedi ymgartrefu yn eu cyfleusterau newydd sbon, a agorodd eu drysau am y tro cyntaf ar ddechrau'r flwyddyn academaidd ym mis Medi 2022.

Cafodd y Cyngh Lewis daith o amgylch y cyfleusterau a chafodd gyfle i ymweld â disgyblion a oedd yn manteisio ar eu hamgylchedd dysgu newydd, a fydd yn fuddiol i bobl ifainc a'u cymunedau am genedlaethau i ddod. Mae crynodeb o bob prosiect wedi'i gynnwys isod:

Ysgol Gynradd Ffynnon Taf, Ffynnon Taf

Mae'r ysgol wedi elwa o estyniad pedair ystafell ddosbarth ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen gydag ardaloedd chwarae awyr agored newydd, hefyd. Mae'r adeilad cwbl hygyrch yn cynnwys toiledau ac ystafelloedd cotiau newydd, yn ogystal â neuadd fawr newydd sydd hefyd ar gael i'r gymuned ehangach ei defnyddio. O ganlyniad i'r cyfleusterau newydd, mae ystafelloedd dosbarth dros dro'r ysgol, a oedd mewn cyflwr gwael, wedi cael eu tynnu. Mae palmant newydd a llwybr troed diogel sy'n arwain at dderbynfa'r ysgol wedi'u creu, yn ogystal â man storio beiciau. Mae'r Cyngor wedi buddsoddi cyfanswm o dros £3m.

Elfen unigryw o'r cynllun yw ei gysylltiad â Ffynnon dwym Ffynnon Taf, yr unig ffynnon geothermol wedi'i chynhesu'n naturiol yng Nghymru. Mae'r prosiect yn pwmpio dŵr o'r ffynnon thermol (sydd tua 21°C) i gyfnewidydd gwres cyfagos, sy'n ei drawsnewid yn ynni ar gyfer y bloc ysgol newydd.

Ysgol Gyfun Rhydywaun, Pen-y-waun

Diolch i'r buddsoddiad gwerth £12.1miliwn gan y Cyngor drwy raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru, mae capasiti'r ysgol wedi cynyddu'n sylweddol. Mae bloc newydd gydag wyth ystafell-ddosbarth wedi cael ei adeiladu, sy'n cynnwys cyfleusterau drama a cherddoriaeth. Yn ogystal â hynny, mae gan yr ysgol dderbynfa, neuadd chwaraeon, ystafell ffitrwydd, stiwdio ddawns ac ystafelloedd newid newydd, ynghyd â maes parcio ychwanegol a storfa feiciau.

Mae defnydd cymunedol yn rhan allweddol o'r cynllun ac felly mae cyfleusterau ar gyfer y gymuned wedi cael eu cynnwys yn y bloc newydd, gan sicrhau eu bod ar wahân i'r disgyblion sy'n mynychu'r ysgol. Cafodd y datblygiad ei hwyluso drwy ddymchwel tŷ'r cyn gofalwr a dosbarthiadau dros dro'r ysgol, gan nad oedd eu hangen nhw mwyach.

Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, Cwmdâr

Mae buddsoddiad o £3.69miliwn wedi darparu cyfleusterau modern a chynyddu lleoedd cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol, mewn partneriaeth â Rhaglen Dysgu Cynaliadwy i Gymunedau Llywodraeth Cymru. Mae'r cynllun yma'n cynnwys estyniad newydd gyda phedair ystafell ddosbarth ac ardal i gael egwyl ar y llawr gwaelod. Cafodd neuadd bresennol yr ysgol ei hymestyn yn sylweddol hefyd. Fe gynyddodd y prosiect hefyd gapasiti'r maes parcio, adeiladu ardal chwarae wyneb caled newydd a chael gwared ar ddwy ystafell ddosbarth dros dro.

Ar wahân, mae buddsoddiad o £1.016miliwn o Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru wedi creu cyfleuster gofal plant newydd â 29 o leoedd wedi’i leoli ar safle’r ysgol, o fewn ardal llawr gwaelod isaf y bloc estyniad newydd.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: "Hoffwn ddiolch i ddysgwyr a staff yn Ysgol Gynradd Ffynnon Taf ac Ysgol Gyfun Rhydywaun am eu croeso cynnes yn ystod fy ymweliadau i'w hysgolion yr wythnos yma. Roedd yn wych gweld pawb yn mwynhau'r amgylcheddau dysgu o'r radd flaenaf yma ers iddyn nhw agor eu drysau ar ddechrau'r flwyddyn academaidd.

"Mae'r tri chynllun yn cynrychioli buddsoddiad sydd werth cyfanswm o tua £20miliwn, gyda phrosiectau Cwmdâr a Phen-y-waun yn rhan o raglen Band B gwerth £252miliwn ar gyfer ysgolion ar draws Rhondda Cynon Taf, drwy Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.

"Mae pob un o brosiectau ysgolion newydd y Cyngor wedi’u cynllunio gyda’n nodau a’n hymrwymiadau Newid Hinsawdd mewn golwg.  Mae prosiect Ysgol Gynradd Ffynnon Taf, yn benodol, yn ddiddorol ac arloesol yn y cyd-destun yma, gyda Ffynnon Thermol Ffynnon Taf sy'n gyfagos yn cael ei defnyddio i gynhesu bloc newydd yr ysgol. Does dim modd i'r prosiect yma gael ei wneud yn unrhyw le arall yng Nghymru gan fod y ffynnon thermol yn unigryw, ac rydw i'n falch iawn bod y Cyngor wedi gallu ei defnyddio'r ffordd yma.

“Rydw i hefyd yn falch iawn bod y buddsoddiad yn Ysgol Gyfun Rhydywaun, yn ogystal ag yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, wedi darparu mwy o leoedd cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Cynon, i ateb y galw rydyn ni'n ei ragweld yn y dyfodol. Mae hyn yn cefnogi'r deilliannau sydd wedi'u hamlinellu yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Cyngor, gan wneud cyfraniad pellach at nod ‘Cymraeg 2050’ Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg.

"Roeddwn i wedi mwynhau ymweld â dwy o'n hysgolion lleol yn gynharach yn yr wythnos ac mae'n wych gweld â'm llygaid fy hun sut mae'r cyfleusterau yma yn gwneud gwahaniaeth bob dydd. Rydw i'n dymuno'n dda i'r holl staff a disgyblion am weddill y flwyddyn academaidd, ac rydw i'n edrych ymlaen at weld datblygiad pellach gyda'n prosiectau buddsoddi eraill yn y dyfodol agos wrth i ni weithio tuag at gyflwyno rhagor o gyfleusterau'r 21ain ganrif i fwy fyth o gymunedau yn Rhondda Cynon Taf."

Wedi ei bostio ar 14/10/2022