Skip to main content

Rhaglen gyfalaf priffyrdd atodol wedi'i chytuno gan y Cabinet

Highways capital programme

Mae'r Cabinet wedi cytuno ar fanylion i fuddsoddi gwerth £2.1 miliwn yn ychwanegol i Raglen Gyfalaf y Priffyrdd eleni. Mae hyn yn cynnwys 33 cynllun gosod wyneb newydd a rhagor o gyllid sylweddol ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd.

Ym mis Awst 2022, fe wnaeth y Cabinet gytuno i fuddsoddi £2.725 miliwn yn ychwanegol i feysydd blaenoriaeth y Cyngor, a oedd yn cynnwys gwerth £1.1 miliwn ar gyfer priffyrdd a ffyrdd ac £1 miliwn ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd a draenio. Yn eu cyfarfod ddydd Llun, 17 Hydref, fe wnaeth yr Aelodau gytuno ar raglen ychwanegol gan ddefnyddio'r cyllid ychwanegol yma, i'ch cynnal yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol gyfredol (sy'n dod i ben 31 Mawrth, 2023).

£1.1 miliwn ar gyfer Priffyrdd a Ffyrdd 

  • Cyllid gwerth £670,000 ar gyfer 19 o gynlluniau i osod wyneb newydd ar briffyrdd 
  • £100,000 ar gyfer tair ffordd sydd heb gael eu mabwysiadu (Clos Glyncornel yn Llwynypia, Stryd Cadwaladr yn Aberpennar a Heol Gelliwion yn nhref Pontypridd)
  • £215,000 wedi'i ddyrannu ar gyfer adnewyddu 11 llwybr troed 
  • £15,000 ar gyfer gwelliannau mynediad 
  • £10,000 ar gyfer gwaith draenio

Mae manylion llawn lle bydd y gwaith ychwanegol yn mynd rhagddo i'w gweld yn adroddiad cyfarfod y Cabinet ddydd Llun, sydd ar gael ar wefan y Cyngor. 

£1 miliwn ar gyfer lliniaru llifogydd 

  • £600,000 i wella cynlluniau ac achosion busnes ac i ddarparu arian cyfatebol ar gyfer ceisiadau grant allanol. Bydd y lefel yma o arian cyfatebol yn arwain at grantiau o fwy na £4 miliwn yn dod i law oddi wrth Lywodraeth Cymru eleni (2022/23)
  • £300,000 ar gyfer prosiectau draenio difrifol ar y rhwydwaith trafnidiaeth, sydd heb eu hariannu gan grant allanol, na chwaith yn gymwys am y cymorth yma  
  • £100,000 ar gyfer gwaith dylunio a pharatoi ar gyfer prosiectau a allai fod yn gymwys am grant allanol neu fuddsoddiad uniongyrchol gan y Cyngor yn 2023/24 

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Rydyn ni eisoes yn buddsoddi dros £26 miliwn yn Rhaglen Gyfalaf y Cyngor ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol eleni. Mae hyn yn cynnwys rhaglen gwerth £4.6 miliwn ar gyfer gosod wyneb newydd ar y ffyrdd ac adnewyddu llwybrau troed, sydd wedi datblygu'n dda dros y misoedd diwethaf.  

“Bydd y £1.1 miliwn o gyllid a gytunwyd arno gan y Cabinet ddydd Llun yn ychwanegol i'r rhaglen gyfalaf, a bydd yn ein caniatáu ni i'w hehangu i gynnwys 2022/23.

“Rydw i'n falch bod tri o'r cynlluniau yma ar gyfer ffyrdd sydd heb gael eu mabwysiadu, gan barhau â'n rhaglen i wella ffyrdd preifat sydd heb gael eu cynnal a'u mabwysiadu nhw ar gyfer gwaith cynnal a chadw gan y Cyngor yn y dyfodol. Mae'r tri chynllun newydd ychwanegol yn Llwynypia, Aberpennar a thref Pontypridd, yn cynyddu nifer y cynlluniau i 23, gan ychwanegu at y 7 cynllun peilot cychwynnol a gafodd eu cyhoeddi'r llynedd, a 13 lleoliad a gafodd eu hychwanegu yn y rhaglen gyfalaf gyfredol ym mis Mawrth.

“Mae'r £600,000 o gyllid ychwanegol ar gyfer lliniaru llifogydd i fwrw ymlaen ag achosion busnes a mynd ar drywydd cyllid allanol yn bwysig iawn. Gallai hyn ddod â gwerth £4 miliwn o gyllid o gyfleoedd presennol, gan fod rhaglenni allweddol Llywodraeth Cymru yn darparu cyfraniad o 85% i gynlluniau lleol. Bydd y cyllid yn ein galluogi ni i barhau â'r gwaith allweddol rydyn ni'n ei wneud i liniaru perygl llifogydd mewn lleoliadau sydd wedi'u targedu, i amddiffyn ein trigolion, ein busnesau a'n seilwaith.”

Wedi ei bostio ar 20/10/2022