Mae’r Cyngor yn cefnogi Mis Hanes Pobl Dduon 2022 drwy gynnal achlysur rhithwir ar gyfer staff y Cyngor, swyddogion ac aelodau etholedig ar y thema ‘Y Safbwynt Cymreig’.
Bydd y sgwrs yn cael ei chyflwyno gan y gwestai arbennig Marilyn Bryan-Jones ddydd Mercher, 26 Hydref a bydd yn ymdrin â hanes pobl dduon yng Nghymru, hanes pobl dduon yn y gweithle ac addysg am hanes pobl dduon.
Mae'r Cyngor yn datblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hil ei hunan ac mae wedi arwyddo Siarter Hil yn y Gweithle Busnes yn y Gymuned, sy'n ymrwymo i wella cyfleoedd cydraddoldeb yn y gweithle.
Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn cael ei gynnal bob mis Hydref yn y DU, gan gydnabod, cofio a dathlu cyfraniadau unigolion, grwpiau a sefydliadau duon.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor, gyda chyfrifoldeb am faterion Cydraddoldeb ac Amrywioldeb: “Fel Cyngor, rydyn ni unwaith eto yn cefnogi Mis Hanes Pobl Dduon ac yn falch iawn o groesawu Marilyn Bryan-Jones i gyflwyno darlith addysgiadol.
“Rydyn ni'n falch o fod yn Fwrdeistref Sirol sy’n gyfoethog mewn amrywiaeth, lle mae hanes pobl dduon yn cael ei ddathlu, drwy gydol mis Hydref a drwy gydol y flwyddyn.
“Mae carfan Amrywiaeth a Chynhwysiant y Cyngor yn arwain y ffordd wrth i’r awdurdod lleol barhau a chadarnhau ei ymrwymiad i addysgu ein hunain ac eraill.”
Mae'r Cyngor yn cynnal achlysur rhithwir i ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon ddydd Mercher, 26 Hydref. Rydyn ni'n annog staff i fynd i’r achlysur yma i ddatblygu eu dealltwriaeth o Hanes Pobl Dduon yng Nghymru ymhellach.
Wedi ei bostio ar 20/10/2022