Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gofyn i'w breswylwyr fod yn ystyrlon a chofio rhoi gweddillion bwyd yn eu cadis gwastraff bwyd wrth ddathlu Calan Gaeaf eleni.
Mae gwastraff bwyd yn cyfrannu at 8-10% o gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr - sy'n swm syfrdanol. Er bod rhai eitemau fel croen ffrwyth a phlisgyn wyau yn anfwytadwy, mae modd eu hailgylchu yn rhan o gynllun casglu gwastraff bwyd wythnosol AM DDIM Rhondda Cynon Taf.
Cofrestrwch ar gyfer y gwasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd yma: www.rctcbc.gov.uk/gwastraffbwyd
Bob blwyddyn, mae mwy na miliwn o bwmpenni'n cael eu gwerthu yn y DU. Mae 99% o'r rhain yn cael eu defnyddio i gerfio llusernau.
Bydd miloedd o blant ledled y Fwrdeistref Sirol yn cerfio pwmpenni, trochi am afalau ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau traddodiadol brawychus yn eu cartrefi.
Er bod cerfio pwmpenni yn weithgaredd llawn hwyl, rydyn ni am atgoffa preswylwyr i ailgylchu pwmpenni a gweddillion afalau yn eu cadi gwastraff bwyd. Bydd y gwastraff yma'n cael ei gasglu o ymyl y ffordd ar ôl Calan Gaeaf, yn unol â'n trefn wythnosol arferol!
Mae Cymru’n ofnadwy o dda am ailgylchu, gyda’r cyfraddau ailgylchu presennol yn ein gosod ni yn y trydydd safle o'r brig, a hynny o blith holl wledydd byd!
Rhwng Ebrill 2021 ac Ebrill 2022, ailgylchodd preswylwyr Rhondda Cynon Taf mwy na 59,900 o dunelli. Y newyddion drwg ydy bod mwy na 4,220 yn rhagor o dunelli wedi gorfod cael eu taflu oherwydd halogiad - oni bai am hyn byddai 6.5% yn rhagor wedi cael ei ailgylchu!
Cafodd 12,300 o dunelli o wastraff bwyd ei gasglu yn ystod yr un cyfnod - sy'n swm syfrdanol. SERCH HYNNY roedd rhaid taflu mwy na 482 o dunelli oherwydd eu bod wedi'u halogi. Dyna bron 4% yn fwy o wastraff bwyd a fyddai wedi gallu cael ei ailgylchu!
Y newyddion da ydy bod digon o ynni wedi'i gasglu o'r gwastraff bwyd a gafodd ei ailgylchu i bweru tua 1180 o aelwydydd!
Mae modd i bawb gyfrannu at nod y Cyngor o leihau nifer yr eitemau sydd wedi'u halogi. Bydd hyn yn sicrhau bod ein holl ymdrechion i ailgylchu ddim yn mynd yn ofer. Helpwch y blaned drwy olchi neu rinsio unrhyw becynnau sydd ag olion bwyd ynddyn nhw cyn eu rhoi yn y bag ailgylchu clir. Gallwch ddefnyddio'r dŵr sy'n weddill ar ôl golchi'r llestri i wneud hyn.
Gall yr un tun yna, gydag ychydig o weddillion bwyd, achosi bag cyfan o eitemau i beidio â chael eu hailgylchu – neu gallai hyd yn oed ddifetha lori lawn o eitemau. Mae'n bwysig iawn gwybod beth, ble a sut i ailgylchu eitemau'r cartref. Yn ddigon lwcus i chi, mae gan y Cyngor adnodd chwilio A-Z sydd ar gael o fore gwyn tan nos i breswylwyr ei ddefnyddio!
Mae ailgylchu yn rhan annatod o fywyd yng Nghymru a RhCT bellach. Mae arolwg diweddar ar Dewch i Siarad (adnodd ymgysylltu ar-lein y Cyngor) yn dangos bod 100% o'r cyfranogwyr yn defnyddio gwasanaethau ailgylchu'r Cyngor. Dywedodd 97% eu bod nhw'n gwneud hynny'n wythnosol. Mae'r cynllun ailgylchu bwyd yn mynd o nerth i nerth, gyda 95% o breswylwyr yn dweud eu bod nhw'n ailgylchu eu gwastraff bwyd.
Yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac ailgylchu rhagor, newidion ni'r ffordd rydyn ni'n casglu gwastraff gwyrdd ym mis Tachwedd 2021. Cyflwynon ni sach ailgylchu gwastraff gwyrdd newydd y mae modd ei ailddefnyddio, gan arbed oddeutu 12 miliwn o fagiau clir. Cofiwch - fyddwn ni ddim ond yn casglu gwastraff gwyrdd bob pythefnos o'r wythnos sy'n dechrau ar 31 Hydref hyd at fis Mawrth 2023.
Beth am glirio'r sgerbydau o'ch cypyrddau a chael gwared ar eich hen bethau llychlyd mewn pryd i ddathlu Calan Gaeaf?
Ewch ati i glirio'r garej neu'r ystafell sbâr a rhoi bywyd newydd i rai o'ch hen eitemau. Gallwch chi fynd â nhw i siopau'r Sied yn Llantrisant, Aberdâr neu Dreherbert, neu alw heibio un o'n Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned. Mae'r rhain wedi'u lleoli ym mhob rhan o'r fwrdeistref sirol.
Drwy fynd â'ch hen eitemau i un o'n Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned, byddwch chi'n sicrhau bod yr eitemau sy'n cael eu hailgylchu yn cael eu troi yn drysorau newydd. Pwy a ŵyr, efallai mai eich hen flwch teganau fydd y cylchgrawn nesaf i chi ei brynu. Bydd hyn hefyd yn helpu i glirio lle yn eich cartref.
Cofiwch ddidoli eich gwastraff cyn i chi alw heibio'r ganolfan. Dydyn ni ddim yn derbyn eitemau cymysg.
Mae staff ar gael ym mhob un o'r canolfannau. Byddan nhw'n barod i roi cyngor ar faterion ailgylchu a'ch helpu i gael gwared ar eu deunydd o'ch cartref.
Nodwch fod polisi newydd ar gyfer faniau mwy bellach ar waith i frwydro yn erbyn gadael gwastraff masnachol anghyfreithlon. Efallai y bydd angen i chi drefnu apwyntiad os ydych chi'n bwriadu dod â nifer fawr o eitemau amrywiol i'w hailgylchu. Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o bwy ydych chi (ID). Ffoniwch y brif swyddfa ar 01685 870770 neu 07824 541758 i drefnu hyn. Mae'r gwasanaeth apwyntiadau ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener (7.30am-3.30pm). Bydd hyn yn eich galluogi i drefnu ymweliad â'r Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned sydd fwyaf cyfleus i chi.
O 31 Hydref, bydd y Canolfannau Ailgylchu yn gweithredu oriau agor y gaeaf - o 8am tan 5.30pm.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae Calan Gaeaf yn gyfnod gwych i deuluoedd fwynhau eu hunain. Wedi dweud hynny, mae'n bwysig ein bod ni'n cofio meddwl am yr amgylchedd ac yn ailgylchu'r holl wastraff ychwanegol.
“Mae ein preswylwyr wedi gwneud ymdrech wych i ailgylchu'u gwastraff bwyd yn wythnosol hyd yma. Hoffwn ddiolch i bawb yn ein Bwrdeistref Sirol am wneud ei ran.
"Y newyddion gwych yw bod fwyfwy o'n trigolion yn ystyried yr amgylchedd bob dydd ac mae'r ffigurau diweddaraf yn dystiolaeth o hyn. Rydyn ni'n gofyn i'r holl wrachod ac ysbrydion bach (a mawr) ailgylchu eu holl wastraff brawychus y Calan Gaeaf yma."
Mae'n haws nag erioed i chi ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni'n cynnal casgliadau diderfyn ac mae gyda ni amrywiaeth o leoedd ar draws y Fwrdeistref Sirol y mae modd i chi fynd atyn nhw i gasglu eich bagiau ailgylchu! Mae modd i chi hefyd gofrestru ar gyfer ailgylchu gwastraff bwyd, gwastraff gwyrdd a chewynnau ar-lein. Yn ogystal â hyn, mae POB Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned ledled y Fwrdeistref Sirol ar agor 7 niwrnod yr wythnos, rhwng 8am a 7.30pm (Mawrth - Hydref) ac 8am - 5.30pm (Tachwedd - Mawrth).
Mae modd ailgylchu 80% o wastraff y cartref ar gyfartaledd - sy'n golygu bod modd ailgylchu 8 allan o bob 10 bag o sbwriel sy'n dod o gartrefi, a'u troi yn rhywbeth newydd.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag ailgylchu, dilynwch ni ar Twitter/Facebook neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu.
Wedi ei bostio ar 28/10/2022