Skip to main content

Y swyddogion cyntaf yn ymuno â charfan newydd y Wardeiniaid Cymunedol

Community Wardens have started their patrols in Rhondda Cynon Taf communities

Mae’r Cyngor am benodi 14 o swyddogion i garfan newydd y Wardeiniaid Cymunedol ac mae 4 eisoes wedi dechrau yn eu swyddi yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ar ôl sefydlu’r garfan yn llawn, bydd y Wardeiniaid yn gweithio 7 diwrnod yr wythnos, a bydd eu sifftiau’n cynnwys patrolau gyda’r nos.

Ym mis Mehefin, cytunodd Cabinet Rhondda Cynon Taf y byddai'r Cyngor yn cyflogi carfan newydd o Wardeiniaid Cymunedol. Bydd y wardeiniaid yma’n bresenoldeb calonogol yn ein cymunedau ac yn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Byddan nhw’n canolbwyntio ar leoliadau allweddol megis canol trefi a pharciau. Dyletswydd graidd y wardeiniaid yw rhoi cysur a thawelwch meddwl i drigolion lleol a'r gymuned ehangach trwy greu amgylchedd mwy diogel a phleserus i bawb.

Bydd y wardeiniaid yn ymateb i adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn gorfodi'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) sy'n gwahardd yfed alcohol yng nghanol trefi a defnyddio sylweddau meddwol eraill.

Bydd hefyd modd iddyn nhw roi dirwyon am droseddau amgylcheddol eraill, er enghraifft taflu sbwriel, gadael baw cŵn, a methu â chydymffurfio â'r rheolau sy'n atal cŵn rhag mynd i ardaloedd chwarae i blant a chaeau chwaraeon.

Dechreuodd y Wardeiniaid Cymunedol yn eu swyddi ym mis Medi. Byddan nhw’n dechrau ar eu gorchwyl patrolio gweledol yn ein cymunedau ar ôl iddyn nhw gwblhau eu hyfforddiant. Mae’r Cyngor yn parhau â’r broses recriwtio i ddod o hyd i ragor o wardeiniaid – mae rhagor o wybodaeth am y swyddi gwag ar wefan y Cyngor.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Rydyn ni wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau ers y pandemig, felly mae aelodau'r Cabinet wedi cytuno bydd y Cyngor yn cyflogi carfan newydd o Wardeiniaid Cymunedol er mwyn mynd i’r afael â hyn. Bydd y wardeiniaid yma'n bresenoldeb cyfeillgar fydd yn tawelu meddwl trigolion mewn lleoliadau ble mae achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol megis canol trefi a pharciau.

"Bydd y wardeiniaid yn gweithio gydag adrannau'r Cyngor i orfodi'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n ymwneud ag alcohol. Bydd gan y wardeiniaid yr hawl i orfodi troseddau eraill megis gadael baw cŵn a'r PSPO ehangach mewn perthynas â rheoli cŵn. Byddan nhw'n bresenoldeb yn y gymuned ar ran carfanau gorfodi'r Cyngor ac yn gweithio gyda sefydliadau partner er mwyn creu cymunedau mwy diogel.

"Mae'n bwysig nodi na fydd y wardeiniaid yno yn lle'r heddlu, byddan nhw’n bresenoldeb ychwanegol ar y cyd â'r heddlu yn Rhondda Cynon Taf. Ym mis Mehefin cytunodd y Cabinet i ariannu 10 Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu ychwanegol yn yr ardal - mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ariannu 100 o swyddogion ychwanegol ar gyfer Cymru.

"Hoffwn i groesawu Graham, Rory, Ben ac Alyn i'w rolau newydd. Maen nhw bellach wedi dechrau eu patrolau yn y gymuned ac mae'r Cyngor yn parhau â'r broses recriwtio i ddod o hyd i 8 swyddog arall i ymuno â'r garfan."

Ychwanegodd Marc Attwell, Uwcharolygydd Heddlu De Cymru: "Bydd y wardeiniaid yma'n rhan bwysig o'r broses o fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf.

"Maen nhw eisoes yn gweithio'n agos gyda'n carfanau plismona yn y gymdogaeth i dargedu'r rheiny sy'n ymddwyn mewn ffyrdd sy'n effeithio ar ansawdd bywyd pobl eraill.

"Bydd y wardeiniaid yn mynd i'r afael â rhai o'r materion mwyaf amlwg yn ein cymunedau gan gynnwys camddefnyddio sylweddau yng nghanol trefi, taflu sbwriel a gadael baw cŵn mewn parciau er mwyn sicrhau bod modd i bawb fwynhau'r ardaloedd yma.

"Mae Heddlu De Cymru yn croesawu'r swyddogion newydd ac yn eu cefnogi'n llawn."

Mae wardeiniaid newydd y Cyngor hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan gwmni bysiau Stagecoach.

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru: "Rydyn ni'n falch iawn o gael gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf ar ei wasanaeth Wardeiniaid Cymunedol newydd.

"Bydd y wardeiniaid yma'n bresenoldeb patrolio swyddogol fydd yn rhoi cysur a thawelwch meddwl i aelodau'r gymuned. Rydyn ni'n falch iawn o gael dangos cefnogaeth i'r wardeiniaid trwy gynnig trafnidiaeth am ddim iddyn nhw ar ein bysiau yn Rhondda Cynon Taf. Pob lwc iddyn nhw yn eu swyddi newydd."

Mae'r Cyngor yn dal i geisio dod o hyd i ragor o aelodau i ymuno â'r garfan ac mae modd gwneud cais i ymuno â'r garfan gyffrous yma. Ewch i wefan y Cyngor am ragor o wybodaeth.

Wedi ei bostio ar 11/10/2022