Skip to main content

Gyrrwr Bws y Flwyddyn y DU yn mwynhau gwneud gwahaniaeth yn lleol

Michael Evans is the UK Bus Driver of the Year 2

Yn ddiweddar, enillodd Michael Evans o Stagecoach o’r Rhondda, y wobr Gyrrwr Bws y Flwyddyn y DU 2022 – a dywedodd mai cyfarfod â phobl leol a gwybod ei fod yn gwneud gwahaniaeth i’w bywydau yw’r rhan mwyaf gwobrwyol o'i swydd.

Roedd Michael, sydd wedi'i leoli ym mhencadlys Stagecoach Porth, yn gweithio fel gwerthwr ceir am fwy na 30 mlynedd cyn newid gyrfa yn 2018. Fe gofrestrodd ar gyfer y gystadleuaeth mawr ei bri yma ar ôl i un o'i gyd-weithwyr sôn amdano. Fe lwyddodd i ennill lle yn y rownd derfynol genedlaethol ar ôl ennill y rhagbrofion lleol. Cafodd y rownd derfynol ei chynnal yn Blackpool ym mis Hydref 2022, ble roedd yn rhaid iddo ef gwblhau prawf theori a phrawf gyrru ar hyd promenâd Blackpool.

Mae Michael yn dweud bod gyrru bws wedi cynnig llawer o gyfleoedd cyffrous iddo ef – o'r rhyngweithio dyddiol y mae'n ei wneud ag aelodau o'r gymuned, i gyfleoedd unigryw, fel y gystadleuaeth, a gyrru gwylwyr i fynd i wylio Gemau'r Gymanwlad yn ninas Birmingham. Mae hefyd ar hyn o bryd yn hyfforddi i gymhwyso fel hyfforddwr gyrru bws gyda'r cwmni.

Wrth siarad am newid ei yrfa i fod yn yrrwr bws, dywedodd Michael: “Sylwais fod Stagecoach yn cynnig hyfforddiant â thâl yn y pencadlys sy'n lleol i mi, sef yn nhref Porth. Mi achubais i ar y cyfle a dydw i ddim wedi difaru o gwbl! Rydw i wrth fy modd yn gyrru a chwrdd â phobl, ac yn dwlu ar deithio o amgylch y lle a chael golygfa wahanol bob dydd. Rydw i'n cael fy nhalu i wneud hynny – does dim byd yn hafal. Fy hoff beth am y swydd ydy cwrdd â phobl, nid yn unig yn y gymuned, ond yn y gweithle hefyd.

“Nid cyfarfod pobl yn unig, ond gwybod fy mod yn gwneud gwahaniaeth i’w bywydau nhw sy’n gwneud y swydd yma'n arbennig. Mae llawer o'n bysiau yn gymunedau o fewn cymunedau ble mae pobl yn cwrdd â ffrindiau, hen a newydd, a llawer ohonyn nhw er mwyn osgoi unigedd. Efallai mai dyma'r unig ffurf o gyfathrebu y bydd rhai teithwyr yn ei gael drwy'r dydd. Mae awyrgylch ein bysiau yn hynod gadarnhaol, ac rydw i'n teimlo'n falch o fod yn rhan o hynny. Pan fydd teithwyr yn diolch i mi ac yn dweud bod y bws yma'n achubiaeth iddyn nhw, mae'n gwneud i mi deimlo fel fy mod yn cyfrannu at y gymuned." 

Roedd Michael ymhlith y 89 o yrwyr bysiau o ledled y wlad a oedd yn rownd derfynol Gyrrwr Bws y Flwyddyn y DU, gyda chynrychiolwyr o 35 o gwmnïau gweithredu. Dywedodd ef ei fod wedi derbyn llawer o gefnogaeth, yn enwedig gan ei deulu a chan Stagecoach.

Ychwanegodd: “Darren Moyle, y Rheolwr Gweithrediadau Cynorthwyol ym mhencadlys Porth, a awgrymodd y dylwn i gofrestru ar gyfer y wobr Gyrrwr Bws y Flwyddyn. Doeddwn i ddim hyd yn oed wedi ei ystyried cyn hynny. Roeddwn i'n gwybod fy mod i wedi gyrru yn dda yn y rownd derfynol, ond gan mai hwnnw oedd y tro cyntaf i mi gystadlu, doeddwn i ddim yn disgwyl ennill. Rydw i'n aml yn jocian gyda fy wyrion ifainc ac yn dweud mai fi yw'r gyrrwr bws orau, felly roedd yn rhaid i mi ddod adref gyda'r wobr!”

Ychwanegodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Hoffwn i longyfarch Michael am ennill y gystadleuaeth, a gallwn ni yn awr ddweud yn swyddogol bod y gyrrwr bws orau yn y DU yma yn Rhondda Cynon Taf! Mae gyrwyr a gweithredwyr bysiau yn chwarae rhan amhrisiadwy yn darparu trafnidiaeth gyhoeddus hanfodol, sydd, mewn llawer o achosion, yn achubiaeth i drigolion rhag bod yn unig.

“Rydyn ni'n effro i'r ffaith fod yna brinder cenedlaethol o yrwyr bysiau ar hyn o bryd, sy'n effeithio'r holl wlad ac yn cael effaith niweidiol ar allu gweithredwyr bysiau i gyflawni eu gwasanaethau. Does dim eithriad i'r prinder yma'n lleol chwaith, wrth i weithredwyr bysiau, megis Stagecoach, barhau â'u hymgyrch recriwtio ar gyfer nifer o rolau. Mae'n wych clywed brwdfrydedd Michael am ei swydd, ac mae ei brofiadau ef yn dangos pa mor wobrwyol gall y swydd yma fod.”

Wedi ei bostio ar 21/10/22