Skip to main content

Strategaeth wedi'i diweddaru i leihau nifer y cartrefi gwag

Cabinet has agreed an updated Empty Homes Strategy

Mae'r Cabinet wedi cytuno ar Strategaeth Cartrefi Gwag newydd i barhau â'r gwaith cadarnhaol sydd wedi helpu i droi 662 o eiddo gwag yn gartrefi unwaith eto yn y blynyddoedd diwethaf – ac i ymgynghori ar gynigion yn ymwneud â Phremiymau Treth y Cyngor ar gyfer eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi.

Yn eu cyfarfod ddydd Llun, 17 Hydref, trafododd yr aelodau ddau adroddiad ynglŷn ag ymrwymiad y Cyngor i leihau nifer yr eiddo gwag yn Rhondda Cynon Taf. Mae cartrefi gwag yn draul ariannol ac yn adnodd sy'n cael ei wastraffu - byddai modd iddyn nhw ddarparu tai fforddiadwy mawr eu hangen. Mae modd iddyn nhw edrych yn hyll ac maen nhw'n denu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae’r ymyraethau, y camau gweithredu a’r cymorth sy'n cael ei darparu yn y Strategaeth Cartrefi Gwag bresennol (2018-2022) wedi lleihau nifer yr cartrefi gwag o 3,556 i 2,894, sef cyfanswm o 662 o eiddo (19%), dros y cyfnod o bedair blynedd.Mae rhagor o fanylion am y gwaith cadarnhaol yma wedi'i gynnwys ar waelod y diweddariad yma.

Mae’r Strategaeth newydd arfaethedig (2022-2025) yn cynnwys pum amcan clir i adeiladu ar y cynnydd presennol sydd wedi'i gyflawni – gyda’r nod o wneud gwahaniaeth i raddfa’r eiddo gwag sy’n cael eu troi'n gartrefi unwaith eto, a pharhau i leihau nifer y cartrefi gwag mewn modd cynaliadwy. Mae’r pum amcan yn cynnwys:

  • Datblygu partneriaethau – parhau i ymgysylltu â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, partneriaid yn y sector preifat, grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid eraill, wrth gydlynu camau gweithredu drwy’r Grŵp Gweithredol Cartrefi Gwag.
  • Gwneud y gorau o'r cyllid presennol a nodi rhagor o gyllid – chwilio am gyfleoedd pellach, wrth barhau i reoli Grant Cartrefi Gwag y Cyngor a’r cynllun Benthyciad Troi Tai’n Gartrefi mewn modd effeithiol.
  • Defnyddio amrywiaeth o ymyraethau sy’n targedu pob math o gartrefi gwag – o adolygu premiymau Treth y Cyngor ar gyfer cartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi, i waith gorfodi ble y bo'n addas ar eiddo o’r fath.
  • Ymchwil cymunedol pellach a gwerthusiad o gynlluniau presennol – dadansoddi’r holl ffactorau sy’n effeithio ar gartrefi gwag ar lefel Bwrdeistref Sirol a ward, wrth adolygu arfer gorau ac effeithiolrwydd ymyraethau.
  • Nodi atebion i atal cartrefi rhag dod yn wag – dadansoddi’r farchnad dai leol, cryfhau’r farchnad, a gwneud y mwyaf o’r ardaloedd Cyfleoedd Strategol a nodwyd a chyfleoedd rhanbarthol ehangach.

Mewn perthynas â phremiymau ar eiddo gwag, cyflwynodd y Cyngor (ar 1 Ebrill, 2018) dâl Treth y Cyngor o 100% ar gyfer eiddo a oedd yn wag am fwy na chwe mis. Mae eu nifer wedi gostwng 22% ers hynny gan fod perchnogion tai yn fwy parod i ofyn am gyngor a chymorth er mwyn troi eu heiddo'n gartrefi unwaith eto. Serch hynny, mae dadansoddiad diweddar yn dangos bod tua 2,000 o gartrefi yn RhCT yn parhau i fod yn 'wag yn yr hirdymor', gyda 905 o'r rhain yn wag ers pedair blynedd. Cydnabyddir felly fod angen mesurau ychwanegol.

Mae'r Cabinet bellach wedi cytuno i ymgynghori ar gynigion ar Bremiwm Treth y Cyngor, sef 50% ar gyfer cartrefi sy'n wag rhwng 1 a 2 flynedd (cynnydd o 50% o'r lefel bresennol) a 100% ar gyfer cartrefi sy'n wag am o leiaf dwy flynedd (cynnydd o 100% o'r lefel bresennol). Os bydd hyn yn cael ei gytuno, bydd yn dod i rym ar 1 Ebrill, 2023.

Mae'r Cabinet wedi cytuno i ymgynghori ar gyflwyno premiwm 100% Treth y Cyngor ar gyfer pob eiddo a ddosberthir fel ail gartref (cynnydd o 100% o'r lefel bresennol). Diffiniad 'ail gartref' yw annedd nad yw’n unig neu brif gartref person, ac sydd wedi’i ddodrefnu’n sylweddol. Byddai hynyn dod i rym ar 1 Ebrill, 2024. Ar hyn o bryd mae 346 o ail gartrefi yn y Fwrdeistref Sirol, yn dilyn cynnydd o dros 80% ers 2018.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter a Datblygu: “Mae’r gwaith sy'n cael ei gyflawni gan y Strategaeth Cartrefi Gwag bresennol wedi sicrhau deilliannau cadarnhaol iawn ers 2018, gyda nifer cyffredinol y cartrefi gwag wedi gostwng 19%, a nifer yr eiddo gwag hirdymor wedi gostwng 22%. Mae hyn yn dangos cynnydd rhagorol tuag at ein nodau yn y maes yma, er mwyn cyflawni buddion economaidd, cynnydd yn y cyflenwad tai fforddiadwy, ac effaith gadarnhaol gyffredinol ar ein cymunedau.

“Mae gwaith cadarnhaol wedi cynnwys arwain ar Gynllun Grant Cartrefi Gwag Tasglu’r Cymoedd, lle'r oedd 263 o’r 488 o grantiau llwyddiannus yn ymwneud â RhCT. Mae hyn yn cynrychioli buddsoddiad gwerth £4.2 miliwn i fynd i’r afael â thai gwag yn lleol. Mae'r Cyngor yn cefnogi'r Cynllun Troi Tai'n Gartrefi sydd wedi troi 196 o eiddo gwag pellach yn gartrefi unwaith eto, ac mae swyddogion hefyd yn cynnal Fforwm Landlordiaid RhCT i ymgysylltu'n rheolaidd â thua 40 o aelodau. Dyna rai o’r camau gweithredu sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol o dan y Strategaeth bresennol.

“Serch hynny, mae nifer sylweddol o gartrefi gwag a nifer cynyddol o ail gartrefi yn Rhondda Cynon Taf o hyd, ac mae’r Strategaeth Cartrefi Gwag newydd arfaethedig yn cyflwyno pum amcan clir i wneud cynnydd pellach hyd at 2025. Cytunodd y Cabinet ar y Strategaeth newydd ddydd Llun.

“Trafododd yr Aelodau hefyd gynigion i gyflwyno premiwm Treth y Cyngor ar gyfer eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi. Rydyn ni eisoes wedi gweld effaith gadarnhaol gyda chyflwyniad cyfradd Treth y Cyngor 100% ar gyfer eiddo gwag hirdymor, a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2018 - mae perchnogion tai a landlordiaid bellach yn fwy tebygol o ofyn am gyngor a chymorth ar sut i droi eu heiddo'n gartrefi unwaith eto. Bwriad y cynigion newydd yw sicrhau deilliant tebyg, gan effeithio ar gartrefi sydd wedi bod yn wag ers o leiaf blwyddyn.

“Dyma’r peth iawn i’w wneud, i gynyddu tai fforddiadwy y mae mawr eu hangen ac amddiffyn cymunedau rhag deilliannau negyddol posibl cartrefi gwag. Mae yna nifer o lwybrau cymorth i berchnogion tai a fydd o bosibl yn cael eu heffeithio, gan gynnwys grantiau i'w cynorthwyo â gwaith adnewyddu. Mae yna hefyd eithriadau i'r cynigion ar gyfer premiwm Treth y Cyngor – er enghraifft, achosion lle mae eiddo wedi’u marchnata’n rhesymol i’w gosod neu eu gwerthu. Mae'r Cabinet wedi cytuno i ymgynghori ar y cynigion ynghylch premiymau Treth y Cyngor, ac os bydd y rhain yn cael eu rhoi ar waith yn dilyn yr ymgynghoriad, byddai swyddogion yn cynghori’r holl berchnogion tai sy'n cael eu heffeithio i roi cymaint o rybudd â phosibl iddyn nhw cyn y byddai'r newidiadau'n dod i rym.”

Camau gweithredu yn ystod y Strategaeth Cartrefi Gwag (2018-2022)

Canolbwyntiwyd yn arbennig ar 684 o eiddo a oedd yn wag ers 2014, drwy ddull wedi’i dargedu gan gynnwys cysylltu â pherchnogion tai, rhoi cyngor ar y cymorth sydd ar gael, a chamau ymyrraeth a gorfodi. Yn gyfan gwbl, mae 397 (58%) o'r eiddo wedi'u troi'n gartrefi unwaith eto o ganlyniad i waith cadarnhaol gan y Cyngor - trwy ymyraethau, benthyciadau, grantiau a gwaith rhagweithiol gan swyddogion.

Y Cyngor hefyd oedd yr Awdurdod Arweiniol yng Nghynllun Grant Cartrefi Gwag Tasglu'r Cymoedd gwerth £10 miliwn, ar draws naw Awdurdod Lleol. Daeth cyfanswm o 942 o geisiadau dilys i law, gyda 488 o'r rhain yn parhau gyda'r grant. Roedd cyfanswm o 263 o grantiau o fewn ardal RhCT, gan arwain at werth £4.2 miliwn o arian grant yn cael ei ymrwymo'n lleol. Ers mis Ebrill 2022, mae 163 o gynlluniau yn RhCT wedi'u cwblhau.

Mae camau gweithredu cadarnhaol eraill o dan Strategaeth 2018-2022 yn cynnwys y Benthyciad Troi Tai’n Gartrefi a ddyfarnodd gyfanswm o £3.91 miliwn drwy fenthyciadau (ym mis Ebrill 2022), i helpu i greu 196 o gartrefi o eiddo gwag. Cafodd 22 o brynwyr tro cyntaf yn ardal cod post CF37 eu helpu gan y Cynllun Homestep Plus i brynu eiddo gwag am 70% o’u gwerth ar y farchnad, gan eu troi'n gartrefi unwaith eto trwy gynnal gwaith adnewyddu.

Mae adran Strategaeth Tai'r Cyngor yn cynnal Fforwm Landlordiaid RhCT bob chwarter, ac mae tua 40 o aelodau yn mynychu'r rhain. Mae'r gwaith ymgysylltu uniongyrchol yma â landlordiaid yn galluogi'r Fforwm i weithio gyda'i gilydd i leihau nifer yr eiddo gwag yn y Fwrdeistref Sirol. Caiff cylchlythyr ei gyhoeddi ddwywaith y flwyddyn hefyd i roi gwybod am gynlluniau megis y cynllun Benthyciad Troi Tai'n Gartrefi.

Mae'r Cyngor hefyd yn gweithio'n agos gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a phartneriaid i roi defnydd newydd i fannau masnachol gwag yng nghanol y dref. Mae cynlluniau diweddar wedi cynnwys Adeiladau Rhydychen yn Aberpennar; Gwesty'r Boot, Y Llew Du a'r hen Fanc Natwest yn Aberdâr; 122-126 Stryd Dunraven a'r hen siop Co-op yn Nhonypandy; y Swyddfa Ddidoli yn Nhreorci; a chynlluniau amrywiol yn Stryd Taf Street, Stryd Fawr a Heol Gelliwastad ym Mhontypridd.
Wedi ei bostio ar 18/10/22