Mae angen cau ffyrdd am ddau ddiwrnod yn Heol Llantrisant yn Nhonyrefail y penwythnos yma (17-18 Medi), er mwyn gosod man croesi wedi'i godi a galluogi'r gwaith terfynol o osod wyneb newydd ar y ffordd ar gyfer gwelliannau priffyrdd yn yr ardal.
Mae'r Cyngor wedi bod yn cynnal cyfres o welliannau yn Heol Llantrisant a Phantybrad. Mae'r ardal waith yn dechrau ger tafarn y Red Cow ac yn parhau heibio i Ysgol Gynradd Tref-y-Rhyg. Mae'r cynllun yma wrthi’n cyflwyno llwybrau gwell i gerddwyr, mannau croesi wedi'u gostwng, gwelliannau i'r systemau draenio, goleuadau stryd wedi'u huwchraddio a chroesfan wedi'i chodi newydd i gerddwyr.
Bydd contractwr y Cyngor, Horan Construction Ltd, yn ymgymryd â'r gwaith terfynol sy'n gysylltiedig â'r cynllun maes o law. Mae angen cau ffordd yn llawn ar ddydd Sadwrn 17 Medi a dydd Sul 18 Medi (9am tan 4pm bob dydd).
Bydd y ffordd ar gau wrth gyffordd Y Goedlan a Ffordd Llantrisant, cyffordd Heol Pretoria a Ffordd Llantrisant, a Phantybrad wrth ei chyffordd â Lôn Pantybrad. Bydd llwybr amgen ar gyfer modurwyr i’w weld yn glir ar hyd Ffordd Llantrisant, Ffordd Fynediad Parc Busnes Llantrisant, Cylchfan Ynysmaerdy, yr A4119, Heol Penygarreg, Teras Tylcha Wen, Stryd y Felin, Stryd Fawr a Heol Pretoria.
Bydd mynediad ar gael i gerddwyr, cerbydau'r gwasanaethau brys, a cherbydau sy'n cael mynediad i eiddo lleol o fewn yr ardal sydd ar gau.
Bydd y gwaith wedyn yn parhau gan ddefnyddio byrddau Stop/Go ddydd Mawrth, 20 Medi a dydd Mercher 21 Medi (9.30am tan 3pm bob dydd). Dylech chi ganiatáu rhagor o amser ar gyfer eich teithiau drwy'r ardal, gan fod disgwyl y bydd rhywfaint o darfu.
Hoffai'r Cyngor ddiolch i drigolion lleol, busnesau a chymudwyr am eu cydweithrediad yn ystod y gwaith yma. Mae'r ffyrdd wedi'u hamserlennu i'w cau dros y penwythnos er mwyn lleihau aflonyddwch. Bydd y pedwar diwrnod o waith yn galluogi gwelliannau'r priffyrdd i gael eu cwblhau. Mae'r gwaith wedi'i ariannu gan y Rhaglen Gwneud Defnydd Gwell o fewn Rhaglen Gyfalaf y Priffyrdd 2022/23 y Cyngor.
Wedi ei bostio ar 15/09/22