Skip to main content

Proclamasiwn RhCT

Proclamation 2A

Cafodd achlysur arbennig ei gynnal yn Rhondda Cynon Taf dros y penwythnos i nodi Proclamasiwn Y Brenin Charles III. 

Cafodd y cyhoedd, ynghyd â gwesteion arbennig, eu gwahodd i'r seremoni a gynhaliwyd ar y sgwâr y tu allan i Lys Cadwyn, Pontypridd, am 1:15pm ddydd Sul (Medi 11). 

Cafodd y Proclamasiwn ei ddarllen gan Faer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Wendy Treeby, ac roedd y Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, hefyd yn bresennol. 

Daeth y Brenin Charles III yn Frenin yn dilyn marwolaeth ei fam, Ei Mawrhydi, Y Frenhines Elizabeth II, ddydd Iau, 8 Medi. Roedd hi'n 96 oed.

 Yn dilyn y Prif Broclamasiwn ym Mhalas St James, Llundain, ddydd Sadwrn (10 Medi), mae seremonïau wedi’u cynnal ledled y DU. Cafodd y Senedd hefyd ei alw yn ôl dros y penwythnos fel bod modd i wleidyddion Cymru dalu teyrnged i'r Frenhines. 

Mae baneri bellach yn cyhwfan ar hanner mast mewn adeiladau dinesig ledled ein Bwrdeistref Sirol ar gyfer y cyfnod Galaru Cenedlaethol. Byddan nhw'n aros felly tan 8am ar y diwrnod ar ôl Angladd Gwladol y Frenhines.   

Wedi ei bostio ar 13/09/2022