Y DIWEDDARAF AR GYFER MIS TACHWEDD! Mae dros 90% o'r holl docynnau ar gyfer Ogof Siôn Corn wedi'u gwerthu! Peidiwch â cholli allan – prynwch eich tocynnau heddiw.
Mae Ogof Siôn Corn yn dychwelyd i Daith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda ar gyfer 2022.
Caiff yr achlysur poblogaidd ei gynnal rhwng 19 Tachwedd a 24 Rhagfyr, gan roi cyfle i ymwelwyr fwynhau taith a phrofiad Nadoligaidd a chwrdd â Siôn Corn ei hun!
Yn ogystal â thaith hudol yn llawn pethau Nadoligaidd annisgwyl, bydd yr achlysur hefyd yn cynnwys gweithgareddau â thema a fydd yn cael eu cynnal mewn cabanau pren bach ledled y safle.
Bydd siop Nadolig ar agor er mwyn i chi ddewis yr anrheg berffaith neu ddanteithion blasus. Bydd y Chocolate House a Craft of Hearts hefyd yn cynnig gweithdai a sesiynau lle cewch wneud eich danteithion siocled eich hun neu fod yn greadigol!
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Mae'r rhestr yn barod gan gorachod Siôn Corn yn Nhaith Pyllau Glo Cymru ac maen nhw wrth eu boddau i gyhoeddi bod achlysur Ogof Siôn Corn yn mynd yn ei flaen ar gyfer 2022.
“Mae Ogof Siôn Corn yn un o achlysuron mwyaf poblogaidd y flwyddyn ac mae naws hudol llawn hwyl yn Nhaith Pyllau Glo Cymru drwy gydol tymor y Nadolig.
“Rydyn ni'n edrych ymlaen at ddathlu hwyl yr ŵyl gydag ymwelwyr yn 2022.”
Mae tocynnau ar gyfer Ogof Siôn Corn ar werth nawr ac mae modd eu prynu ar-lein yma.
Mae modd i ysgolion a grwpiau gadw lleoedd drwy ffonio’r dderbynfa ar 01443 682036.
Bydd tocynnau yn costio £11 y person neu £3 i fabanod 18 mis oed ac yn iau.
Mae Ogof Siôn Corn wedi'i noddi gan gwmni Nathaniel Cars. Mae ei staff cyfeillgar a phroffesiynol yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn darparu ceir i drigolion Rhondda Cynon Taf a thu hwnt am fwy na 35 mlynedd,
Wedi ei bostio ar 20/09/2022