Mae un o gyn-filwyr hynaf y Lluoedd Arfog yng Nghymru, a'r hynaf yn Rhondda Cynon Taf, yn dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed yr wythnos yma gyda'i deulu, ei ffrindiau a chyn-filwyr mewn achlysur arbennig ym Mhontypridd.
Cafodd Gordon White, y mae wedi’i adnabod fel 'Pop' trwy gydol ei fywyd, ei eni ar 2 Ebrill 1923 yn un o wyth o blant i Alfred ac Alice White. Mynychodd Ysgol Fabanod Pwll-gwaun ac Ysgol Fechgyn Maesycoed cyn dechrau gweithio dan ddaear yng Nglofa Pwll-gwaun, Pontypridd, ac yntau dim ond yn 14 oed.
Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: "Ar ran holl gyn-filwyr y Lluoedd Arfog ledled Rhondda Cynon Taf, rwy'n anfon fy nymuniadau gorau i Gordon White ar ei ben-blwydd yn 100 oed.
“Mae ei deulu a’i ffrindiau yn caru Pop. Ac yntau wedi goroesi ymosodiad taflegryn yn ystod Brwydr Anzio yn ystod yr Ail Ryfel Byd a laddodd cynifer o’i gyd-filwyr, mae wedi mynd ymlaen i fyw bywyd llawn ac iach ac yn dal i fyw yn yr un ardal ble cafodd ei eni a’i fagu.”
Ar ôl gadael Glofa Pwll-gwaun, symudodd ymlaen yn ddiweddarach i lofa enwog yr Albion, ble ym 1890, cafodd 290 o ddynion a bechgyn eu lladd yn dilyn ffrwydrad tanddaearol. Gadawodd Mr White y diwydiant glo yn gynnar yn y 1940au ac ymunodd â'r Llynges Frenhinol ar 4 Tachwedd 1942. Daeth yn warchodwr Carcharor Rhyfel gan weithio ar longau glanio yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Wrth deithio ar hyd y Môr Coch o Napoli, bu'n rhan o Frwydr Anzio ym 1944, ble collodd miloedd o filwyr eu bywydau. Roedd y llong yr oedd yn teithio arno hefyd dan ymosodiad taflegryn uwchben yn y nos a chafodd y llong ei suddo.
Pan darodd y taflegryn, trodd ei long ar ei ochr a dim ond rhan ohono oedd uwchben y dŵr. Ond, ar ôl i Mr White syrthio o'i wely uchel, aeth yn sownd, gan dorri ei goes a'i arddwrn a doedd dim modd iddo symud wrth i'r llong lenwi'n araf â dŵr.
Yn y diwedd cafodd ei achub gan filwr Americanaidd trwy'r twll taflegryn ar ochr y llong ac fe aethon nhw ag ef ar fwrdd llong ysbyty milwrol yng Ngwlff Napoli, ble ychydig o ddiwrnodau ynghynt, ar 17 Mawrth 1944, ffrwydrodd y llosgfynydd enwog, Mynydd Vesuvius.
Wrth edrych yn ôl ar y cyfnod yna yn ei fywyd, meddai Gordon White: "Roeddwn i mewn man tywyll yn dilyn yr ymosodiad taflegryn, ond galla i gofio arogl y llosgfynydd yna o hyd. Roedd llwch ym mhobman.
"Roeddwn i'n un o'r rhai lwcus a lwyddodd i ddod adref – ni ddaeth llawer adref. Rydw i wedi byw bywyd bendigedig. Fe wnes i briodi, ges i deulu fy hun ac fe wnes i barhau i weithio tan fy ymddeoliad.
"Rydw i dal yn iach ac yn heini. Dydw i ddim yn cymryd unrhyw feddyginiaeth ac rydw i wrth fy modd yn cwrdd â chyn-filwyr eraill yng Ngrwpiau i Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog wythnosol, sy'n cael eu trefnu gan y Cyngor.
"Mae gyda phob un ohonon ni gymaint yn gyffredin a llawer o straeon gwych i'w rhannu, tra hefyd yn cofio am y ffrindiau rydyn ni wedi'u colli ar hyd y daith. Yr unig wahaniaeth yw bod stori fy mywyd i yn mynd yn ôl yn bellach na phobl eraill."
Enillodd Mr White y Seren Eidalaidd (Italian Star) a gadawodd y Llynges Frenhinol ym mis Mehefin 1946 gan ddychwelyd i fywyd gartref. Priododd â Mildred ym 1947 ac roedd y cwpl â thri o blant, Robert, Wendy a Carol. Mae gydag ef un ŵyr/wyres ac mae disgwyl i'w or-ŵyr/wyres gyntaf gyrraedd mewn ychydig o wythnosau.
Dychwelodd i'r diwydiant glo ym 1947 gan weithio'r shifft nos dan y ddaear yng Nglofa’r Maritime, Pontypridd am 11 mlynedd cyn dechrau gwaith mewn ffatri.
Yna, symudodd i Forgemasters de Cymru a chafodd ei wneud yn ddi-waith yn 64. Ond, fe barhaodd i weithio wedi hynny yn lanhawr yn Tesco ym mhentref Glan-bad nes iddo ymddeol yn swyddogol yn 65 oed.
Mae Mr White yn parhau i fyw yn annibynnol ac mae'n mynychu cyfarfodydd Grŵp i Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog yng Nghanolfan Gymunedol Rhydfelen bob dydd Mercher. Mae hefyd yn mwynhau cymdeithasu â ffrindiau yng Nghlwb Cymdeithasol Broadway.
Fe ddychwelodd i Anzio ar achlysur 75 mlynedd ers yr Ymgyrch Eidalaidd a Brwydr Anzio, gan wasgaru petalau pabi ar y dŵr yn yr ardal ble collodd gymaint o'i gymrodyr. Dychwelodd hefyd i ymweld â beddi'r cymrodyr a gollodd eu bywydau.
Dathlodd Gordon White ei ben-blwydd yn 100 oed yng Ngrŵp i Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog a gafodd ei gynnal yng Nghanolfan Cymunedol Rhydfelen. Cyflwynodd yr aelodau anrhegion arbennig iddo wrth i bawb fwynhau canu caneuon y rhyfel, a hynny yng nghwmni pianydd
Wedi ei bostio ar 06/04/23