Skip to main content

Cadeirydd Annibynnol ar gyfer Bwrdd Cymdogaeth Balchder Bro Rhondda Fach

Ynglŷn â'r swydd

Mae Rhondda Fach yn un o 284 o leoedd ledled y DU i dderbyn hyd at £20 miliwn dros ddeng mlynedd yn rhan o Raglen Balchder Bro Llywodraeth San Steffan, sydd â'r nod o adeiladu cymunedau cryfach, creu lleoedd sy'n ffynnu a grymuso pobl i adennill rheolaeth.

Er mwyn cyflawni'r Rhaglen Balchder Bro, mae Byrddau Cymdogaeth yn cael eu sefydlu ym mhob cymdogaeth. Bydd Cadeirydd annibynnol yn arwain pob Bwrdd – rhywun a all ddod â chymunedau ynghyd i rannu eu syniadau mewn ffordd agored a chydweithredol a darparu arweinyddiaeth weithredol i arwain y Bwrdd a sicrhau bod y buddsoddiad sylweddol yma'n cael ei gyflawni'n effeithiol.

Bydd y Cadeirydd yn hyrwyddo Rhondda Fach, gan drefnu ymgysylltiad sy'n estyn llaw i'r gymuned er mwyn sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu harwain gan y gymuned. Bydd y Cadeirydd yn darparu arweinyddiaeth strategol, llywodraethu effeithiol, tryloywder ac atebolrwydd a bydd yn cefnogi cydweithio rhwng rhanddeiliaid, gan sicrhau bod y rhaglen yn parhau i ganolbwyntio ar ei hamcanion ac yn atebol i'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu. Dylai fod gan y Cadeirydd gysylltiad cryf â'r ardal a does dim rhaid bod wedi gwneud y math yma o waith o'r blaen. Yr hyn sydd bwysicaf yw ymrwymiad i wireddu newid a gwella bywydau'r bobl yn y gymuned.

Bydd y Cadeirydd yn arwain y broses o recriwtio a chynnull y Bwrdd, gyda chefnogaeth yr awdurdod lleol a'r Aelod Seneddol lleol. Bydd y Bwrdd yn gyfrifol am ddatblygu Cynllun Balchder Bro ar gyfer yr ardal erbyn mis Tachwedd 2026, gan lunio gweledigaeth 10 mlynedd a chynllun buddsoddi ar gyfer y 4 blynedd cyntaf gyda blaenoriaethau buddsoddi ar gyfer ysgogi newid cadarnhaol.

Dyma'r meini prawf rydyn ni'n chwilio amdanyn nhw ar gyfer ein Cadeirydd annibynnol:

Hanfodol 

  • Hanu, byw neu weithio yn ardal Rhaglen Balchder Bro Rhondda Fach, dal rôl amlwg yn y gymuned neu fod yn angerddol dros y lle.
  • Cysylltiad cryf â'r gymuned a bod yn benderfynol o'i gwneud yn lle hyd yn oed gwell i fyw.
  • Profiad o weithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys grwpiau cymunedol, awdurdodau lleol, busnesau a'r sector gwirfoddol.
  • Profiad o lywodraethu ac arwain bwrdd, gyda gallu i ddarparu goruchwyliaeth strategol a sicrhau prosesau gwneud penderfyniadau cadarn.
  • Meddu ar sgiliau cyfathrebu a hwyluso cryf gyda'r modd i ddod â safbwyntiau amrywiol ynghyd a chreu consensws i lunio gweledigaeth ar y cyd ar gyfer y dyfodol.          
  • Gallu meddwl yn ochrol ac yn greadigol am atebion i broblemau a ffyrdd o ddenu lleisiau'r gymuned.
  • Sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed a bod trafodaethau'r Bwrdd yn gydweithredol; medru dod o hyd i gonsensws, gan fynd i'r afael â gwrthdaro mewn modd pwyllog a diduedd.

Dymunol

  • Profiad o reoli prosiectau neu raglenni, yn enwedig rhai sy'n ymwneud ag adfywio, datblygu'r gymuned neu fuddsoddi lleol. 
  • Profiad o oruchwylio buddsoddiad cyhoeddus neu breifat sylweddol, gan gynnwys sicrhau bod cyllid yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol ac yn cyflawni deilliannau mesuradwy.
  • Profiad o reoli prosiectau neu raglenni gyda dealltwriaeth o sut i oruchwylio cyflawniad strategol mentrau cymhleth a rheoli risg.

Does dim hawl i'r Cadeirydd fod yn gynrychiolydd etholedig, megis:

  • Aelod Seneddol
  • Aelod o'r Senedd
  • Cynghorydd Lleol
  • Aelod o Senedd yr Alban
  • Aelod o'r Cynulliad Deddfwriaethol (Gogledd Iwerddon)

Mae hon yn rôl wirfoddol. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod gan Fyrddau Cymdogaeth arweinyddiaeth addas, ac i agor y swydd i ymgeiswyr a fyddai'n methu â gwneud cais fel arall, mae modd cynnig taliad sylfaenol bach i dalu Cadeirydd am ei amser.

Fel arfer, bydd angen i Gadeirydd ymrwymo amser ar gyfer o leiaf 4 cyfarfod y Bwrdd y flwyddyn, gan gynnwys paratoi a bod yn bresennol yn y cyfarfodydd ac ymwneud â sesiynau datblygu neu ymgysylltu ychwanegol yn ôl yr angen. Fodd bynnag, bydd y rôl yn fwy prysur yn ystod y chwe mis cyntaf pan fydd angen i'r Cadeirydd hefyd neilltuo amser i gysylltu â'r AS lleol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i helpu sefydlu'r Bwrdd a datblygu'r cynllun Balchder Bro.

Bydd y Cadeirydd yn derbyn cefnogaeth barhaus gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, sef y Corff Atebol sydd â chyfrifoldeb am weinyddu materion ariannol yn briodol, yn enwedig o ran gweinyddiaeth ariannol a thryloywder llywodraethu.

Os ydych chi'n meddwl y byddai'r rôl yma'n addas ar eich cyfer chi,llenwch ffurflen mynegi ddiddordeb.I dderbyn pecyn sy'n cynnwys y ffurflen, anfonwch e-bost at BusnesyCyngor@rctcbc.gov.uk.

Rhaid cyflwyno pob ffurflen mynegi diddordeb i BusnesyCyngor@rctcbc.gov.uk erbyn dydd Gwener 3 Ebrill 2026.

Wedi ei bostio ar 12/03/2026