Safle bysiau Trem Deg yn ardal Gilfach-goch
Mae'r Cyngor wedi darparu 20 cysgodfa bysiau newydd, ynghyd â gwelliannau eraill, ar hyd y llwybr bysiau allweddol rhwng Porth, Tonyrefail a Gilfach Goch – gan ddefnyddio cyllid sylweddol wedi'i ddyrannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae gwaith i wella Coridor Bws Strategol wedi'i gwblhau gan ddefnyddio cyllid sylweddol gan Gronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru a gafodd ei ddyrannu ar gyfer 2022/23, yn ogystal â chyfraniad o 10% gan y Cyngor. Mae'r rhaglen waith yn cynrychioli buddsoddiad gwerth £480,000 – gyda gwelliannau yn cael eu darparu ledled wardiau etholiadol Cymer, Dwyrain Tonyrefail, Gorllewin Tonyrefail a Gilfach Goch.
Wedi'i ddarparu gan garfan Gofal y Strydoedd y Cyngor, mae'r buddsoddiad wedi cyflwyno gwelliannau i sawl elfen o'r cyfleusterau aros i deithwyr – gan gynnwys cysgodfeydd newydd mewn 20 lleoliad. Cafodd gwelliannau eraill eu gwneud ar draws 108 o leoliadau, gan amrywio o osod wyneb newydd a phaentio llinellau gwyn, i osod arwyddion newydd.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae'r Cyngor wedi cynnal gwelliannau ar draws mwy na 100 o arosfannau bysiau ar hyd coridor Bws Strategaeth Porth-Tonyrefail-Gilfach Goch dros y flwyddyn ddiwethaf. Fe gafodd cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru groeso mawr i alluogi'r gwaith yma fynd rhagddo, sy'n cyfateb i fuddsoddiad o bron i £500,000.
"Mae gwasanaethau bysiau lleol yn darparu trafnidiaeth hanfodol, sydd, i lawer o bobl, yn eu hachub rhag mynd yn unig. Mae'n bwysig annog pobl i ddefnyddio'r gwasanaeth fysiau yn rheolaidd, i wella'r amgylchedd ac i leihau tagfeydd ar ein ffyrdd. Yn ddiweddar, fe roddodd y Cyngor gynllun arbrofol ar waith i gynnig teithiau bws rhad ac am ddim i bob taith a wnaed yn Rhondda Cynon Taf yn ystod mis Mawrth 2023. Y nod oedd annog rhagor o bobl i ddefnyddio'r bysiau, ac mae cyfleoedd ar gyfer mentrau tebyg yn y dyfodol yn cael eu harchwilio.
"Mae'r gwelliannau diweddar i arosfannau bysiau yng Nghwm Rhondda wedi gwella cyfleoedd trigolion ar draws sawl cymuned i ddefnyddio rhwydwaith lleol y bysiau. Fe wnaethon nhw amnewid 20 cysgodfa a gwneud gwelliannau eraill i fannau aros. Mae hwn yn gynllun tebyg i'r gwelliannau a gafodd eu gwneud rhwng Aberaman ac Abercynon yn 2020/21, a ddefnyddiodd cyllid gan Lywodraeth Cymru i wella 30 o fannau'r bysiau."
Wedi ei bostio ar 27/04/23