Skip to main content

Agor Caffi Parc Gwledig Cwm Dâr

Cafe-Cwtsh-sign

Mae'n bleser gyda ni gyhoeddi bod y caffi ym Mharc Gwledig Cwm Dâr yn ail-agor ddydd Llun 24 Ebrill. 

Mae'r caffi wedi bod ar gau am sawl mis ac mae hynny wedi caniatáu i'r deiliaid prydles newydd bwyso a mesur, cynllunio bwydlenni, ac mae ychydig o waith adnewyddu wedi bod hefyd. Caroline a Julian Symmonds yw'r deiliaid prydles newydd, a byddan nhw'n wynebau cyfarwydd i ymwelwyr rheolaidd â'r parc gan eu bod nhw wedi bod yn cynnal Caban Cwtsh ar y buarth ers mis Ionawr. Mae'r thema cwtsh yn parhau yn y caffi, ac enw newydd y caffi fydd Caffi Cwtsh.

Yn ogystal â gweini cinio a byrbrydau poeth ac oer, bydd y fwydlen yn Caffi Cwtsh yn cynnwys dewis eang o fwyd cartref cysurus megis pastai cig eidion tun a phastai caws a thatws. Bydd hufen iâ a melysion ar gael a bydd tê prynhawn yn cael ei weini ar y mesanîn.

Mae Cwm Dâr yn eithriadol o boblogaidd gyda'n cyfeillion sy'n cyfarth ac ymwelwyr, ac mae ardal gyfeillgar i gŵn hefyd. Yn amlwg dydy cŵn ddim yn cael mynd i'r ardal chwarae o flaen y caffi, o ganlyniad, defnyddiwch fynedfa'r buarth wrth ymweld.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

Mae'n wych gweld bod y caffi ym Mharc Gwledig Cwm Dâr yn ail-agor. Mae miloedd o bobl yn ymweld ac aros yn ein parc gwledig bob blwyddyn, ac er bod cau'r caffi wedi caniatáu ar gyfer rhywfaint o waith hanfodol, mae trigolion ac ymwelwyr wedi gweld eisiau'r caffi. A minnau'n ymwelydd rheolaidd, rydw i'n edrych ymlaen yn fawr i'r caffi ail-agor ac i weld Caffi Cwtsh ar ai newydd wedd.

Am ragor o wybodaeth ac am ddiweddariadau cyson, dilynwch Barc Gwledig Cwm Dâr ar Facebook, Instagram a Twitter.

Wedi ei bostio ar 21/04/23