Mae'r Cyngor yn falch iawn o fod wedi sicrhau cyllid llawn gan Lywodraeth Cymru i ddarparu'r ysgol newydd sbon yma ar gyfer cymuned Glyn-coch. Bydd gan yr ysgol newydd dechnolegau gwyrdd arloesol a chanolfan ymgysylltu dinesig ar y safle.
Ddydd Gwener (24 Mawrth), cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, fod ysgol newydd Glyn-coch yn un o dri chais llwyddiannus a wnaed i’r Her Ysgolion Cynaliadwy. Roedd y prosiectau, a fydd yn cael eu hariannu trwy fuddsoddiad cyfunol gwerth £44.7 miliwn, yn dangos ffyrdd arloesol o gydweithio â chymunedau wrth ddylunio, darparu a rheoli'r ysgolion.
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus dros gyfnod o chwe wythnos yn ystod misoedd cyntaf 2022, cafodd yr ysgol newydd ar gyfer Glyn-coch ei chymeradwyo gan Aelodau Cabinet y Cyngor ym mis Mehefin 2022. Mae hyn yn golygu y bydd Ysgol Gynradd Cefn ac Ysgol Gynradd Craig yr Hesg yn uno erbyn 2026. Bydd y datblygiad ysgol mwy yn gwasanaethu dalgylch y ddwy ysgol bresennol, a bydd yr ysgol newydd sbon ar safle presennol Ysgol Gynradd Craig yr Hesg a'r tir cyfagos (hen Uned Atgyfeirio Disgyblion Tŷ Gwyn). Bydd gan yr ysgol ddarpariaethau gofal plant cyfrwng Cymraeg a Saesneg ar wahân ar y safle, a hynny er mwyn diwallu anghenion y gymuned.
Yng nghyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddydd Gwener, tynnwyd sylw at nodweddion allweddol yr ysgol newydd, sef toeau gwyrdd, gerddi glaw a datrysiadau'n seiliedig ar natur i reoli dŵr wyneb. Bydd yn creu canolfan addysg, llesiant ac ymgysylltu dinesig o dan un to, wrth ddarparu parth dysgu gweithredol ar gyfer addysgu egwyddorion peirianneg, ecoleg a rheoli tir.
Cafodd cyfres o ddelweddau sy'n dangos sut bydd yr ysgol yn edrych o bosibl ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru yn rhan o gais y Cyngor am gyllid.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: “Mae'n newyddion gwych bod datblygiad ysgol newydd sbon Glyn-coch bellach wedi sicrhau cyllid llawn gan Lywodraeth Cymru, a hynny drwy’r Her Ysgolion Cynaliadwy. Bydd y safle mwy'n trawsnewid profiad a chyfleoedd dysgu disgyblion lleol erbyn 2026. Bydd amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf yn cymryd lle dau adeilad hŷn sydd angen gwaith cynnal a chadw sylweddol.
"Fel pob cynllun ysgol newydd arall sy'n derbyn buddsoddiad yn Rhondda Cynon Taf, bydd y datblygiad newydd yn gweithredu'n safle carbon Sero Net, gan gefnogi nodau ac ymrwymiadau Newid yn yr Hinsawdd ehangach y Cyngor. Bydd y datblygiad yn arloesol yn hyn o beth, gan arwain y ffordd gyda thoeau gwyrdd, gerddi glaw a datrysiadau draenio cynaliadwy, a bydd rhandir ar y safle hefyd.
“Cafodd cais y Cyngor am gyllid ei ganmol am y ffordd y mae’r gymuned ehangach yn ystyriaeth allweddol yn y datblygiad, a sut y bydd y prosiect yn creu canolbwynt yng nghanol Glyn-coch y mae modd i bawb fod yn falch ohono.
“Rydyn ni hefyd yn croesawu cymorth parhaus Llywodraeth Cymru wrth ddarparu cyfleusterau addysg newydd ar draws y Fwrdeistref Sirol yn rhan o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Mae ysgolion yn Hirwaun, Cwmdâr a Phen-y-waun eisoes wedi elwa'n ddiweddar ar gyfleusterau newydd sbon sy'n addas ar gyfer y 21ain ganrif, a bydd nifer o brosiectau allweddol eraill yn cael eu datblygu yn y blynyddoedd i ddod. Mae'r rhain yn cynnwys buddsoddiad ar y cyd gwerth £75.6 miliwn ledled ardal Pontypridd, yn ogystal ag adeiladau ysgolion cynradd newydd yng Nglynrhedynog, Pont-y-clun, Pentre'r Eglwys a Llantrisant.”
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: Mae ysgolion yn golygu llawer mwy na brics a mortar. Gall adeiladau sydd wedi eu dylunio'n dda gyfrannu at fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, gan gefnogi staff a dysgwyr ag addysg, yn ogystal â darparu safonau uchel a dyheadau uchelgeisiol i bawb.
“Mae'r tri phrosiect hyn yn rhai cyffrous iawn ac maent yn batrwm ar gyfer datblygu ysgolion yn y dyfodol. Maent yn cynnig cyfle i ddysgu am gynaliadwyedd, ond hefyd i ddysgwyr gael cyfle i ymwneud â dylunio a chreu’r adeiladau hyn, i siapio'r amgylchedd y byddant yn dysgu ynddo ac i ddeall sut mae penderfyniadau a wneir heddiw yn effeithio ar eu dyfodol.
“Mae dysgu am gynaliadwyedd yn orfodol yn ein Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae'r tri phrosiect yn rhoi cyfle gwych i ysbrydoli dysgwyr a gwireddu nod y Cwricwlwm i ddatblygu dinasyddion moesegol, gwybodus.”
Wedi ei bostio ar 04/04/23