Mae'r buddsoddiad sylweddol mewn Ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd yng Nghwm Clydach yn darparu cyfleuster addysg o'r radd flaenaf - a hefyd yn darparu cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddi yn y sector adeiladu i bobl leol, diolch i waith sy'n cael ei gynnal yn y gymuned gan gontractwr penodedig y Cyngor, Morgan Sindall Construction.
Mae Keenan Moulding, sy'n wreiddiol o Ben-rhys a bellach yn byw ym Maerdy, wedi cael cymorth yn ddiweddar i gyflawni a derbyn ei Gerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu, (CASA) sef y cymhwyster diwydiant adeiladu sy'n cael ei gydnabod yn y DU. Mae bellach wedi'i gyflogi yn labrwr datblygiad yr Ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol gan is-gontractwr gwaith tir Morgan Sindall - Smiths Groundworks.
Roedd yr unigolyn 24 mlwydd oed yn un o 11 person lleol a wnaeth gymryd rhan mewn prosiect cyflogadwyedd ym Mhen-rhys, a gafodd ei gydlynu gan Blue Water Recruitment a'i gefnogi gan Morgan Sindall, Trivallis a Charfan Cymunedau am Waith Rhondda Cynon Taf. Roedd y prosiect yn darparu cymorth cyflogadwyedd allweddol drwy gynnig hyfforddiant, datblygu sgiliau a darparu llwybrau ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol.
Siaradodd Keenan am gymryd rhan yn yr hyfforddiant a sut roedd wedi arwain at ei swydd bresennol. Meddai: "Roeddwn i wedi gweithio mewn ffatri ond fe gollais fy swydd, ac roeddwn i'n ystyried cael fy ngherdyn CASA. Cysylltais i â'r bobl ym Mhen-rhys, ac fe wnes i'r cwrs cyfan a derbyn fy ngherdyn CASA. Roedd yn wych - roedd y tiwtor yn gyfeillgar ac yn rhoi llawer o gymorth.
"Wedi i mi ei orffen, cysylltodd Anna o Blue Water â Morgan Sindall. Dywedodd hi wrthyn nhw fy mod yn fodlon teithio yno i weithio a fy mod yn byw yn lleol. Dyna pryd cefais swydd gyda'r is-gontractwr, Smith's."
Nododd Keenan fod derbyn cymorth i gyflawni'r cymhwyster CASA yn bwysig iawn, a'i fod wedi agor drysau newydd ar ei gyfer yn y diwydiant.
Ychwanegodd: "Mae'n wych cael gweithio ar y prosiect lleol yma - mae tua 15-20 munud i ffwrdd o le rwy'n byw. Mae pawb sy'n rhan o'r prosiect yn gyfeillgar. Pan fydd y prosiect yn dod i ben, beth bynnag fydd yn digwydd nesaf, bydd gennyf fy mhrofiad a'm swydd gyntaf yn y diwydiant adeiladu ac mae'r profiad yma wedi fy mharatoi yn dda ar gyfer y dyfodol."
Yn ogystal â phrosiect Pen-rhys, mae Morgan Sindall wedi darparu ystod o weithgareddau ymgysylltu â phobl ifainc, gan gynnwys Ysgol Hen Felin - drwy ddarparu sesiynau dysgu ar thema adeiladu, cipolwg ar yrfaoedd yn y diwydiant, a phrofiadau ymarferol. Mae'r contractwr hefyd yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian mewn perthynas â mentrau cymunedol a fydd yn gwella iechyd, lles a chynhwysiant.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg: "Pryd bynnag rydyn ni'n datblygu prosiect buddsoddi sylweddol ar gyfer un o'n hysgolion, rhan bwysig o'r broses adeiladu ehangach yw ystyried sut mae modd i ni ymgysylltu â'r gymuned yn gadarnhaol neu fuddion eraill, mewn partneriaeth â'n contractwyr penodedig. Gall hyn amrywio o gomisiynu cwmnïau lleol ar gyfer elfennau o'r datblygiad, i ymweliadau addysgol ag ysgolion lleol, a darparu rhaglenni sgiliau a hyfforddi er mwyn cynorthwyo pobl i sicrhau gwaith.
"O ganlyniad, mae'n wych clywed stori Keenan, a ddaeth o hyd i gymorth trwy’r prosiect cyflogadwyedd ym Mhen-rhys mewn cyfnod lle'r oedd ei gyflogaeth flaenorol wedi dod i ben. Cafodd y prosiect ei gefnogi gan ein contractwr Morgan Sindall, ac mae wedi rhoi hyfforddiant ac achrediad y diwydiant iddo ar gyfer swydd ym maes adeiladu. Mae ei swydd gyntaf yn y diwydiant felly yn rhan o waith adeiladu’r ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd yng Nghwm Clydach. Da iawn Keenan am dy ymdrech a dy ymroddiad!"
Ychwanegodd Robert Williams, Cyfarwyddwr Ardal Morgan Sindall Construction yng Nghymru:"Mae gweld pobl ifainc fel Keenan yn cymryd eu camau cyntaf yn y diwydiant adeiladu yn dangos yn union pam mae ein gwaith ni mewn cymunedau lleol mor bwysig. Mae'r Ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd yng Nghwm Clydach yn creu amgylchedd dysgu rhagorol a hefyd yn creu cyfleoedd ystyrlon i bobl ifainc ennill sgiliau, hyder a gyrfaoedd hirdymor. Rydyn ni'n falch iawn o sut mae Keenan wedi croesawu’r hyfforddiant yma a'i swydd newydd gyda Smiths, ac rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni wedi chwarae rhan o ran ei helpu i ddechrau ei yrfa ym maes adeiladu."
Mae'r Ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol 3-19 oed newydd yng Nghwm Clydach yn un o naw prosiect buddsoddiad ysgol cyffrous sy'n cael eu datblygu er mwyn eu darparu yn 2026 a thu hwnt. Mae hyn yn rhan o ymrwymiad cyllid gwerth £414 miliwn gan y Cyngor. Dysgwch ragor am ein prosiectau yn y gorffennol, rhai presennol a phrosiectau’r dyfodol ar ein gwefan.
Bydd yr ysgol newydd yn darparu cyfleusterau ADY cyfrwng Saesneg i 176 o ddisgyblion mewn adeilad deulawr modern. Mae'n cael ei hadeiladu ar hen safle'r Pafiliynau, ac mae wedi'i dylunio er mwyn diwallu safonau Carbon Sero Net o ran gweithredu. Bydd yn cynnwys 23 o ystafelloedd dosbarth, yn ogystal â phwll therapi dŵr, canolfan les, ac ardaloedd dysgu a mannau chwarae awyr agored. Bydd maes parcio â 79 cilfach barcio yn cael ei gynnwys ar y safle.
Mae modd i rieni a gwarcheidwaid plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf, sy'n byw yn nalgylch yr ysgol newydd, gysylltu â ni i ddysgu rhagor am gymhwysedd. Bwriwch olwg ar ein gwefan neu e-bostiwch: GweinydduADY@rctcbc.gov.uk.
Wedi ei bostio ar 27/11/2025